Terfysgaeth yn Rwsia

Mae gan derfysgaeth hanes hir yn Rwsia, sy'n dyddio yn ôl i'r 19g a bradlofruddiaeth y Tsar Alexander II gan fudiad Narodnaya Volya.

Yn ystod cyfnod comiwnyddiaeth, defnyddiodd asiantaethau cudd Sofietaidd dactegau terfysgol yn erbyn y boblogaeth, tactegau megis cymryd gwystlon, yn ystod y Dychryn Coch a'r Carthiad Mawr.

Ers diddymu'r Undeb Sofietaidd mae terfysgaeth yn Ffederasiwn Rwsia yn agwedd o ryfeloedd yng nghyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Mae ymosodiadau terfysgol wedi digwydd ym Moscfa yn ogystal ag ym mharthau rhyfel Gogledd y Cawcasws, yn enwedig Tsietsnia a Dagestan. Mae rhai wedi cyhuddo gwasanaethau cudd Rwsia, yn enwedig y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB), o fod yn gyfrifol am rai o'r ymosodiadau hyn, trwy agents provocateurs neu drwy gynllwynion baner ffug.

Gweler hefyd golygu