Duffy
Cantores soul Gymreig o Nefyn yw Aimee Anne Duffy (yn syml Duffy; ganwyd 23 Mehefin 1984). Daeth yn ail yn y rhaglen Wawffactor ar S4C yn 2003, a chafodd sylw ddiwedd 2007 a 2008 pan gafodd ei galw'n 2il ganwr/gantores gorau Sound of 2008 y BBC. Mae hi wedi perfformio ar raglenni fel Later With Jules Holland, gan dderbyn canmoliaeth uchel iawn ac hyd yn oed wedi ei chymharu â'r gantores Dusty Springfield. Rhyddhaodd ei halbwm Rockferry ym Mawrth 2008 yn y Deyrnas Unedig ac wedyn dros y byd. Yn Chwefror 2008 cyrhaeddodd Rhif 1 yn y siartiau Prydeinig gyda'i sengl Mercy. Roedd yr albwm yn llwyddiant ysgubol, yn cyrraedd rhif 1 dros Ewrop ac Ynysoedd y De. Bu'r albwm yn llwyddiant mawr yng Ngogledd America hefyd, yn cyrraedd rhif 4 yn siart albwmiau yr Unol Daleithiau.
Duffy | |
---|---|
Ganwyd | Amie Ann Duffy 23 Mehefin 1984 Bangor |
Label recordio | A&M Records, Polydor Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, cyfansoddwr, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, y felan |
Math o lais | soprano |
Gwefan | https://www.iamduffy.com/ |
Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddwyd y byddai Duffy yn hysbysebu Diet Coke wedi iddi arwyddo cytundeb o dros £100,000.[1]
Bywyd personol
golyguBu Duffy yn caru gyda Mark Durston, a anwyd yn Swydd Gaer[2] am dros bum mlynedd tan fis Tachwedd 2006. Roedd Duffy yn byw yn Abersoch gydag ef.[3]
Ym mis Medi 2008, soniodd Duffy ei bod "ar ffin cael chwalfa nerfus" oherwydd y pwysau yr oedd enwogrwydd wedi rhoi arni. Dywedodd ei bod wedi ystyried dod yn feudwy, ond yn y pen draw penderfynodd yn erbyn y syniad er mwyn ei chefnogwyr. Er ei bod yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn dda, roedd yn ei chael hi'n "frawychus" pan fydd pobl yn ei hadnabod ar y stryd, ac wedi bod yn ofni bod ei delwedd o bosibl yn newid y person y mae hi go iawn.[4][5]
Gyda ffortiwn amcangyfrifedig Duffy o £4 miliwn fe'i gosodwyd hi yn yr 16eg safle yn rhestr y Sunday Times 2009 o gerddorion ifanc cyfoethocaf Prydain Fawr.[6]
Bu'n caru gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Mike Phillips, o fis Medi 2009 i fis Mai 2011.[7]
Ar 3 Hydref 2012, dihangodd Duffy o dân yn y fflat penthouse ar rent yr oedd hi'n byw ynddo, Abbots House yn Kensington, Llundain.[8]
Ar 25 Chwefror 2020, dywedodd ar bost Instagram ei bod wedi cael ei "threisio, rhoi dan gyffur ac wedi ei dal yn wystl dros rai dyddiau" a'i bod wedi diflannu o fywyd cyhoeddus er mwyn iddi adfer o'r profiad, gan ychwanegu ei bod bellach yn gwneud yn dda ond ei bod wedi cymryd ei hamser i wella.[9][10] Yn ei chyfrif, ni roddodd unrhyw arwydd pwy oedd ei hymosodwr na sôn pryd na ble y digwyddodd yr ymosodiad.[11]
Albymau
golygu- Rockferry (2008)
- Endlessly (2010)
Aelodau'r band
golygu- Aimee Duffy: llais
- Bernard Butler: gitâr, piano, offerynnau taro
- Makoto Sakamoto: drymiau
- David McAlmont: llais
- Tobi Oyerinde: gitâr
- Ayo Oyerinde: allweddellau
- Tom Meadows: drymiau
- Ben Epstein: gitâr fâs
- Jon Green: gitâr
- Josh McKenzie: offerynnau taro
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Duffy signs six-figure deal as new face of Diet Coke ar Wales Online
- ↑ "News: The latest North Wales news from" (yn Saesneg). the Daily Post. 1 June 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2013. Cyrchwyd 27 June 2013.
- ↑ "Wakestock festival bigger and better than ever" (yn Saesneg). Northwales.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2009. Cyrchwyd 17 Ebrill 2013.
- ↑ Cockcroft, Lucy (28 Medi 2008). "Soul singer Duffy 'pushed to the brink of a breakdown' by her new-found fame". The Daily Telegraph (yn Saesneg). London: Telegraph Media Group Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2009.
- ↑ Michaels, Sean (2 Hydref 2008). "Duffy: I'm borderline on a nervous breakdown". The Guardian (yn Saesneg). London: Guardian News and Media Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2009.
- ↑ "Music giants' 'fortunes dwindle'" (yn Saesneg). BBC. 24 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2009. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2009.
- ↑ "Duffy splits from Welsh rugby star Mike Phillips". WalesOnline (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Hydref 2012. Cyrchwyd 27 September 2014.
- ↑ King, Martin (4 Hydref 2012). "Singer Duffy flees as blaze rips through £12m Kensington penthouse, but makes sure pets are safe". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2012. Cyrchwyd 4 Hydref 2012.
- ↑ "@duffy on Instagram: "You can only imagine the amount of times I thought about writing this. The way I would write it, how I would feel thereafter. Well, not…"". Instagram (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Chwefror 2020.
- ↑ "Duffy yn datgelu iddi gael ei threisio a'i chadw'n gaeth". Golwg360. 26 Chwefror 2020. Cyrchwyd 26 Chwefror 2020.
- ↑ Beaumont-Thomas, Ben (25 Chwefror 2020). "Pop star Duffy says she was raped, drugged and held captive". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Chwefror 2020.