Agor y brif ddewislen
Salix
Salix alba 'Vitellina-Tristis'
Morton Arboretum acc. 58-95*1
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Malpighiales
Teulu: Salicaceae
Llwyth: Saliceae[1]
Genws: Salix
L.
Rhywogaethau

Tua 400.[2]
Gweler: Rhestr o goed helyg

Coeden fechan, ysgafn ydy'r helygen (Lladin: salix; Saesneg: willow) a cheir tua 400 gwahanol math[2] o'r coed collddail a llwyni hyn. Y gair lluosog amdani yw helyg fel yn y gân honno gan Meic Stephens: Cwm y Pren Helyg. Mae'r goeden hon yn fwyaf cyffredin mewn tir gwlyb yng ngwleddydd hinsawdd oer Hemisffer y Gogledd. Fel sy'n digwydd yn aml mewn benthyciadau o'r Lladin mae'r ddwy lythyren "s" a "h" yn cyfnewid; benthyciad yw'r gair "helyg" o "salix", felly, diolch i'r ymwelwyr Rhufeinig ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Tyf y rhywogaethau arctig ac alpaidd yn debycach i lwyni isel na choed, e.e. anaml iawn mae'r Salix herbacea yn tyfu'n uwch na 6 cm (2 fodfedd), er ei fod yn lledaenu'n wyllt dros wyneb y tir.

Mae helyg yn croes-ffrwythloni'n hawdd, a cheir llawer o wahanol rywogaethau oherwydd hyn. Mae'n eitha rhwydd creu amrywiad annaturiol ohoni fel a wnaed gyda'r helygen wylofus (Salix × sepulcralis), sydd wedi'u haddasu o'r helygen Peking (Salix babylonica) o Tsieina a'r helygen wen (Salix alba) o Ewrop.

Cynffonau ŵyn bach yn egino ar goeden Salix purpurea

Y blodauGolygu

 
Cynffonau Ŵyn Bach

Ymddengys y blodau gwryw a benyw fel cynffonau ŵyn bach ar wahanol blanhigion; tyfant ar ddechrau'r gwanwyn yn aml iawn cyn i'r dail dyfu. Nid oes gan y blodau gwryw na benyw galycs na phistil.

Mathau niferusGolygu

Ceir sawl math o helygen a bu hynny’n gryn sialens i dacsonomegwyr dros y blynyddoedd oherwydd yr holl amrywiaethau posib. Yn y New Atlas of the British And Irish Flora[3] rhestrir o leia 12 prif rywogaeth, brodorol a chyflwyniedig, ynghyd â nifer o is-rywogaethau a chroesiadau niferus. Golyga hynny bod bron i 30 math o helygen yn tyfu’n wyllt yng Nghymru. Ar ben hynny ceir sawl math o helyg gwiail a dyfir yn fasnachol (am eu gwahanol liwiau) ar gyfer basgedwyr ac mae’r rhywogaethau egsotig a’r holl fathau garddwriaethol nad ydynt (eto) wedi dianc i’r gwyllt yn faes arall.

DefnyddGolygu

Yn hanesyddol, fe’i hystyriwyd yn un o’n coed mwyaf defnyddiol – ddim i adeiladu tai a gwneud giatiau – oherwydd dydy’r pren ddim yn ddigon sylweddol na chryf i hynny o bell ffordd. Ond, yn hytrach, i wneud pob mathau o offer[4] megys handlenni morthwylion a bwyelli llaw; meddyginiaethau, gwaith plethu ac mae pren helyg yn enwog iawn i wneud batiau criced.

GwiailGolygu

Mewn rhai ardaloedd, lle mae’r tir yn weddol gorsiog, fel yng Ngwent a Gwlad yr Haf, tyfir mathau arbennig o helyg (yr helygen wiail, Salix viminalis, yn bennaf) fel crop, hyd heddiw, i gynhyrchu gwiail i’w plethu’n fasgedi a dodrefn ‘wickerwork’. ayyb. Ar un adeg ceid ‘gwinllan helyg’ bron ym mhob ardal, lle byddid yn bon-dorri helyg yn rheolaidd i gynhyrchu gwiail main ar gyfer basgedwyr proffesiynnol a chrefftwyr eraill cefn gwlad.
Am fasgedi o bob math y byddai’r galw mwyaf ac fe’u gwerthid yn y ffeiriau, marchnadoedd lleol a siopau, e.e: basgedi amaethyddol – i hel tatws a ffrwythau, neu i gario bwydydd anifeiliaid; basgedi marchnad – i arddangos a gwerthu bob dim o fara i bysgod; basgedi tŷ – fel y fasged ddillad, basged wnîo, basged neges, basged y gath a hyd’noed y fasged bicnic i fynd am dro i lan y môr; basgedi ffansi – daeth basgedi addurniadol, wedi eu plethu yn batrymau efo gwiail o wahanol liwiau, yn eu holau yn ffasiynnol iawn yn sgîl yr adfywiad fu ym myd crefftau celfyddydol ers y 1990au.
Defnydd hynafol arall o wiail oedd i wneud clwydi a hefyd plethwaith ar gyfer adeiladu waliau mewn hen dai (wedi eu plastro hefo mwd neu blastar calch). Hefyd cychod gwenyn, cewyll i ddal cimychiaid, rhaffau a fframiau cyryglau – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Byddai cynhyrchu’r holl offer a nwyddau hyn yn rhoi gwaith i fasgedwyr a phlethwyr ac yn sail i ddiwydiant cefn gwlad eitha sylweddol ar un adeg.[5]

Golosg a thanwyddGolygu

Defnydd arall pwysig o wiail yr helygen yw ar gyfer ei fud-losgi i wneud golosg – ystyrir mai golosg helyg sydd orau ar gyfer arlunio. Ond mae posibilrwydd y daw llosgi helyg yn bwysig mewn cyswllt arall yn y dyfodol, sef fel fel ‘bio-danwydd’. Eisoes cynhaliwyd profion maes ar raddfa helaeth yn Fife yn yr Alban i ymarferoldeb tyfu gwiail helyg ar gylchdro tair mlynedd i gynhyrchu crop i’w losgi mewn boeleri i gynhyrchu gwres[6]‬ . Am fod helyg yn tyfu mor rwydd yng Nghymru, gall ei dyfu fel ‘bio-danwydd’ brofi’n gaffaeliad i’r economi amaethyddol – fel y cynydda pris olew a phetrol yn y dyfodol.[5]

Defnydd meddygolGolygu

Sonir am nodweddion y goeden hon mor bell yn ôl â 1,700 C.C.[7] Defnyddiwyd ef ledled y byd gan gynnwys y Rhufeiniaid a Brodorion America.

Mae’r helygen yn enwog am ei defnyddiau meddigyniaethol – yn enwedig y rhisgl ar gyfer lleihau gwres twymyn ac atal poen chryd cymalau‭ ‬ayyb. Ceir cofnod cynnar o hynny yn rysetiau Meddygon Myddfai yn y 12g. Y gred oedd bod planhigyn fel yr helygen yn gweithio drwy ‘ddewiniaeth sympathetig’, a bod arwydd o’i werth meddygol yn amlygu ei hun drwy ‘athrawiaeth yr arwyddnodau’ h.y. bod rhyw nodwedd o’r planhigyn yn arwydd o’i ddefnydd. Yn yr achos hwn yr arwydd oedd y cynefin – planhigyn y gwlyptir yn dda i iachau afiechydon godai o effeithiau gwlybaniaeth? Ond bu raid aros tan ddiwedd y 19g i gael gwybod natur y cyffur gweithredol. Erbyn hynny, roedd technegau cemegol wedi datblygu’n ddigon da i bobl fedru dadansoddi a phuro amryw o gemegau meddyginiaethol o blanhigion – gan gynnwys y cemegyn defnyddiol o’r helygen oedd yn lladd poen. Enwyd hwn yn asid salisylig ar ôl yr helygen (‭Salix‬) a daeth ar y farchnad, ar ffurf asid asetyl-salisylig, a than yr enw masnachol Aspirin gyntaf yn 1899.[8] Heb os, Asprin oedd un o ddarganfyddiadau meddygol pwysica’r cyfnod modern ac mae cemegwyr yn dal i ddarganfod defnyddiau newydd‭ ‬iddo hyd heddiw. Mawr yw ein dyled i’r Helygen.[5]

Llên gwerinGolygu

Mae cryn dipyn o lên gwerin am yr helygen, a llawer ohono yn codi o’r disgrifiad yn Salm 137 o’r Iddewon ynghaeth yn Babilon: ‭Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom,‬ ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’i mewn y crogasom ein telynnau.[9]. A chymaint oedd pwysau’r holl delynnau nes gwyrai’r canghennau tua’r llawr – fel petaent yn wylo. Dyna darddiad y ddelwedd o’r ‘helygen wylofus’ – yn wylo mewn cydymdeimlad â’r Iddewon yn eu caethiwed. Stori dda, ond, gwaetha’r modd, ddim yn hollol iawn. Oherwydd nid yr helygen fyddai ym Mabilon ond y boplysen! Gwnaethpwyd y camgymeriad yn y cyfieithiad gwreiddiol i’r iaith Groeg mae’n debyg[10]. Ond roedd y syniad mai’r helygen oedd ym Mabilon wedi gwreiddio cymaint fel pan ganfyddwyd helygen wylofus go iawn – efo’i changhennau yn plygu’n naturiol tua’r llawr, yn Tsieina, ddiwedd y 17g (daethpwyd â hi i’r wlad yma fel planhigyn gardd yn 1692), fe’i galwyd yn‭ Salix babylonica‬ (er na fu cysylltiad Babilonaidd, botanegol o leiaf, erioed!)

Mae’r cysylltiad rhwng yr helygen a‭ ‬galar‭ ‬neu dristwch yn dal hefo ni – dyma pam y gwelwch ganghennau wylofus yr helygen yn addurn ar gerrig beddau a chardiau cydymdeimlo hyd heddiw.[5]

Cap GwiailGolygu

Yng Nghymru, rhyw ddwy ganrif yn ôl, roedd yn gyffredin i gysylltu’r helygen â thristwch colli cariad. Cyfeiria Marye Trevellyan (1909) at hynny[11], a’r arfer Cymreig o wisgo cap wedi ei blethu o wiail os oeddech wedi cael eich gwrthod gan eich cariad. Roedd arfer tebyg – o yrru ‘ffon wen’ neu damaid o bren collen wedi ei risglo i rywun yr oeddech yn ei wrthod neu ei gwrthod. A hynny am fod chwarae ar eiriau rhwng ‘collen’ a ‘colli’ mae’n debyg.[5]

Cywion gwyddauGolygu

Anlwc o’r mwyaf yw dod â blodau’r helyg, y ‘cywion gwyddau’ i’r tŷ yn y gwanwyn rhag i hynny amharu ar ddeoriad y cywion gwyddau go iawn dan yr ŵydd[12]. Ceid y goel hon am flodau eraill y gwanwyn hefyd – megis briallu (fyddai’n amharu ar ddeoriad y cywion ieir), ‘cynffonnau ŵyn bach’ (fyddai’n amharu ar lwyddiant yr ŵyna, ayyb). Tebyg mai rhyfygu oeddech wrth ddod â’r blodau hyn i’r tŷ drwy gymeryd y gwanwyn yn rhy ganiataol.[5]

CyfeiriadauGolygu

  1. "Genus Salix (willows)". Taxonomy. UniProt. Cyrchwyd 2010-02-04.
  2. 2.0 2.1 Mabberley, D.J. 1997. The Plant Book, Cambridge University Press #2: Caergrawnt.
  3. ‭New Atlas of the British and Irish Flora‬ (2002), Preston C D, Pearman D A, Dines T D
  4. ‭Y Crefftwr yng Nghymru ‬(1933), Peate I C
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 Tynnwyd yn helaeth o addasiad o ysgrif ddarlledwyd ar Radio Cymru: ‘Natur Wyllt’, Rhagfyr 2005 a ‘Galwad Cynnar’, Ebrill 8fed, 2006 gan Twm Elias
  6. Willow biofuel ‬(2006),‭ [www.scottishcoal.co.uk]
  7. Gwefan Tour Egypt; adalwyd 17 Medi 2012
  8. ‭Research, The Bayer Scientific Magazine‬ 9, (1999), Zundorf U
  9. ‭Beibl William Morgan ‬(1588)
  10. ‭Oxford Dictionary of Plant Lore‬ (1995), Vickery R.
  11. ‭Folk Lore & Folk Stories of Wales ‬(1909), Trevellyan M.
  12. ‭Discovering the Folklore of Plants ‬(1996), Baker M

Gweler hefydGolygu