Afon Rhymni
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Afon ym mwrdeisdref sirol Caerffili a Chaerdydd yn ne Cymru yw Afon Rhymni. Mae'n llifo ar hyd Cwm Rhymni i aber Afon Hafren ger Caerdydd. Mae rhan o'r afon yn dynodi'r ffin rhwng siroedd Caerffili a Chasnewydd: arferai'r afon ffurfio'r ffîn rhwng Sir Forgannwg a'r hen Sir Fynwy.
Math |
afon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cymru ![]() |
Gwlad |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau |
51.4833°N 3.1167°W, 51.504512°N 3.139118°W ![]() |
Aber |
Môr Hafren ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Tardda'r afon ar y llechweddau i'r gogledd o'r briffordd A465, ar ochr de-orllewinol Cefn Pyllau-duon.
O'r gogledd i'r de mae'n llifo trwy neu heibio:
- Rhymni
- Tredegar Newydd
- Bargod
- Ystrad Mynach
- Caerffili, lle mae'n troi tua'r dwyrain i osgoi Mynydd Caerffili
- Bedwas
- Machen
- Caerdydd (Tredelerch a Llanrhymni)