Alastair McCorquodale
Athletwr a cricedwr Albanaidd oedd Alastair McCorquodale (5 Rhagfyr 1925, Hillhead, Glasgow – 27 Chwefror 2009).[1]
Alastair McCorquodale | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1925 ![]() Glasgow ![]() |
Bu farw | 27 Chwefror 2009 ![]() Grantham ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd ![]() |
Taldra | 183 centimetr ![]() |
Pwysau | 78 cilogram ![]() |
Tad | Kenneth McCorquodale ![]() |
Mam | Ellen Viva Martin ![]() |
Priod | Rosemary Sybil Turnor ![]() |
Plant | Sarah McCorquodale, Neil McCorquodale ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Marylebone Cricket Club, Free Foresters Cricket Club, Middlesex County Cricket Club ![]() |
Addysgwyd McCorquodale yn Ysgol Harrow ble agorodd y bowlio ar gyfer y XI cyntaf yng ngêm Eton yn erbyn Harrow yn Lord's yn 1948. Cynyrchilodd Brydain yn athletau yng Ngemau Olympaidd 1948 yn Llundain. Collodd y fedal efydd yn y 100 metr o drwch blewyn gyda gorffenia ffoto ac enillodd y fedal arian yn y ras gyfnewid 4 x 100 metr. Ni redodd fyth ar ôl hyn.
Cynyrchiolodd y Free Foresters, Marylebone Cricket Club yn 1948 a Middlesex mewn tri gêm yn 1951, fel batiwr llaw chwith a bowliwr cyflym llaw dde.
Priododd Rosemary Turnour, merch yr Uwch-gapten Herbert Broke Turnor a'i wraig Lady Enid Fane, (merch 13rg Iarll Westmorland). Mae ganddynt ferch, Sally (a briododd Geoffrey van Cutsem yn 1969) a mab, Neil (a briododd y Bonesig Sarah Spencer yn 1980).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Obituary: Alastair McCorquodale. The Daily Telegraph (13 Mawrth 2009). Adalwyd ar 15 Ionawr 2013.