Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi
Gorsaf Reilffordd y Cambrian ar lan ddeheuol Afon Dyfi yw Cyffordd Dyfi (Saesneg: Dovey Junction railway station). Dyma lle mae'r rheillffordd o Amwythig yn rhannu, a llinellau yn mynd i Aberystwyth a Phwllheli. Darperir gwasanaethau trenau gan Trafnidiaeth Cymru.
![]() | |
Math | gorsaf reilffordd, Keilbahnhof ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1863 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.564°N 3.924°W ![]() |
Cod OS | SN697980 ![]() |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 2 ![]() |
Côd yr orsaf | DVY ![]() |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Trafnidiaeth Cymru ![]() |
Mae Cyffordd Dyfi yn agos iawn i'r pwynt lle mae Gwynedd, Ceredigion, a Phowys yn cyfarfod.
Mae'r orsaf hon yng nghanol gwarchodfa natur yn agos i arfordir Bae Ceredigion lle mae Afon Llyfnant yn llifo i Afon Dyfi. Nid oes pentref yng Nghyffordd Dyfi, ond yn groes i'r farn gyffredinol, nid yw'r orsaf yn anhygyrch: mae llwybr tri chwarter milltir o hyd yn gadael i deithwyr gerdded i Landyfi.
Cafodd yr orsaf hon ei hailadeiladu ddwywaith yn ystod y degawdau diwethaf. Adeilad gan Great Western Railway oedd yr adeilad gwreiddiol ond ailosodwyd yr adeilad gan un gyda tho gwastad yn y saithdegau. Ond yn y nawdegau syrthiodd yr adeilad hwn mewn adfeiliad a chafwyd wared ohono. Yn awr, dim ond cysgod syml sydd yno a ailosod yr adeilad diwethaf.
Hefyd, mae enw'r orsaf hon yn cael ei defnyddio gan dîm pêl-droed yng nghynghrair "Aberystwyth Digs League". Cafodd y tîm ei greu yn 2003.