Afon Llugwy (Powys)
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Mae Afon Llugwy (Saesneg: Afon Lugg), yn afon sy'n tarddu ar lethrau Bryn y Pwll ym mryniau Powys, i'r gorllewin o bentref Llangynllo.
Math | afon, cwrs dŵr, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Arwynebedd | 30.6 ha |
Cyfesurynnau | 52.0311°N 2.6361°W, 52.293271°N 3.0729°W |
Aber | Afon Gwy |
Llednentydd | Afon Frome, Afon Arwy, Afon Kenwater |
Hyd | 72 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae hi'n llifo ar gwrs dwyreiniol heibio i Billeth lle ymladdwyd Brwydr Bryn Glas yn 1402, ac ymlaen trwy dref Llanandras lle mae'n croesi'r ffin i Swydd Henffordd yn Lloegr. Yn Swydd Henffordd mae hi'n llifo trwy Lanllieni. I'r de o'r dref honno mae Afon Arrow yn cydlifo ynddi, ac mae'n llifo i mewn i Afon Gwy, ym Mordiford, 9 milltir o Henffordd a 45 milltir o'i tharddle ym Mhowys.