Afon Rhiangoll

afon ym Mhowys

Afon yn ne Powys sy'n llifo i mewn i afon Wysg yw Afon Rhiangoll (weithiau Afon Rhiaingoll). Am ran helaeth ei chwrs mae'n llifo trwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Afon Rhiangoll
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.876°N 3.177°W Edit this on Wikidata
Map
Afon Rhiangoll i'r gogledd o Gwmdu

Tardda'r afon ar lethrau gogleddol Waun Fach yn y Mynydd Du. Llifa tua'r gorllewin, cyn troi tua'r de ger Cwmfforest a llifo heibio llechweddau dwyreiniol Mynydd Troed. Mae'n llifo yn gyfochrog a'r briffordd A479 heibio pentrefi Cwmdu a Felindre a gerllaw Tretŵr, cyn ymuno ag afon Wysg ychydig i'r de o Dretŵr.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.