Gwleidydd Tsietsniaidd yw Ramzan Akhmadovich Kadyrov (ganed 5 Hydref 1976) sydd wedi gwasanaethu yn bennaeth ar y Weriniaeth Tsietsniaidd ers 2007.

Ramzan Kadyrov
Ganwyd5 Hydref 1976 Edit this on Wikidata
Akhmat-Yurt Edit this on Wikidata
Man preswylAkhmat-Yurt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Itsceria, Rwsia Edit this on Wikidata
AddysgGwobr Kandidat Nauk mewn Economeg, Doethur Nauk mewn Economeg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Russian Academy of State Service
  • Dagestan State University Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddHead of the Chechen Republic Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolRwsia Unedig Edit this on Wikidata
TadAkhmad Kadyrov Edit this on Wikidata
MamAymani Kadyrova Edit this on Wikidata
PriodMedni Kadyrova Edit this on Wikidata
PlantAishat Kadyrova, Akhmad Kadyrov, Adam Kadyrov Edit this on Wikidata
PerthnasauKhalid Kadyrov Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal am Wasanaethau gweinyddu'r Cyfrifiad, Medal "For Distinction in the Protection of Public Order", Medal "200 Years of the MIA of Russia", Medal "I Gofio 300fed Pen-blwydd Sant Petersburg", Order of Courage, Hero of the Russian Federation, Order of Akhmad Kadyrov, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Q4287094, Order of Al-Fakhr, Athro Prifysgol (teitl anrhydeddus), Medal 10 Jahre Astana, medal "for 20 years of Kazakhstan's independence", Medal "For the Return of Crimea", Crimea defense medal, Athro Prifysgol (teitl anrhydeddus), Urdd Anrhydedd, Order “For fidelity to duty”, Order of the Friendship of Peoples, Zhukov Medal, Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "50 Mlynedd Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", medal for military valour, Medal of Honor "For merits in the protection of children of Russia", Honorary citizen of Chechen Republic, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Urdd Alexander Nevsky (Rwsia), Medal "100 years anniversary of the foundation of the Tatar Autonomous Soviet Socialist Republic", Hero of the Donetsk People's Republic, Q116478094, Q120280700, Hero of the Luhansk People's Republic, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Tsentaroy o fewn ffiniau'r Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Tsietsniaidd-Ingush, a oedd ar y pryd yn rhan o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia, yn yr Undeb Sofietaidd. Brwydrodd Ramzan a'i dad, Akhmad, ar ochr Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria yn erbyn Ffederasiwn Rwsia yn ystod Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994–96), ac ym 1995 penodwyd Akhmad Kadyrov yn Myffti Mawr Itsceria. Ar ddechrau Ail Ryfel Tsietsnia ym 1999, yn sgil trafodaethau â'r gwleidydd Dagestanaidd Ramazan Abdulatipov, ymgynghreiriodd y teulu Kadyrov â Ffederasiwn Rwsia, ac yn y blynyddoedd i ddod buont yn ffyddlon i lywodraeth Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, yn yr ymgyrch i drechu'r gwrthryfelwyr yn Tsietsnia ac i yrru'r Islamyddion i'r cyrion. Etholwyd Akhmad Kadyrov yn arlywydd cyntaf y Weriniaeth Tsietsniaidd yn Hydref 2003, a chafodd yr hwnnw ei lofruddio ym Mai 2004.

Wedi marwolaeth ei dad, daeth Ramzan Kadyrov yn ffigur gwleidyddol pwysicaf Gogledd y Cawcasws, a châi ei ystyried gan lywodraeth Rwsia fel arweinydd cryf a ffyddlon a fyddai'n cadw'r drefn yn y rhanbarth. Gwobrwywyd iddo fedal Arwr Rwsia gan yr Arlywydd Putin yn 2004, a chafodd ei baratoi gan y Cremlin ar gyfer arlywyddiaeth Tsietsnia. Yn Chwefror 2007, ychydig fisoedd wedi iddo droi'n 30, cafodd ei benodi'n arlywydd dros dro Tsietsnia yn sgil gorchymyn gan Putin yn diswyddo Alu Alkhanov., a chafodd Kadyrov ei gadarnhau yn y swydd gan senedd Tsietsnia ar 2 Mawrth. Bu brwydro am rym rhwng y Kadyrovtsky a lluoedd Vostok y Spetsnaz, a oedd yn cefnogi Sulim Yamadayev, hyd at ddadfyddino'r Vostok yn Nhachwedd 2008 a llofruddiaeth Yamadyev ym Mawrth 2009.

Fel llywodraethwr y Weriniaeth Tsietsniaidd, mae Kadyrov wedi gorfodi sharia, y gyfraith Islamaidd, i raddau, er enghraifft trwy gyfyngu ar hawliau merched a gwahaniaethu yn erbyn dynion cyfunrywiol. Fe'i cyhuddwyd gan sefydliadau anllywodraethol o gamdriniaethau hawliau dynol, gan gynnwys diflaniadau gorfodol ac artaith.

Mae Kadyrov yn aelod anrhydeddus o Academi Gwyddorau Naturiol Rwsia.[1] Mae'n hoff iawn o ymladd, ac wedi sefydlu clwb paffio a thwrnamaint ymgodymu flynyddol o'r enw Cwpan Ramzan Kadyrov ac Adlan Varayev. Gwasanaetho yn aelod o Gomisiwn Ymgynghorol Cyngor Gwladwriaethol Ffederasiwn Rwsia ers Tachwedd 2015.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stoeckl, Kristina (2008). Community After Totalitarianism: The Russian Orthodox Intellectual Tradition and the Philosophical Discourse of Political Modernity (yn Saesneg). Peter Lang. ISBN 978-3-631-57936-7.