Llanfihangel-y-traethau

plwyf eglwysig hanesyddol yng Nghymru

Pentref bychan a phlwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llanfihangel-y-traethau ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH594353). Mae'r pentref ei hun yn cael ei nodi ar rai mapiau fel "Ynys" yn hytrach na Llanfihangel-y-traethau.

Llanfihangel-y-traethau
Llanfihangel y TraethauLB09.JPG
Mathplwyf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.897477°N 4.090183°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Crefydd/EnwadAnglicaniaeth Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata

Saif y pentref, sy'n gymuned wasgaredig, ar ochr dwyreiniol y bryniau isel i'r gogledd o wastadedd Morfa Harlech, ar lan y Traeth Bach ac aber Afon Dwyryd, tua tair milltir a hanner i'r gogledd o Harlech. Rhed ffordd yr A496 trwy'r pentref ac mae gorsaf aros ar Reilffordd Arfordir Cymru Tŷ Gwyn (Glan-y-wern) tua chwarter milltir i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd plwyf Llanfihangel-y-traethau yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys Y Lasynys, cartref Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, yn yr 17g. Mae'n ymestyn o lan Bae Ceredigion i fyny i ragfryniau'r Rhinogau.

Eglwys Llanfihangel-y-traethau

EglwysGolygu

Mae Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn hen ond mae'r adeilad heddiw yn gymharol newydd. Roedd yn un o eglwysi'r pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Yn ôl traddodiad lleol a gofnodir ar garreg (cymharol ddiweddar) yn yr eglwys, codwyd yr eglwys gan Wleder fam Hoedliw yn oes Owain Gwynedd, ond diau fod llan yno cyn hynny.[3]

Claddwyd y gyfrinwraig Mari'r Fantell Wen (1735? - 1789) ym mynwent yr eglwys.[3]

Oriel luniauGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. 3.0 3.1 T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1954).