Brwydr Hyddgen
Tua mis Mehefin 1401 ymladdwyd brwydr Hyddgen yn uchel ar lethrau Pumlumon, ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion.
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | gwrthryfel Owain Glyn Dŵr |
Lleoliad | Pumlumon Fawr |
Sir | Teyrnas Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.506°N 3.797°W |
Cyfnod | Mehefin 1401 |
Ymladd
golyguTrechodd byddin fach Owain Glyn Dŵr lu mawr o Saeson oedd yn ceisio cyrraedd castell Aberystwyth. Yn ôl traddodiad dim ond tua 500 o ryfelwyr oedd gan Glyn Dŵr i wynebu byddin o tua 1500 o'r gelyn. Roedd mantais y tirwedd yn erbyn y Cymry, a oedd yn sefyll ar y tir isel wrth i'r Saeson ymosod ar i lawr o gyfeiriad y dwyrain. Ond credir mai ymsefydlwyr o Ffleminiaid o dde Sir Benfro oedd nifer helaeth o'r milwyr ym myddin y Saeson; milwyr dros dro oeddynt, heb lawer o ddisgyblaeth yn eu rhengoedd, er bod ganddyn' nhw arfau da.
Safle
golyguMae union safle'r frwydr yn ansicr. Ceir llecyn o'r enw Hyddgen ar lethrau gogleddol Pumlumon, tua milltir a hanner i'r gogledd o gronfa ddŵr Nant-y-moch. Mae afonig fach Afon Hyddgen yn llifo o'r llecyn i'r de i ymuno'n fuan ag Afon Hengwm i lifo i Nant-y-moch, tarddle Afon Rheidol. Rhwng Afon Hyddgen ac Afon Hengwm saif bryn Corn Hyddgen (564m). Dwy filltir i'r gogledd o Hyddgen mae Creigiau Bwlch Hyddgen yn glogwyn serth sylweddol uwchben Hengwm. Mae'r tir o gwmpas yn wlyb iawn dan droed ymhob tymor.
Cof
golyguCodwyd cofeb ger argau Nant-y-Moch a ddadorchuddiwyd gan Gwynfor Evans ar 16 Gorffennaf, 1977.