Bryn Cader Faner
Carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Bryn Cader-Faner, i'r dwyrain o gymuned Talsarnau, Gwynedd; cyfeiriad grid SH647353, ac i'r gogledd o Lyn Eiddew Bach a Llyn Eiddew Mawr yn y Rhinogau. Mae'n un o'r hynafiaethau mwyaf adnabyddus o'r cyfnod hwn yng Nghymru. Saif ar fryn isel o'r un enw.
Math | safle archaeolegol, carnedd gron |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.898234°N 4.011337°W |
Cod OS | SH647353, SH6479035290 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME061 |
Disgrifiad
golyguEi phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd, ac nid yw chwaith yn gylch cerrig. Mae'n mesur tua 8m ar draws, gyda meini mwy wedi eu gosod ar ongl ar hyd yr ochrau. Difrodwyd rhan o'r heneb hon gan y fyddin pan oeddent yn ymarfer cyn yr Ail Ryfel Byd.
Saif ar hen lwybr o Oes yr Efydd, ac mae nifer o hynafiaethau eraill gerllaw, gan gynnwys olion cytiau, cylchoedd cerrig a meini hirion. Gellir cyrraedd yma trwy ddilyn y briffordd A496 tua'r de heibio Talsarnau, troi i'r chwith lle mae arwydd Gwesty Maes y Neuadd, cadw i'r chwith pan mae'r ffordd yma'n fforchio ac yna cymryd y tröad nesaf i'r dde a pharcio ym mhen draw'r ffordd. Gellir wedyn dilyn y trac tua Llyn Eiddew Bach, ond cadw'n syth ymlaen pan mae'r trac yma'n troi i'r dde wedi mynd trwy'r trydydd giât. Mae'r llwybr yma yn awr yn dilyn llinell yr hen drac o Oes yr Efydd, ac yn mynd heibio Bryn Cader Faner a welir ar y dde ymhen tipyn.
Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME061.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)