Mynydd Troed
Copa yn y Mynydd Du yw Mynydd Troed. Saif tua thair milltir i'r de o dref Talgarth a dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llangors, Powys; cyfeiriad grid SO165292. Mae'r copa ar ochr ogleddol crib sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 609 metr |
Cyfesurynnau | 51.9553°N 3.2155°W |
Cod OS | SO1656829237 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 286 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Troed |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du |
Dosbarthiad
golyguUchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 323metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Is-Hewitt a Nutall . Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 609 metr (1998 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.