Pryce Pryce-Jones
Arloeswr busnes o Gymru a sefydlodd fusnes gwerthu drwy'r post oedd Syr Pryce Pryce-Jones (16 Hydref 1834 – 11 Ionawr 1920). Ganwyd yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd. Cafodd ei urddo yn farchog ym 1887.[1]
Pryce Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Tachwedd 1834 Llanllwchaearn |
Bu farw | 11 Ionawr 1920 y Drenewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Priod | Eleanor Morris |
Plant | Henry Morris Pryce-Jones, Albert Westhead Pryce-Jones, Edward Pryce-Jones |
Teulu
golyguRoedd Pryce Jones yn ail fab i William Jones, cyfreithiwr, y Drenewydd a'i wraig, Margaret Goodwin, perthynas i'r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen[2]. Ar 6 Ebrill 1859, priododd Eleanor (bu f. 1914), ferch Edward Rowley Morris o'r Drenewydd, bu iddynt bedwar mab a phedair merch gan gynnwys:
- Mary Eleanor Pryce-Jones (1860–1945)
- Cyrnol Syr Edward Pryce-Jones (1861–1926) a olynodd ei dad fel AS Bwrdeistrefi Maldwyn[3]. Mab iddo ef a Beatrice Hardy ei wraig oedd Syr Pryce Victor Pryce Jones, ail farwnig (1887–1963)[4]
- Elizabeth Anne Pryce-Jones (1862–)
- William Earnest Pryce-Jones (1867–1949) pêl-droediwr rhyngwladol Cymreig
- Albert Westhead Pryce-Jones (1870–1946) pêl-droediwr rhyngwladol Cymreig
- Katharine Charlotte Pryce-Jones (1873–1953)
- Agnes Rosa Pryce-Jones (1874–1955)
- Y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones (1878–1952) o Warchodlu'r Coldstream[5], mab iddo ef a'i wraig Marion Vere (1884-1956) oedd yr awdur a beirniad llenyddol Alan Payan Pryce-Jones[6]
Gyrfa
golyguDechreuodd weithio fel prentis dilledydd yn Y Drenewydd pan yn 12 oed a bu'n rheoli'r busnes yn 21 oed am fod y perchnogion i ffwrdd ar y pryd. Sefydlodd ei fusnes ei hun ym 1852 a dechreuodd fusnes gwerthu drwy'r post gan anfon patrymau i foneddigion lleol. Sefydlodd y Royal Welsh Warehouse yn y Drenewydd ym mis Hydref, 1879 a thyfodd y busnes yn gyflym. Roedd tua 250,000 - 300,000 o gwsmeraid ganddo ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines Victoria: yr oedd yn gwerthu dillad isaf iddi, ac i Florence Nightingale. Roedd ei gwmni yn cynnwys ffatri, storfa ac - o 1901 ymlaen - ei swyddfa bost ei hun. Dyfeisiodd yr Enclisia, sef gwely cludadwy gyda blanced yn debyg i sach gysgu modern.
O'r 1860au ymlaen, arddangosai wlanen y Drenewydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ledled y byd a chafodd nifer o wobrau hefyd, er enghraifft mewn arddangosfeydd ym Mharis, Brwsel a Berlin yn Ewrop a hefyd yn Philadelphia yn Unol Daleithiau America a Melbourne yn Awstralia.
Ymdrechai Pryce-Jones hefyd i wella'r gwasanaeth parseli post a'r gwasanaeth rheilffordd yr oedd yn dibynnu arnynt yn llwyr yn ei fusnes. Yn y dechrau roedd yn defnyddio'r goets fawr i gludo parseli i'w gwsmeriaid, ond erbyn diwedd y 1870au roedd tri cherbyd arbennig gan y North West Railway Company i gludo parseli o'r Drenewydd i Euston yn Llundain.
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Bwrdeistref Trefaldwyn o 1885 i 1886, ac o 1892 i 1895. Ym 1891, daeth Pryce-Jones yn Uchel Siryf Sir Drefaldwyn.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Frederick Hanbury-Tracy |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1885 – 1886 |
Olynydd: Frederick Hanbury-Tracy |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Frederick Hanbury-Tracy |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1892 – 1895 |
Olynydd: Edward Pryce-Jones |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dilwyn Porter, ‘Jones, Sir Pryce Pryce- (1834–1920)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ "PRYCE-JONES, Syr PRYCE (PRYCE JONES hyd 1887; 1834-1920)". Y Bywgraffiadur Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2022.
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Col Sir (Pryce) Edward’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2015; online edn, Chwefror 2015 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Sir Pryce Victor’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014; online edn, Ebrill 2014 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Bt Col Henry Morris’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014; online edn, Ebrill 2014 adalwyd 30 Hydref 2016
- ↑ ‘PRYCE-JONES, Alan Payan’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014; online edn, Ebrill 2014 adalwyd 30 Hydref 2016