Henry Morris Pryce-Jones
Roedd y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones, CB; CVO; DSO, MC; MVO (17 Chwefror 1878 – 5 Tachwedd 1952) yn filwr Cymreig a wasanaethodd yng Ngwarchodlu'r Coaldstream yn ystod Rhyfeloedd De Affrica a'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1]
Henry Morris Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Chwefror 1878 y Drenewydd |
Bu farw | 5 Tachwedd 1952 Castell Windsor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | milwr |
Tad | Pryce Pryce-Jones |
Mam | Eleanor Morris |
Priod | Marion Vere Dawnay |
Plant | Alan Payan Pryce-Jones, Adrian Pryce-Jones |
Cefndir
golyguGanwyd Pryce-Jones yn y Drenewydd, yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones; perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn, ac Eleanor Rowley Morris ei wraig.
Roedd yn frawd i'r Aelod Seneddol Edward Pryce-Jones a'r Pêl-droediwr Albert Westhead Pryce-Jones
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, fel ei frawd bu Henry yn cael ei gydnabod fel pêl-droediwr a chricedwr o fri yn ardal y Drenewydd, ond methodd a datblygu ei yrfa chwaraeon oherwydd ei yrfa filwrol.
Bywyd personol
golyguPriododd Marion Vere Dawnay, merch Lt.-Col. yr Anrh. Lewis Rayan Dawnay a'r Ledi Victoria Alexandrina Elizabeth Grey, ar 5 Awst 1905 yng Nghapel Gwarchodlu'r Coaldstream Llundain.[2] Bu iddynt dau fab, y ieuengaf o'i feibion oedd y llenor a'r beirniad llenyddol Alan Payan Pryce-Jones a gwŷr iddynt yw mab Alan, y llenor a'r sylwebydd gwleidyddol David Pryce-Jones (g 1936).[3]
Gyrfa filwrol
golyguYmunodd â Gwarchodlu'r Coaldstream ym 1899 gyda gradd ail Isgapten. Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn hwyliodd gyda'i gatrawd i De Affrica i ymladd yn Ail Ryfel y Boer[4]. Cafodd ei ddyrchafu'n Isgapten ym 1901[5] a dychwelodd i wledydd Prydain ar ddiwedd y rhyfel ym 1902 wedi cael ei grybwyll mewn cad lythyrau ddwywaith am ei wasanaeth ym Mrwydr Belmont[6]. Derbyniodd Medal De Affrica'r Frenhines (QSA) gyda chlasbiau am wasanaeth ym mrwydrau Belmont, Modder River, Dreifontein, Johannesburg, Diamond Hill, Belfast a Medal De Affrica'r Brenin(KSA) gyda chlasbiau am wasanaeth ym 1901 a 1902[7]. Ym 1909 cafodd Pryce-Jones ei ddyrchafu'n Gapten ac yn aid de camp i'r Is-gadfridog. Syr C. W. H. Douglas, K C[8]
Ym 1912 daeth yn ysgrifennydd preifat i Arolygydd Cyffredinol y Lluoedd Cartref.
Bu Pryce-Jones yn chware ran yn y Ryfel Byd Cyntaf o'r cychwyn cyntaf gan gyrraedd Calais gydag ail gwmni Gwarchodlu'r Coldstream erbyn canol mis Awst 1914, gwasanaethodd trwy gydol y rhyfel fel aelod o staff cyffredinol y maes gan gael ei grybwyll mewn cad lythyrau ar 6 achlysur. Dyfarnwyd iddo'r Groes Filwrol (MC) ym 1915; medal Urdd Gwasanaeth Neilltuol (DSO) ym 1917 a'i greu yn aelod o Urdd Victoria (MVO) ym 1918.
Ar ddiwedd y rhyfel bu'n gwasanaethu fel Swyddog Cyflenwi Cyffredinol Cynorthwyol ardal Llundain, hyd ei ymddeoliad o'r fyddin llawn amser ym 1920.
Wedi ymddeol fel milwr cyflogedig parhaodd i wasanaethu fel Cadlywydd 2ail Fataliwn Catrawd Dinas Llundain o 1922 i 1926 gan gael ei godi i radd Cyrnol er anrhydedd ar ddiwedd ei wasanaeth. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Byddin Tiriogaethol Llundain o 1926 i 1943. Cafodd ei benodi'n Rhagredegydd Anrhydeddus Llu'r Fonheddwyr ym 1938 a cheidwad baner y llu ym 1949.[9]
Gwasanaethodd fel dirprwy Arglwydd Raglaw Dinas Llundain.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yng Nghastell Windsor
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ‘PRYCE-JONES, Bt Col Henry Morris’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ "FASHIONABLE WEDDING - The London Welshman". Harrison & Sons. 1905-08-12. Cyrchwyd 2016-10-30.
- ↑ Hugo Vickers, ‘Jones, Alan Payan Pryce- (1908–2000)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ "Local - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1899-11-10. Cyrchwyd 2016-10-30.
- ↑ "THE BOTTWNO BAZAAR - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-08-15. Cyrchwyd 2016-10-30.
- ↑ "BULLERS DESPATCHES - Towyn-on-Sea and Merioneth County Times". Samuel Slater and David Rowlands. 1900-02-01. Cyrchwyd 2016-10-30.
- ↑ Anglo-Boer War records 1899-1902
- ↑ "Notitle - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1909-06-08. Cyrchwyd 2016-10-30.
- ↑ "Col. Pryce-Jones." Times (London, England) 6 Nov. 1952: 8. The Times Digital Archive. Web. 30 Hydref. 2016.