Alan Payan Pryce-Jones
Llenor a beirniad llenyddol o Loegr[1] oedd Alan Payan Pryce-Jones, (18 Tachwedd 1908 – 13 Chwefror 2000).
Alan Payan Pryce-Jones | |
---|---|
Ffugenw | Arthur Pumphrey |
Ganwyd | 18 Tachwedd 1908 Llundain |
Bu farw | 13 Chwefror 2000, 22 Ionawr 2000 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Henry Morris Pryce-Jones |
Mam | Marion Vere Dawnay |
Priod | Baroness Thérèse Fould-Springer, Mary Jean Kempner Thorne |
Plant | David Pryce-Jones |
Cefndir
golyguGanwyd Jones yn Llundain, yr hynaf o ddau fab y Brevet Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones (1878-1952) o Warchodlu'r Coldstream, a Marion Vere (1884-1956), ei wraig[2]. Roedd y teulu Pryce-Jones yn hanu o Sir Drefaldwyn; taid Alan oedd Syr Pryce Pryce-Jones (1834-1920), AS a chadeirydd Pryce-Jones Cyf, y gwneuthurwyr gwlân yn y Drenewydd.
Derbyniodd Pryce-Jones ei addysg yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Cafodd ei ddiarddel o Rydychen yn ei ail dymor o ganlyniad i'w bywyd cymdeithasol wyllt.
Bywyd personol
golyguBu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd y Farwnes Thérèse Carmen May Fould-Springer (1914-1953). Bu iddynt un mab, yr awdur David Pryce-Jones (g 1936). Ym 1968 priododd Pryce-Jones Mary Jean Thorne, awdur ac aelod o deulu Kempner o Galveston, Texas, ond bu hi farw ym Mharis flwyddyn yn ddiweddarach.[3]
Roedd teuluoedd ei ddwy wraig yn rhai hynod cefnog a bu eu golud yn rhoi moddion i Pryce-Jones byw ei fywyd bohemaidd llenyddol mewn cysur.
Ar ôl ei briodas cyntaf symudodd i fyw ar ystadau teulu ei wraig yn Awstria, ond wedi cyfeddiant Hitler o Awstria ym 1937 dychwelodd i Lundain gan fod teulu Mrs Pryce-Jones yn un o dras Iddewig.[4]
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r coleg aeth i weithio fel golygydd cynorthwyol heb dal ar gylchgrawn y London Mercury gan weithio yno o 1928 hyd 1932. Cyflwynodd John Betjeman i'r cylchgrawn, a chomisiynwyd straeon byrion gan ei ffrind agos James Stern.
Ym 1931 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf The Spring Journey, a ysbrydolwyd gan ei deithiau yn y Dwyrain Canol gyda Bobbie Pratt Barlow, swyddog hoyw yn Gwarchodlu'r Coldstream a ffrind i'w dad. Cyhoeddodd People in the South, tair stori fer yn seiliedig ar deithiau tebyg ym Mrasil, Tsile, ac Ecwador, ym 1934 cyhoeddodd Private Opinion, llyfr o feirniadaeth lenyddol 'anffurfiol', ac yna Pink Donwy ym 1939, a ysgrifennwyd dan y ffugenw Arthur Pumphrey, sef nofel yn canolbwyntio ar fywyd Adrian Bishop, mynach Anglicanaidd a chyfaill Maurice Bowra.
Bu'n Olygydd y Times Literary Supplement, 1948-1959, beirniad drama'r Observer o 1959 i 1960.
Ym 1960 symudodd i UDA lle weithiodd fel beirniad llyfrau ar gyfer y New York Herald Tribune, 1963-1966, World Journal Tribune, 1967-1968 a Newsday, 1969-1971 Bu'n feirniad theatr ar gyfer cylchgrawn Theatre Arts o 1963.
Roedd yn Gyfarwyddwr ymddiriedolaeth theatr yr Old Vic Trust rhwng 1950 a 1961. Gwasanaethodd fel aelod o gyngor Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain o 1956 i 1961 ac fel Cydymaith Rhaglen Dyniaethau a'r Celfyddydau Sefydliad Ford, Efrog Newydd o, 1961 i 1963.
Gyrfa wleidyddol
golyguWedi dychwelyd i wledydd Prydain ym 1937 ymunodd Pryce-Jones a'r Blaid Ryddfrydol gan edmygu safiad arweinydd y blaid, Syr Archibald Sinclair yn erbyn yr Almaen Natsïaidd. Daeth yn Is-Lywydd Cymdeithas Ryddfrydol St Marylebone a chafodd ei fabwysiadu fel y darpar ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Louth yn Swydd Lincoln, fel yn olynydd i'r AS Rhyddfrydol Margaret Wintringham a oedd am sefyll i lawr o'r sedd. Bwriadwyd cynnal yr etholiad ym 1940 ond wedi cyhoeddi Rhyfel a'r Almaen ym 1939 gohiriwyd yr etholiad hyd ddiwedd y rhyfel; penderfynodd Pryce-Jones i beidio ymgeisio am sedd yn etholiad 1945.
Gyrfa milwrol
golyguGan ei fod yn siaradwr Almaeneg, rhugl wedi bod yn byw yn Awstria, gwasanaethodd yn y corfflu cudd-wybodaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn Ffrainc ar adeg yr enciliad o Dunkerque, ac yn gweithio fel rhan o raglen torri codau dirgel Ultra yn Bletchley Park, mewn adran wedi'i neilltuo i drefniadau brwydr byddin yr Almaen. Gwasanaethodd yn fyr ar y staff yr Wythfed Fyddin yn Trentino, gogledd yr Eidal, ac yn Caserta ym 1943, gan ddod yn Is Gyrnol, gyda'r addurniadau tiriogaethol, a ddaeth ei yrfa filwrol i ben yn Fienna lle fu'n gwasanaethu fel swyddog cyswllt gyda'r fyddin Sofietaidd.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty Meddygol Prifysgol Texas, Galveston, Unol Daleithiau America, ar 22 Ionawr 2000. Fe'i claddwyd ar 13 Chwefror 2000 ym mynwent Viarmes, ger Chantilly, Oise, Ffrainc.
Llyfryddiaeth
golygu- The Spring Journey, 1931
- People in the South, 1932
- Beethoven, 1933
- 27 Poems, 1935
- Private Opinion, 1936
- Nelson, opera, 1954
- Vanity Fair, drama gerdd, (gyda Robin Miller a Julian Slade) 1962
- The Bonus of Laughter (hunangofiant), 1987
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hugo Vickers, ‘Jones, Alan Payan Pryce- (1908–2000)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 30 Oct 2016
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Alan Payan’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 30 Oct 2016
- ↑ Prabook Alan Payan. T.D PRYCE-JONES
- ↑ The Guardian Obituaries 9 February 2000 Alan Pryce-Jones adalwyd 30 Hydref 2016