Afon Eisingrug
Afon yn ne Gwynedd, Cymru, yw Afon Eisingrug. Mae'n llifo trwy ran o ogledd-orllewin bro Ardudwy. Ei hyd yw tua 4.5 milltir.
Afon Eisingrug yn llifo dan Bont Glan-y-wern | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Dwyryd |
Cyfesurynnau | 52.888243°N 4.037808°W |
Tarddiad | Llyn Caerwych |
Aber | Llanfihangel-y-traethau |
Llyn Caerwych, mewn pant eang ar lethrau gorllewinol Bryn Cader Faner yw tarddle'r afon. O'r llyn mae'r afon yn llifo i'r de am hanner milltir cyn troi i lifo ar gwrs gorllewinol i lawr heibio i bentref bychan Eisingrug ac wedyn yn syrth trwy Lyn Cywarch i bentref Glan-y-wern. Mae pont yn dwyn y ffordd A496 drosti ger Glan-y-wern ac un arall fymryn yn is i lawr yn dwyn Rheilffordd Arfordir Cymru.
Mae rhan olaf ei chwrs yn weddol syth dros ymyl ogleddol Morfa Harlech. Mae'n cyrraedd ei haber ger Llanfihangel-y-traethau lle mae ffrwd fechan o Forfa Harlech yn ymuno â hi i lifo i'r Traeth Bychan. Pan fo'r llanw'n isel gwelir ei gwely ar y traeth am hanner milltir arall hyd at Afon Dwyryd.