Afon yn ne-orllewin Ffrainc/Gwlad y Basg Ffrengig yw Afon Nive (Basgeg: Errobi, Ffrangeg a Gasgwyneg: La Nive). Mae'n tarddu yn y Pyreneau ac yn aberu yn y Cefnfor Iwerydd yn ninas Baiona/Bayonne. Ei hyd yw 79.5 km.

Afon Nive
Mathafon Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Anonymât (Kvardek du)-Nive.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGwlad y Basg Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau43.02496°N 1.1806°W, 43.4952°N 1.47407°W Edit this on Wikidata
TarddiadOrbaizeta Edit this on Wikidata
AberAturri, Baiona Edit this on Wikidata
LlednentyddNive d'Arnéguy, Bastan, Ampro, Berroko erreka, Hillans, Lakako erreka, Latsa, Laurhibar, Laxia, Nive de Béhérobie, Nive des Aldudes, Antzara Edit this on Wikidata
Dalgylch1,030 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd79.3 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Afon Nive yn llifo trwy Baiona/Bayonne
Afon Nive yn Ixassou

Gorwedd tarddle Afon Nive yng nghoedwig Ôrion, 1 km o fwlch Orgambidé (1001 m) ar y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen, ar uchder o 360 metr.

Yn Donibane Garazi/Saint-Jean-Pied-de-Port mae tair ffrwd yn ymuno:

  • Nive de Béhérobie (prif ffrwd yr afon)
  • Laurhibar,
  • Nive d'Arnéguy.

Yn ninas Baiona mae Afon Adour yn llifo i'r afon, tua 10 km o'i haber yng Ngwlff Gasgwyn.

Mae'r afon yn adnabyddus am ei physgota eog ac mae rhannau yn boblogaidd am chwaraeon dŵr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.