Afon Llyfnant
Afon yng ngogledd Ceredigion yw Afon Llyfnant. Mae'n un o lednentydd Afon Dyfi ac yn llifo i'r afon honno ger ei haber ger Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi, tua 3.5 milltir i'r de-orllewin o dref Machynlleth. Ei hyd yw tua 6 milltir. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n dynodi'r ffin sirol rhwng Powys a Cheredigion.
Afon Llyfnant ger ei chymer ar Afon Dyfi | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.55°N 3.94°W |
Aber | Afon Dyfi |
Cwrs
golyguMae'r afon yn tarddu tua 400 meter i fyny yn Llyn Pen-rhaeadr, ger safle Brwydr Hyddgen ym mryniau gogleddol Pumlumon. Llifa Afon Llyfnant allan o'r llyn i gyfeiriad y gogledd. Mae'n llifo dros graig gan greu rhaeadr Pistyll y Llyn tua hanner milltir o'r llyn.[1] Cyfeiria enw'r llyn hwnnw at y rhaeadr hon.
Llifa'r llednant Nant y Gog i'r afon hanner milltir i lawr o'r rhaeadr. Ceir rhaeadr arall yng Nghwm y Rhaiadr lle daw ffrwd arall (ddienw) i lifo iddi o lethrau Creigiau Bwlch Hyddgen.[1]
Mae'r afon yn troi i gyfeiriad y gorllewin am weddill ei chwrs gan lifo trwy goedwigoedd Cwm Llyfnant. Mae'n llifo heibio i bentrefan Glaspwll. Mae'n llifo dan y briffordd A487 lle ceir Pont Llyfnant i gludo'r ffordd drosti ac yn cyraedd gwastadedd gwlyb glannau Afon Dyfi gan lifo i'r afon honno ger Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi, rhyw filltir o aber Dyfi.[1] Mae'r gwlybdir hon yn warchodfa natur sy'n rhan o ardal Biosffer Dyfi.