Afon Llugwy (Powys)

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Afon Lugg)

Mae Afon Llugwy (Saesneg: Afon Lugg), yn afon sy'n tarddu ar lethrau Bryn y Pwll ym mryniau Powys, i'r gorllewin o bentref Llangynllo.

Afon Llugwy (Powys)
Mathafon, cwrs dŵr, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd30.6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0311°N 2.6361°W, 52.293271°N 3.0729°W Edit this on Wikidata
AberAfon Gwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Frome, Afon Arwy, Afon Kenwater Edit this on Wikidata
Hyd72 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae hi'n llifo ar gwrs dwyreiniol heibio i Billeth lle ymladdwyd Brwydr Bryn Glas yn 1402, ac ymlaen trwy dref Llanandras lle mae'n croesi'r ffin i Swydd Henffordd yn Lloegr. Yn Swydd Henffordd mae hi'n llifo trwy Lanllieni. I'r de o'r dref honno mae Afon Arrow yn cydlifo ynddi, ac mae'n llifo i mewn i Afon Gwy, ym Mordiford, 9 milltir o Henffordd a 45 milltir o'i tharddle ym Mhowys.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.