Alan Ayckbourn
Mae Syr Alan Ayckbourn CBE FRSA (ganwyd 12 Ebrill 1939) yn ddramodydd a chyfarwyddwr Prydeinig toreithiog. Bu'n ysgrifennu a chynhyrchu dramâu ers y 1950au, ac erbyn 2024, roedd y nifer o gynyrchiadau o ddramâu hir a gyflawnodd wedi cyrraedd cyfanswm o 90. Llwyfannwyd y gwaith yn Llundain a Scarborough, lle bu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph rhwng 1972 a 2009. Ers hynny, mae dros 40 o'i ddramâu wedi’u cynhyrchu yn y West End, yn y National Theatre neu gan y Royal Shakespeare Company. Ei sioe boblogaidd gyntaf oedd Relatively Speaking a lwyfannwyd yn Theatr y Duke of York ym 1967.
Alan Ayckbourn | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1939 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, libretydd |
Swydd | cymrawd |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts |
Gwefan | http://www.alanayckbourn.net |
Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975), Just Between Ourselves (1976), A Chorus of Disapproval (1984), Woman in Mind (1985), A Small Family Business (1987), Man of the Moment (1988), House & Garden (1999) a Private Fears in Public Places (2004). Mae ei ddramâu wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys saith Gwobr Evening Standard Llundain. Maent wedi eu cyfieithu i dros 35 o ieithoedd [gan gynnwys y Gymraeg] ac yn cael eu perfformio ar lwyfan a theledu ledled y byd. Mae deg o'i ddramâu wedi'u llwyfannu ar Broadway, gan ennill un Gwobr Tony a dau enwebiad.
Bywyd
golyguPlentyndod
golyguGaned Ayckbourn yn Hampstead, Llundain.[1] Roedd ei fam, Irene Worley ("Lolly") (1906 - 1998), yn awdur straeon byrion a gyhoeddodd dan yr enw "Mary James".[2] Roedd ei dad, Horace Ayckbourn (1904–1965), yn feiolinydd cerddorfaol a prif feiolinydd y London Symphony Orchestra.[3] Ni phriododd ei rieni, a gwahanodd y ddau yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ysgarodd ei fam ei gŵr cyntaf i ail briodi ym 1948.[1]
Ysgrifennodd Ayckbourn ei ddrama gyntaf yn Wisborough Lodge (ysgol baratoi ym mhentref Wisborough Green) pan oedd tua 10 oed.[4] Tra'n preswylio yn yr ysgol, ysgrifennodd ei fam ato i ddweud am ei bwriad o briodi'r rheolwr banc, Cecil Pye. Roedd ei deulu newydd yn cynnwys ei fam, ei lystad a Christopher, mab ei lysdad trwy briodas gynharach. [5]
Mynychodd Ayckbourn golegau Haileybury ac Imperial Service, ym mhentref Hertford Heath, a thra yno, bu ar daith yn Ewrop ac America gyda chwmni Shakespeare yr ysgol.[6]
Bywyd oedolyn
golyguWedi gadael yr ysgol yn 17 oed, bu'n gweithio dros dro mewn gwahanol swyddi, cyn derbyn swydd yn Theatr Llyfrgell Scarborough, lle cafodd ei gyflwyno i'r cyfarwyddwr artistig, Stephen Joseph.[7] Dywedir i Joseff ddod yn fentor ac yn ffigwr tadol i Ayckbourn hyd ei farwolaeth annhymig ym 1967,[8] ac mae Ayckbourn wedi'i ganmol yn gyson.[9]
Wedi gwasanaethu yn Y Fyddin am gyfnod, ymgartrefodd yn Scarborough, gan brynu Longwestgate House cyn gartref ei fentor, Stephen Joseph.[10]
Ym 1957, priododd Ayckbourn â Christine Roland, aelod arall o gwmni Theatr y Llyfrgell.[11] [12] Ysgrifennwyd ei ddwy ddrama gyntaf ar y cyd â hi, dan y ffugenw "Roland Allen".[13] Ganwyd iddynt ddau fab, Steven a Philip.[14] Yn anffodus, chwalwyd y briodas ym 1971. Tua'r un amser, roedd yn rhannu cartref gyda Heather Stoney,[15] actores y cyfarfu â hi gyntaf ddeng mlynedd ynghynt.[16] Fel ei fam, ni cheisiodd ysgariad ar unwaith, a bu'n rhaid aros tan 1997 am ysgariad ffurfiol a phriodas Ayckbourn â Stoney.[17] [18]
Ym mis Chwefror 2006, dioddefodd strôc yn Scarborough, a dywedodd: "Rwy'n gobeithio bod yn ôl ar fy nhraed, neu falla ddyliwn i ddeud fy nghoes chwith, cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser rydw i mewn dwylo rhagorol, felly hefyd Theatr Stephen Joseph.” [19] Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Ayckbourn y byddai'n ymddiswyddo fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph. [20] Mae'n parhau, fodd bynnag, i ysgrifennu a chyfarwyddo ei waith ei hun yn y theatr.
Dylanwad ar ddramâu
golyguErs i ddramâu Ayckbourn gael eu llwyfannu'n rheolaidd yn y West End, mae adolygwyr wedi holi os oes elfen hunangofiannol yn ei waith.[21] Ni chafwyd ateb clir i'r cwestiwn hwn. Dim ond un cofiant sydd, a ysgrifennwyd gan Paul Allen, sy'n ymdrin yn bennaf â'i yrfa yn y theatr. [22] Mae Ayckbourn wedi cyfaddef yn aml ei fod yn gweld agweddau ohono'i hun ym mhob un o'i gymeriadau. Yn Bedroom Farce (1975), er enghraifft, cyfaddefodd fod rhannau ohono yn y pedwar cymeriad gwrywaidd. [23] Awgrymwyd, mai ei fam yw'r dylanwad a ddefnyddir amlaf, ar wahan i'w brofiadau ei hun. Yn enwedig fel Susan yn Woman in Mind [24] (1985).
Mae'n llai eglur i ba raddau mae digwyddiadau ym mywyd Ayckbourn wedi dylanwadu ar ei ysgrifennu,. Mae’n wir fod thema priodasau mewn anhawster yn amlwg iawn drwy gydol ei ddramâu yn y saithdegau cynnar, tua’r adeg yr oedd ei briodas ei hun yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, erbyn hynny, roedd hefyd wedi bod yn dyst i fethiant perthynas ei rieni a rhai o'i ffrindiau.[21]
Gyrfa
golyguGyrfa gynnar ac actio
golyguDechreuodd gyrfa theatrig Ayckbourn yn syth ar ôl gadael yr ysgol, pan gyflwynwyd ef i Syr Donald Wolfit.[25] Ymunodd Ayckbourn â Wolfit ar daith i Ŵyl Ymylol Caeredin fel rheolwr llwyfan cynorthwyol dros dro (rôl oedd yn cynnwys actio a rheoli llwyfan) am dair wythnos.[26] Ei brofiadau cyntaf ar y llwyfan proffesiynol oedd yn The Strong are Lonely gan Fritz Hochwälder.[27] Y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd Ayckbourn mewn chwe drama arall yn Theatr Connaught, Worthing[28] a theatr Thorndike, Leatherhead.[29]
Ym 1957, cyflogwyd Ayckbourn gan y cyfarwyddwr Stephen Joseph yn Theatr y Llyfrgell, Scarborough, rhagflaenydd y Theatr Stephen Joseph newydd.[7] Arweiniodd y gwaith yma at gomisiynau sgriptiau proffesiynol cyntaf Ayckbourn, ym 1958. Ysgrifennodd The Square Cat, dan y ffugenw Roland Allen a berfformiwyd gyntaf ym 1959.[30]
Ym 1962, symudodd Ayckbourn i Stoke-on-Trent i helpu sefydlu Theatr Victoria (y New Vic bellach). [31]
Ysgrifennu
golyguRoedd drama gyntaf Ayckbourn, The Square Cat, yn ddigon poblogaidd i sicrhau comisiynau pellach. Llwyddiant arall oedd Mr. Whatnot ym 1963. Hon oedd y ddrama gyntaf i Ayckbourn fod yn ddigon hapus â hi i ganiatáu perfformiadau ohoni hyd heddiw. Ym 1965, cynhyrchwyd Meet my Father, gafodd ei hail enwi yn Relatively Speaking. Bu’r ddrama’n llwyddiant ysgubol, yn Scarborough ac yn y West End. Sicrhaodd ei ddrama ganlynol, How the Other Half Loves, ei lwyddiant dihangol fel dramodydd. [32] [33]
Daeth llwyddiant masnachol Ayckbourn i'w anterth gyda dramâu fel Absurd Person Singular (1975), trioleg The Norman Conquests (1973), Bedroom Farce (1975) a Just Between Ourselves (1976). Roedd y dramâu hyn yn canolbwyntio'n helaeth ar briodasau'r dosbarth canol ym Mhrydain.[34]
Gyda portffolio o dros 70 o ddramâu, a mwy na deugain ohonynt wedi'u llwyfannu yn y National Theatre neu yn y West End, mae Alan Ayckbourn yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus Lloegr, sy'n dal ar dir y byw. Er gwaethaf ei lwyddiant, ei anrhydeddau a'i wobrau (sy'n cynnwys gwobr Laurence Olivier), mae Alan Ayckbourn yn parhau i fod yn ffigwr gymharol ddi-wybod, sy'n ymroddedig i theatr ranbarthol. [35]
Derbyniodd Ayckbourn y CBE ym 1987 [36] a cafodd ei urddo'n farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1997. [37]
Yn 2019, cyhoeddodd Ayckbourn ei nofel gyntaf, The Divide.
Cyfarwyddo
golyguEr mai fel dramodydd yr adnabyddir Ayckbourn yn bennaf, dywedir mai 10% o'i amser sy'n cael ei roi i ysgrifennu gyda'r gweddil yn cyfarwyddo. [38]
Dioddefodd Ayckbourn strôc ym mis Chwefror 2006 a dychwelodd i'r gwaith ym mis Medi; daeth première ei 70fed drama If I Were You yn Theatr Stephen Joseph y mis canlynol. [39]
Cyhoeddodd ym mis Mehefin 2007 y byddai'n ymddeol fel cyfarwyddwr artistig Theatr Stephen Joseph ar ôl tymor 2008. [20] Cymerodd ei olynydd, Chris Monks, yr awenau ar ddechrau tymor 2009–2010 [40] ond arhosodd Ayckbourn i gyfarwyddo premières ac adfywiadau o'i waith yn y theatr, gan ddechrau gyda How the Other Half Loves ym mis Mehefin 2009. [41]
Anrhydeddau a gwobrau
golygu- 1973: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Absurd Person Singular
- 1974: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am The Norman Conquests
- 1977: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am Just Between Ourselves
- 1981: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Hull
- 1985: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
- 1985: Gwobr Laurence Olivier, Comedi Orau, am A Chorus of Disapproval
- 1986: Rhyddid Bwrdeistref Scarborough . [42]
- 1987: Gwobr Evening Standard, y Ddrama Orau, am A Small Family Business
- 1987: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Keele
- 1987: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol Leeds
- 1987: Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)
- 1989: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Henceforward...
- 1990: Gwobr Evening Standard, Comedi Orau, am Man of the Moment
- 1998: Doethur er Anrhydedd y Brifysgol (D.Univ.) o'r Brifysgol Agored
- 2009: Gwobr Arbennig Laurence Olivier
- 2009: Gwobr flynyddol Cylch y Beirniaid am Wasanaeth Nodedig i'r Celfyddydau
- 2011: Gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llythyrau (Litt.D.) o Brifysgol York St. John
Gwaith llenyddol
golyguAddasiadau Cymraeg
golyguAddaswyd neu gyfieithwyd nifer o ddramâu Ayckbourn i'r Gymraeg dros y degawdau gan gynnwys:
- Troi a Throsi (1985) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Round and Round the Garden.
- Byw'n Gytûn (?) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Living Together [43]
- Bydd wrth ein bwrdd (?) - cyfieithiad John Gwilym Jones o Table Manners.
- Un o'r Teulu (1990) - cyfieithiad John Ogwen o Relatively Speaking.
Dramâu hir
golyguRhif y ddrama | Teitl | Cyfres |
---|---|---|
1 | The Square Cat | |
2 | Love After All | |
3 | Dad's Tales | |
4 | Standing Room Only | |
5 | Christmas V Mastermind | |
6 | Mr Whatnot | |
7 | Relatively Speaking | |
8 | The Sparrow | |
9 | How the Other Half Loves | |
10 | Family Circles | |
11 | Time And Time Again | |
12 | Absurd Person Singular | |
13 | The Norman Conquests | Table Manners |
14 | Living Together | |
15 | Round and Round the Garden | |
16 | Absent Friends | |
17 | Confusions | |
18 | Jeeves | |
19 | Bedroom Farce | |
20 | Just Between Ourselves | |
21 | Ten Times Table | |
22 | Joking Apart | |
23 | Sisterly Feelings | |
24 | Taking Steps | |
25 | Suburban Strains | |
26 | Season's Greetings | |
27 | Way Upstream | |
28 | Making Tracks | |
29 | Intimate Exchanges | Affairs in a Tent |
Events on a Hotel Terrace | ||
A Garden Fete | ||
A Pageant | ||
A Cricket Match | ||
A Game of Golf | ||
A One Man Protest | ||
Love in the Mist | ||
30 | It Could Be Any One Of Us | |
31 |
A Chorus of Disapproval | |
32 | Woman in Mind | |
33 | A Small Family Business | |
34 | Henceforward... | |
35 | Man of the Moment | |
36 | Mr A's Amazing Maze Plays | |
37 |
The Revengers' Comedies | |
38 | Invisible Friends | |
39 | Body Language | |
40 | This Is Where We Came In | |
41 | Callisto 5 | |
42 | Wildest Dreams | |
43 | My Very Own Story | |
44 | Time of My Life | |
45 | Dreams From A Summer House | |
46 | Communicating Doors | |
47 | Haunting Julia | |
48 | The Musical Jigsaw Play | |
49 | A Word From Our Sponsor | |
(18) | By Jeeves | |
50 | The Champion Of Paribanou | |
51 | Things We Do For Love | |
52 | Comic Potential | |
53 | The Boy Who Fell into a Book | |
54 | House and Garden | House |
55 | Garden | |
(41) | Callisto#7 | |
56 | Virtual Reality | |
57 | Whenever | |
58 | Damsels in Distress | GamePlan |
59 | FlatSpin | |
60 | RolePlay | |
61 | Snake in the Grass | |
62 | The Jollies | |
63 | Sugar Daddies | |
64 | Orvin – Champion of Champions | |
65 | My Sister Sadie | |
66 | Drowning on Dry Land | |
67 | Private Fears in Public Places | |
68 | Miss Yesterday | |
69 | Improbable Fiction | |
70 | If I Were You | |
71 | Things That Go Bump | Life and Beth |
72 | Awaking Beauty | |
73 | My Wonderful Day | |
74 | Life of Riley | |
75 | Neighbourhood Watch | |
76 | Surprises | |
77 | Arrivals & Departures | |
78 | Roundelay | |
79 | Hero's Welcome | |
80 | Consuming Passions | |
81 | A Brief History of Women | |
82 | Better Off Dead | |
83 | Birthdays Past, Birthdays Present | |
84 | Anno Domino | |
85 | The Girl Next Door | |
86 | All Lies | |
87 | Family Album | |
88 | Welcome to the Family | |
89 | Constant Companions |
Dramâu un act
golyguMae Alan Ayckbourn wedi ysgrifennu wyth drama un act. Ysgrifennwyd pump ohonynt (Mother Figure, Drinking Companion, Between Mouthfuls, Gosforth's Fete a Widows Might ) ar gyfer Confusions, a berfformiwyd gyntaf yn 1974 .
Y tair drama un act arall yw:
- Countdown, a berfformiwyd gyntaf yn 1962, y mwyaf adnabyddus fel rhan o Mixed Doubles, set o ddramâu un act byr a monologau a gyfrannwyd gan naw awdur gwahanol.
- Ernie's Incredible Illucinations, a ysgrifennwyd yn 1969 ar gyfer casgliad o ddramâu byrion ac a fwriadwyd i'w perfformio gan ysgolion. [44]
- A Cut in the Rates, a berfformiwyd yn Theatr Stephen Joseph yn 1984, a'i ffilmio ar gyfer rhaglen ddogfen gan y BBC.
Llyfrau
golygu- Ayckbourn, Alan (2002). The Crafty Art of Playmaking. UK: Faber and Faber. ISBN 0-571-21509-2.
- Ayckbourn, Alan (2003). The Crafty Art of Playmaking. USA: Palgrave Macmillan. ISBN 1-4039-6229-4.
- Ayckbourn, Alan (2019) The Divide. UK: PS Publishing. ISBN 978-1-786364-47-0.
Addasiadau ffilm o ddramâu Ayckbourn
golyguDramâu a addaswyd yn ffilmiau yn cynnwys:
- A Chorus of Disapproval (ffilm 1988), a gyfarwyddwyd gan Michael Winner ;
- Intimate Exchanges addaswyd ynSmoking/No Smoking (ffilm 1993), a gyfarwyddwyd gan Alain Resnais ;
- The Revengers' Comedies (a elwir hefyd yn Sweet Revenge ), a gyfarwyddwyd gan Malcolm Mowbray ;
- Private Fears in Public Places addaswyd yn Cœurs (ffilm 2006) a gyfarwyddwyd gan Alain Resnais .
- Life of Riley (ffilm 2014) wedi'i chyfarwyddo gan Alain Resnais.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 P. Allen, 2001, p. 9
- ↑ P. Allen, 2001, p. 10
- ↑ P. Allen, 2001, p. 6
- ↑ P. Allen, 2001, p. 20
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 17–19
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 30–33
- ↑ 7.0 7.1 P. Allen, 2001, pp. 43–46
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 118–119
- ↑ Ayckbourn, Alan (2003). The Crafty Art of Playmaking, Faber, ISBN 0-571-21509-2
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 145–146
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 297–299
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 65–67
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 67–72
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 69, 85
- ↑ P. Allen, 2001, p. 132
- ↑ P. Allen, 2001, p. 88
- ↑ 20 Facts about Alan Ayckbourn Archifwyd 2009-01-19 yn y Peiriant Wayback
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 297–298
- ↑ "Ayckbourn has stroke". Scarborougheveningnews.co.uk. 28 Chwefror 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 May 2013. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ 20.0 20.1 "BBC News, 4 June 2007". BBC News. 4 Mehefin 2007. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ 21.0 21.1 P. Allen, 2001, p. 123
- ↑ P. Allen, 2001,
- ↑ P. Allen, 2001, p. 155
- ↑ P. Allen, 2001, p. 3
- ↑ P. Allen, 2001, p. 32
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 36–38
- ↑ "Acting career on official Ayckbourn site". Biography.alanayckbourn.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2011. Cyrchwyd 29 August 2011.
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 38–40
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 41–43
- ↑ P. Allen, 2001, p. 65
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 87–88
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 122–123
- ↑ How the Other Half Loves history on official Ayckbourn site
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 146–148
- ↑ Gibson, Melissa (2002). "Alan Ayckbourn: Grinning at the Edge". Theatre Journal.
- ↑ P. Allen, 2001, p. 220
- ↑ P. Allen, 2001, p. 295
- ↑ P. Allen, 2001, pp. 84–85
- ↑ Nuala Calvi (1 August 2006). "Ayckbourn back to work after stroke". The Stage. Cyrchwyd 29 August 2011.
- ↑ Russell Hector (4 Mehefin 2008). "The Guardian, 4 Mehefin 2008". The Guardian. Llundain. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ "Scarborough Evening News, 26 Mai 2009". Scarborougheveningnews.co.uk. 22 Mai 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2009. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
- ↑ https://www.thescarboroughnews.co.uk/news/people/boxer-ingle-and-four-others-honoured-by-the-town-1-4262978[dolen farw]
- ↑ "CalmView: Trosolwg". calmview.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2024-10-09.
- ↑ "Ernie's Incredible Illucinations: Background". Alan Ayckbourn's Official Website. Cyrchwyd 29 October 2016.
Dolenni allanol
golygu