Afon yng nghanolbarth a gogledd Mongolia yw Afon Tuul (Mongoleg: Туул гол, tuul gol; weithiau Tola mewn hen lyfrau). Mae ganddi hyd o 704 km gyda basn o tua 49,840 km sgwar.

Afon Tuul
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Töv Edit this on Wikidata
GwladBaner Mongolia Mongolia
Cyfesurynnau48.94847°N 104.79861°E, 48.9481°N 104.7986°E Edit this on Wikidata
TarddiadMynyddoedd Khentii Edit this on Wikidata
AberAfon Orkhon Edit this on Wikidata
Dalgylch49,840 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd704 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gyda'i tharddle yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Gorkhi-Terelj ym Mynyddoedd Khentii, mae'r afon yn llifo trwy ran ddeheuol Ulan Bator, prifddinas Mongolia. Mae'n llednant o Afon Orkhon, sy'n llednant o Afon Selenge, sy'n llifo wedyn i Rwsia a Llyn Baikal. Llifa Afon Tuul drwy Barc Cenedlaethol Khustain Nuruu hefyd. Mae'n rhewi drosodd fel rheol o ganol mis Tachwedd i ganol Ebrill. Nodweddir glannau'r afon gan goedwigoedd helyg ac mae'n gartref i rywogaeth brin o sturgeon.

Mae'r afon yn dioddef gan lygred a achosir gan garthffosiaeth o Ulan Bator a gwaddoliadau trwm mewn canlyniad i fwyngloddio aur yn ardal Zaamar.

Dolenni allanol golygu