Grŵp o gyfansoddwyr yn Fienna, Awstria, ar ddechrau'r 20g oedd Ail Ysgol Fienna (Almaeneg: Zweite Wiener Schule, Neue Wiener Schule). Roedd y grŵp yn cynnwys Arnold Schoenberg (1874–1951) a’i ddisgyblion, yn enwedig Alban Berg (1885–1946) ac Anton Webern (1883–1945), yn ogystal â nifer o gymdeithion agos eraill.[1] Mae'r gair "ysgol" yma yn dynodi "grŵp o arlunwyr, &c., y mae eu gwaith yn rhannu rhai nodweddion".[2] Mae'r gair "Ail" yn cyfeirio at y ffaith bod aelodau'r grŵp hwn yn cael eu hystyried mewn ryw ystyr fel olynwyr i gyfansoddwyr Fiennaidd y cyfnod Clasurol, sef Joseph Haydn (1732–1809), Wolfgang Amadeus Mozart (1756–1791) a Ludwig van Beethoven (1770–1827).

Ail Ysgol Fienna
Enghraifft o'r canlynolysgol cyfansoddwyr, mudiad cerddorol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Ail Ysgol Fienna yn gysylltiedig ag arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Mae'r grŵp hefyd yn adnabyddus am ddefnyddio'r dechneg deuddeg-nodyn a ddatblygwyd gan Schoenberg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Oliver Neighbour, Paul Griffiths, George Perle, The Second Viennese School: Schoenberg, Webern, Berg (Llundain: Macmillan, 1983)
  2.  1 ysgol1. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Medi 2022.

Llyfryddiaeth

golygu
  • René Leibowitz, Schoenberg et son école (Paris, 1947)