Alemanni
Roedd yr Alemanni, Allemanni neu Alamanni yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf Afon Main, yn awr yn yr Almaen. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r 3g ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith Germania Superior. O'r 5g ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i Alsace a chyrraedd dyffrynnoedd yr Alpau erbyn yr 8g. Ffurfiasant wlad Alemannia, oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y Ffranciaid. Collodd Allemania ei hunaniaeth pan ymgorfforodd Siarl Martel y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr 8g.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol, cydffederasiwn |
---|---|
Olynwyd gan | Alamannia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn Ffrangeg (Allemagne) ac yn Sbaeneg (Alemania).
Rhestr o reolwyr yr Alemanni
golygu- Brenhinoedd
- Chrocus 306
- Mederich (tad Agenarich, brawd Chnodomar)
- Chnodomar 350, 357
- Vestralp 357, 359
- Ur 357, 359
- Agenarich (Serapio) 357
- Suomar 357, 358
- Hortar 357, 359
- Gundomad 354 (cyd-frenin Vadomar)
- Ursicin 357, 359
- Makrian 368 - 371
- Rando 368
- Hariobaud 4th c.
- Vadomar 354 - 360
- Vithicab 360 - 368
- Priarius ? - 378
- Gibuld (Gebavult) c. 470
- Dugiaid dan reolaeth y Ffranciaid
- Butilin 539 - 554
- Leuthari I cyn 552 - 554
- Haming 539 - 554
- Lantachar hyd 548 (esgobaeth Avenches)
- Magnachar 565 (esgobaeth Avenches)
- Vaefar 573 (esgobaeth Avenches)
- Theodefrid
- Leutfred I hyd 588
- Uncilin 588 - 607
- Gunzo 613
- Chrodobert 630
- Leuthari II 642
- Gotfrid hyd 709
- Willehari 709 - 712 (yn Ortenau)
- Lantfrid 709 - 730
- Theudebald 709 - 744