Anhwylder defnydd sylwedd

Anhwylder defnyddio sylweddau (Sesneg: Substance use disorder (SUD)) yw'r defnydd parhaus o gyffuriau (gan gynnwys alcohol) er gwaethaf niwed sylweddol a chanlyniadau andwyol.[1][2] Nodweddir anhwylderau defnyddio sylweddau gan amrywiaeth o broblemau meddyliol, emosiynol, corfforol ac ymddygiadol megis euogrwydd cronig; anallu i leihau neu roi'r gorau i gymeryd y sylwedd(au) er gwaethaf llawer o ymdrechion; gyrru tra'n feddw; a symptomau diddyfnu ffisiolegol.[1][3] Mae dosbarthiadau cyffuriau sy'n ymwneud ag anhwylder defnyddio sylweddau yn cynnwys: alcohol; canabis; phencyclidine a rhithbeiriau eraill, megis arylcyclohexylamines; anadlyddion; opioidau; tawelyddion, moddion cwsg, neu orbryder; symbylyddion (stimulants); baco; a sylweddau eraill.[1][4]

Anhwylder defnydd sylwedd
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd meddwl, anhwylder sy'n gysylltiedig a sylweddau, clefyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscamddefnyddio sylweddau, substance dependence Edit this on Wikidata

Yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol, 5ed argraffiad (2013), a elwir hefyd yn DSM-5, cafodd y diagnosisau DSM-IV o gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau eu huno i'r categori yma (anhwylderau defnyddio sylweddau).[5][6] Gall difrifoldeb yr anhwylderau hyn amrywio'n fawr; yn y diagnosis DSM-5 o SUD, mae difrifoldeb SUD yr unigolyn wedi'i ddiffinio fel: ysgafn, cymedrol, neu ddifrifol ar sail faint o'r 11 maen prawf diagnostig sy'n cael eu bodloni. Mae'r 11ydd adolygiad o Ddosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-11) yn rhannu anhwylderau defnyddio sylweddau yn ddau gategori: (1) patrwm niweidiol o ddefnyddio sylweddau; a (2) dibyniaeth ar sylweddau. [7]

Yn 2017, yn fyd-eang, amcangyfrifwyd bod 271 miliwn o bobl (5.5% o oedolion) wedi defnyddio un neu fwy o gyffuriau anghyfreithlon.[8] O'r rhain, roedd gan 35 miliwn anhwylder defnyddio sylweddau.[8] Mae gan 237 miliwn o ddynion a 46 miliwn o fenywod ychwanegol anhwylder defnyddio alcohol o 2016.[9] Yn 2017, arweiniodd anhwylderau o sylweddau anghyfreithlon yn uniongyrchol at 585,000 o farwolaethau.[8] Cynyddodd y marwolaethau uniongyrchol o ddefnyddio cyffuriau, ac eithrio alcohol, 60% rhwng 2000 a 2015.[10] Arweiniodd y defnydd o alcohol at 3 miliwn o farwolaethau ychwanegol yn 2016.[9]

Achosion golygu

Mae'r adran hon yn rhannu achosion anhwylderau defnyddio sylweddau yn gategorïau sy'n gyson â'r model bioseicogymdeithasol . Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod gwyddonwyr yn defnyddio'r categorïau hyn yn rhannol er hwylustod; mae’r categorïau’n aml yn gorgyffwrdd (er enghraifft, mae’r glasoed ac oedolion y mae gan eu rhieni anhwylder defnyddio alcohol (neu yr oedd ganddynt) anhwylder defnyddio alcohol yn dangos cyfraddau uwch o broblemau alcohol, ffenomen a all fod oherwydd genetig, dysgu arsylwi, economaidd-gymdeithasol, a ffactorau achosol eraill); ac nid y categorïau hyn yw'r unig ffyrdd o ddosbarthu etioleg anhwylderau defnyddio sylweddau.

Yn yr un modd, mae'r rhan fwyaf o ymchwilwyr yn y maes hwn a meysydd cysylltiedig (fel yr etioleg o seicopatholeg yn gyffredinol), yn pwysleisio bod ffactorau achosol, amrywiol yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd mewn ffyrdd cymhleth ac amlochrog.[11][12][13][14][15]

Penderfynyddion cymdeithasol golygu

Mae'r canlynol yn gysylltiedig â phroblemau alcohol: anhwylder defnyddio alcohol ei hun, statws priodasol / partneriaethol e.e. bod wedi ysgaru, gwahanu, sengl; adnoddau ariannol; diffyg ymlyniad crefyddol; profedigaeth; ymddeoliad anwirfoddol; a digartrefedd.[16]

Penderfynyddion seicolegol golygu

Mae'r ffactorau seicolegol a all achosi'r anhwylder yn cynnwys penderfynyddion gwybyddol (developmental determinants), affeithiol a datblygiadol, ymhlith eraill. Er enghraifft, mae unigolion sy'n dechrau defnyddio alcohol neu gyffuriau eraill yn eu harddegau'n fwy tebygol o fod ag anhwylder defnyddio sylweddau fel oedolion.[17] Ffactorau risg cyffredin eraill yw bod yn ddyn ifanc o dan 25 oed, bod â phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae'r ddau olaf yn ymwneud ag atglafychiad (relapse) symptomatig, nam ar addasiadau clinigol ac addasiadau seicogymdeithasol, defnyddio llai o feddyginiaeth, ac ymateb is i driniaethau[18], a diffyg cefnogaeth a goruchwyliaeth deuluol.[17] Gall rhai o'r ffactorau achosol hyn hefyd gael eu categoreiddio fel rhai cymdeithasol neu fiolegol). Mae ffactorau risg seicolegol eraill yn cynnwys byrbwylltra uchel, ceisio synhwyrau (sensation seeking), niwrotigiaeth a chroesawu profiadau gwahanol, ar y cyd â chydwybodolrwydd isel (low conscientiousness).[19][20]

Penderfynyddion biolegol golygu

Yn fras, mae gan blant sy'n cael eu geni i rieni â SUDs risg uwch ddeublyg o ddatblygu SUD o'i gymharu â phlant sy'n cael eu geni i rieni heb SUD.[17]

Diagnosis golygu

Gall fod gan unigolion sy'n defnyddio cyffuriau (a'r rheiny'n amharu'n sylweddol ar y person, neu'n achosi cryn drallod iddo) anhwylder defnyddio sylweddau (SUD).[1] Mae diagnosis fel arfer yn cynnwys archwiliad manwl, fel arfer gan seiciatrydd, seicolegydd, neu gynghorydd cyffuriau ac alcohol.[21] Cyhoeddir y canllawiau a ddefnyddir amlaf yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM-5).[21] Mae yna 11 o feini prawf diagnostig y gellir eu categoreiddio'n fras yn faterion sy'n deillio o ddefnyddio sylweddau sy'n ymwneud â cholli rheolaeth, straen i fywyd rhyngbersonol, defnydd peryglus, ac effeithiau fferyllol.[1]

Mae canllawiau DSM-5 ar gyfer gwneud diagnosis o anhwylder defnyddio sylweddau yn mynnu bod gan yr unigolyn amhariad neu drallod sylweddol o ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau, ac o leiaf ddau o'r symptomau a restrir isod mewn blwyddyn benodol.[1]

  1. Defnyddio mwy o sylwedd nag a fwriadwyd, neu ddefnyddio sylwedd am gyfnod hwy nag a fwriadwyd
  2. Anallu i dorri i lawr er gwaethaf yr awydd i wneud hynny
  3. Treulio swm sylweddol o'r diwrnod yn cael gafael ar gyffuriau, yn eu defnyddio, neu wella ar ôl defnyddio sylweddau
  4. Chwantau neu awch cryf i'w defnyddio
  5. Mae defnydd mynych yn achosi neu'n cyfrannu at anallu i fodloni rhwymedigaethau cymdeithasol neu rhwymedigaethau proffesiynol pwysig
  6. Defnydd parhaus er bod defnyddwyr yn gwybod ei fod yn achosi llawer o broblemau yn y gwaith, yn yr ysgol neu'r cartref
  7. Rhoi'r gorau i weithgareddau cymdeithasol, proffesiynol neu hamdden pwysig oherwydd defnydd, neu lleihau'r rhain
  8. Defnyddio cyffuriau mewn sefyllfaoedd peryglus yn gorfforol, neu ddefnydd sy'n achosi niwed corfforol neu feddyliol
  9. Defnydd parhaus er gwaethaf ymwybyddiaeth y defnyddiwr bod y sylwedd yn achosi neu o leiaf yn gwaethygu problem gorfforol neu feddyliol
  10. Y corff yn mynd yn fwy a mwy goddefol o gyffuriau: angen defnyddio symiau cynyddol o sylwedd i gael effaith
  11. Tynnu'n ôl: grŵp nodweddiadol o effeithiau corfforol neu symptomau sy'n dod i'r amlwg wrth i faint y sylwedd yn y corff leihau

Mae rhagor at hyn, ac eithriadau i'r rhain, wedi'u hamlinellu yn y DSM. Er enghraifft, os yw unigolyn yn cymryd opiadau ar bresgriptiwn, efallai y byddant yn profi effeithiau ffisiolegol goddefgarwch a diddyfnu, ond ni fyddai hyn yn achosi unigolyn i fodloni meini prawf ar gyfer SUD heb fod symptomau ychwanegol hefyd yn bresennol.[1] Bydd meddyg sydd wedi'i hyfforddi i werthuso a thrin anhwylderau defnyddio sylweddau yn cymryd y rhain i ystyriaeth yn ystod gwerthusiad diagnostig.

Difrifoldeb golygu

Gall anhwylderau defnyddio sylweddau amrywio'n fawr o ran difrifoldeb, ac mae yna nifer o ddulliau i fonitro a graddoli (rhi lefel) i ddifrifoldeb SUD yr unigolyn. Mae'r DSM-5 yn cynnwys manylebau ar gyfer difrifoldeb SUD.[1] Yn aml, ystyrir bod gan unigolion sy'n bodloni 2 neu 3 maen prawf yn unig SUD ysgafn.[1] Gall SUD defnyddwyr sylweddau sy'n bodloni 4 neu 5 maen prawf gael eu disgrifio fel rhai cymedrol, a phobl sy'n bodloni 6 neu fwy o feini prawf fel rhai difrifol.[1] Yn y DSM-5, mae'r term caethiwed i gyffuriau yn gyfystyr ag anhwylder defnyddio sylweddau difrifol. [22] Mae nifer y meini prawf a fodlonir yn cynnig bras-amcan o ddifrifoldeb y salwch, ond bydd gweithwyr proffesiynol trwyddedig hefyd yn ystyried safbwynt mwy cyfannol wrth asesu difrifoldeb sy'n cynnwys canlyniadau penodol a phatrymau ymddygiad sy'n gysylltiedig â defnydd yr unigolyn o sylweddau.[1] Byddant hefyd yn nodweddiadol yn dilyn amlder defnydd dros amser, ac yn asesu ar gyfer canlyniadau sy'n benodol i rai sylweddau, megis mynd yn anymwybodol, blacowts, neu ei arestio am yrru dan ddylanwad alcohol, wrth werthuso rhywun am anhwylder defnyddio alcohol.[1]

Mae cymwyseddau (qualifiers) ychwanegol ar gyfer cyfnodau o remission sy'n seiliedig ar faint o amser nad yw wedi bodloni unrhyw un o'r 11 maen prawf ac eithrio chwant.[1] Cyfeiria rhai systemau meddygol at Fynegai Difrifoldeb Caethiwed i asesu difrifoldeb problemau sy'n ymwneud â defnyddio sylweddau.[23] Mae'r Mynegai yn asesu problemau posibl mewn saith categori: meddygol, cyflogaeth/cymorth, alcohol, defnydd cyffuriau eraill, cyfreithiol, teuluol/cymdeithasol, a seiciatreg.[24]

O'r llenyddiaeth ar ddadansoddi ymddygiad cymhwysol a'r llenyddiaeth seicoleg ymddygiadol, mae sawl rhaglen ymyrraeth wedi dod i'r amlwg, megis therapi ymddygiad fewn priodas, cymorth gan y gymuned, therapi datguddio ciwiau (cue exposure therapy), a strategaethau rheoli wrth gefn.[25][26] Yn ogystal, mae'r un awdur yn awgrymu bod hyfforddi sgiliau cymdeithasol sy'n ychwanegol at driniaeth cleifion o ddibyniaeth ar alcohol yn debygol o fod yn effeithiol.

Meddyginiaeth golygu

Mae triniaeth â chymorth meddyginiaeth yn cyfeirio at y cyfuniad o ymyriad ymddygiadol a meddyginiaethau i drin anhwylderau defnyddio sylweddau.[27] Gall rhai meddyginiaethau fod yn ddefnyddiol: yn yr Unol Daleithiau mae pum meddyginiaeth yn cael eu cymeradwyo i drin anhwylderau defnyddio alcohol ac opioid.[28] Nid oes unrhyw feddyginiaethau cymeradwy ar gyfer cocên, methamphetamine, nac anhwylderau defnyddio sylweddau eraill o 2002.[28]

Gellir defnyddio meddyginiaethau, fel methadon a disulfiram, fel rhan o gynlluniau triniaeth ehangach i helpu claf i weithredu'n gyfforddus heb opioidau anghyfreithlon nac alcohol.[29] Gellir defnyddio meddyginiaethau mewn triniaeth i leihau symptomau diddyfnu. Ceir tystiolaeth o effeithiolrwydd triniaeth â chymorth meddyginiaeth wrth leihau defnydd anghyfreithlon o gyffuriau a marwolaethau gorddos, gwella cyfraddau cadw'r claf mewn triniaeth, a lleihau trosglwyddiad HIV.[30][31][32]

Epidemioleg golygu

 
Blwyddyn bywyd wedi’i haddasu gan anabledd: mesur o faich afiechyd cyffredinol (nifer y blynyddoedd a gollwyd oherwydd afiechyd, anabledd neu farwolaeth gynnar), o anhwylderau defnyddio cyffuriau fesul 100,000 person yn 2004 xxx

Mae cyfraddau anhwylderau defnyddio sylweddau yn amrywio'n ôl cenedl, yn ôl ardal (cefn gwlad neu ddinas) ac yn ôl sylwedd, ond mae'r nenfwd cyffredinol yn uchel.[33] Ar lefel fyd-eang, mae dynion yn cael eu heffeithio ar gyfradd uwch o lawer na merched.[33] Mae unigolion iau hefyd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio nag oedolion hŷn.[33]

Cymru golygu

Roedd y nifer o ddarparwyr triniaeth ar gyfer anhwylderau defnyddio sylweddion yng Nghymru yn 42, a chedwir y data blynyddol gan y GIG Cymru. Yn 2019-20 roedd dwywaith cymaint o bobl wedi'u cymeryd i ysbyty am broblemau'n deillio o alcohol nag am broblemau'n deillio o gyffuriau.[34] Cafwyd gostyngiad o 3.1% yn y nifer o unigolion a aseswyd yn 2019-20 o'i gymharu a'r flwyddyn cynt, a gostyngiad o 6.3% ers 2015-2016. O'i gymharu a 2018, gwelwyd lleihad o 21% yn nifer y marwolaethau, lawr i 165 o bobl; yn yr un cyfnod gwelwyd gostyngiad o 9.4% yn y nifer o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn 2019.[35]

Mae gan wledydd Prydain fwy o achosion o anhwylder defnydd sylwedd nag unlle arall drwy Ewrop.[36] Mae'r rhan fwyaf o gyffuriau a geir yng Nghymru'n cael eu mewnforio o Loegr.

Unol Daleithiau golygu

Yn 2020, roedd gan 14.5% o Americanwyr 12 oed neu hŷn SUD.[37] Roedd cyfraddau anhwylder defnyddio alcohol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ychydig dros 5% ac roedd gan tua 3% o bobl ifanc 12 oed neu hŷn anhwylder defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.[37] Roedd y cyfraddau uchaf o anhwylder defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ymhlith y rhai rhwng 18 a 25 oed, sef tua 7%.[37][33]

Bu dros 72,000 o farwolaethau o orddos cyffuriau yn yr Unol Daleithiau yn 2017,[38] sy’n gynnydd triphlyg o 2002.[38] Fodd bynnag, mae'r CDC yn cyfrifo marwolaethau gorddos o alcohol ar wahân; felly, nid yw’r rhif 72,000 hwn yn cynnwys y 2,366 o farwolaethau gorddos o alcohol yn 2017.[39] Mae marwolaethau gorddos o opioidau synthetig, sydd fel arfer yn cynnwys fentanyl, wedi codi'n sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gyfrannu at bron i 30,000 o farwolaethau'r flwyddyn. [38] Mae cyfraddau marwolaeth o opioidau synthetig fel fentanyl wedi cynyddu 22 gwaith yn fwy yn y cyfnod rhwng 2002 a 2017.[38] Cyfunodd heroin ac opioidau naturiol a lled-synthetig eraill i gyfrannu at tua 31,000 o farwolaethau gorddos.[38] Cyfrannodd cocên at tua 15,000 o farwolaethau gorddos, tra bod methamphetamine a benzodiazepines wedi cyfrannu at tua 11,000 o farwolaethau yr un.[38] Ni ellir crynhoi’r marwolaethau o bob cyffur unigol a restrir uchod oherwydd bod llawer o’r marwolaethau hyn yn ymwneud â chyfuniadau o gyffuriau, megis gorddos ar gyfuniad o gocên ac opioid.[38]

Mae marwolaethau o ganlyniad i yfed alcohol yn gyfrifol am golli dros 88,000 o fywydau bob blwyddyn.[40] Baco yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal, ac mae'n gyfrifol am fwy na 480,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau bob blwyddyn.[41] Mae'r niwed hwn yn sylweddol yn ariannol gyda chyfanswm costau o fwy na $420 biliwn y flwyddyn a mwy na $120 biliwn mewn gofal iechyd.[42]

Canada golygu

Yn ôl ystadegaeth Canada (2018), mae tua un o bob pump o Ganadaiaid 15 oed a hŷn yn profi anhwylder defnyddio sylweddau yn ystod eu hoes.[43] Yn Ontario, yn benodol, mae baich afiechyd salwch meddwl a chaethiwed i gyffuriau 1.5 gwaith yn uwch na phob math o ganser gyda'i gilydd a dros 7 gwaith yn fwy na'r holl glefydau heintus.[44] Ledled y wlad, y grŵp ethnig sy'n cael ei effeithio fwyaf yn ystadegol gan anhwylderau defnyddio sylweddau o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol yw pobl frodorol Canada. Mewn astudiaeth yng Nghanada yn 2019, canfuwyd bod cyfranogwyr brodorol yn profi mwy o broblemau cysylltiedig â sylweddau na chyfranogwyr anfrodorol.[45]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 Diagnostic and statistical manual of mental disorders (arg. 5th). Arlington, VA: American Psychiatric Association. 2013. ISBN 978-0-89042-554-1. OCLC 830807378.
  2. "NAMI Comments on the APA's Draft Revision of the DSM-V Substance Use Disorders" (PDF). National Alliance on Mental Illness. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 22 January 2015. Cyrchwyd 2 November 2013.
  3. "NAMI Comments on the APA's Draft Revision of the DSM-V Substance Use Disorders" (PDF). National Alliance on Mental Illness. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 22 January 2015. Cyrchwyd 2 November 2013.
  4. Substance Abuse and Mental Health Services Administration (June 2016). Substance Use Disorders. Substance Abuse and Mental Health Services Administration (US).
  5. Guha, Martin (2014-03-11). "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders: DSM-5 (5th edition)". Reference Reviews 28 (3): 36–37. doi:10.1108/RR-10-2013-0256. ISSN 0950-4125.
  6. "DSM-5 criteria for substance use disorders: recommendations and rationale". The American Journal of Psychiatry 170 (8): 834–51. August 2013. doi:10.1176/appi.ajp.2013.12060782. PMC 3767415. PMID 23903334. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3767415.
  7. World Health Organization, ICD-11 for Mortality and Morbidity Statistics (ICD-11 MMS), 2018 version for preparing implementation, rev. April 2019
  8. 8.0 8.1 8.2 "World Drug Report 2019: 35 million people worldwide suffer from drug use disorders while only 1 in 7 people receive treatment". www.unodc.org. Cyrchwyd 25 November 2019.
  9. 9.0 9.1 Global status report on alcohol and health 2018 (PDF). WHO. 2018. t. xvi. Cyrchwyd 3 May 2020.
  10. "Prelaunch". www.unodc.org. Cyrchwyd 14 December 2018.
  11. Kendler, Kenneth S. (2005). "Toward a Philosophical Structure for Psychiatry". American Journal of Psychiatry 162 (3): 433–440. doi:10.1176/appi.ajp.162.3.433. ISSN 0002-953X. PMID 15741457. https://ajp.psychiatryonline.org/doi/pdf/10.1176/appi.ajp.162.3.433. "psychiatric disorders are etiologically complex ..."
  12. Borsboom, Denny; Cramer, Angélique O. J.; Kalis, Annemarie (2019). "Brain disorders? Not really: Why network structures block reductionism in psychopathology research" (yn en). Behavioral and Brain Sciences 42 (e2): e2. doi:10.1017/S0140525X17002266. ISSN 0140-525X. PMID 29361992. https://core.ac.uk/download/pdf/208478186.pdf. Adalwyd 2022-02-19. "mental disorders feature biological and psychological factors that are deeply intertwined in feedback loops. This suggests that neither psychological nor biological levels can claim causal or explanatory priority, and that a holistic research strategy is necessary for progress in the study of mental disorders."
  13. Kendler, Kenneth S.; Ohlsson, Henrik; Edwards, Alexis C.; Sundquist, Jan; Sundquist, Kristina (2017). "A developmental etiological model for drug abuse in men" (yn en). Drug and Alcohol Dependence 179: 220–228. doi:10.1016/j.drugalcdep.2017.06.036. ISSN 0376-8716. PMC 5623952. PMID 28806639. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5623952. "DA [drug abuse] in men is a highly multifactorial syndrome with risk arising from familial-genetic, psychosocial, behavioral and psychological factors acting and interacting over development."
  14. MacKillop, James; Ray, Lara A. (2017). "The Etiology of Addiction: a Contemporary Biopsychosocial Approach". In MacKillop, James; Kenna, George A.; Leggio, Lorenzo; Ray, Lara A. (gol.). Integrating Psychological and Pharmacological Treatments for Addictive Disorders: An Evidence-Based Guide. New York: Routledge. tt. 32–53. ISBN 9781138919099. The goal of the current chapter is to review contemporary perspectives on the etiology, or the causes, of addictive disorders. ... this is no small task because of the complexity of these conditions and because the study of addiction is the focus of multiple disciplines using highly divergent perspectives. Furthermore, these different perspectives have not generated a single accepted account for why a person develops an addiction, but a number of empirically-grounded theoretical approaches that broadly fall into three domains—biological determinants, psychological determinants, and social determinants. These are collectively referred to as the biopsychosocial model of addiction
  15. Glackin, Shane N.; Roberts, Tom; Krueger, Joel (2021-02-01). "Out of our heads: Addiction and psychiatric externalism" (yn en). Behavioural Brain Research 398: 112936. doi:10.1016/j.bbr.2020.112936. ISSN 0166-4328. PMID 33065141. https://philpapers.org/archive/GLAOOO.pdf.
  16. Kuerbis, Alexis; Sacco, Paul; Blazer, Dan G.; Moore, Alison A. (2014). "Substance Abuse Among Older Adults". Clinics in Geriatric Medicine 30 (3): 629–654. doi:10.1016/j.cger.2014.04.008. ISSN 0749-0690. PMC 4146436. PMID 25037298. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4146436.
  17. 17.0 17.1 17.2 Ferri, Fred (2019). Ferri's Clinical Advisor. Elsevier.
  18. "Pre-Discharge Predictors of 1-Year Rehospitalization in Adolescents and Young Adults with Severe Mental Disorders: A Retrospective Cohort Study.". Medicina 56 (11): 613. 15 November 2020. doi:10.3390/medicina56110613. PMC 7696058. PMID 33203127. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7696058.
  19. "Personality traits and vulnerability or resilience to substance use disorders". Trends in Cognitive Sciences 18 (4): 211–7. April 2014. doi:10.1016/j.tics.2014.01.010. PMC 3972619. PMID 24612993. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3972619.
  20. Fehrman, Elaine; Egan, Vincent; Gorban, Alexander N.; Levesley, Jeremy; Mirkes, Evgeny M.; Muhammad, Awaz K. (2019). Personality Traits and Drug Consumption. A Story Told by Data. Springer, Cham. arXiv:2001.06520. doi:10.1007/978-3-030-10442-9. ISBN 978-3-030-10441-2.
  21. 21.0 21.1 "Drug addiction (substance use disorder) – Symptoms and causes". Mayo Clinic. Cyrchwyd 7 December 2018.
  22. "Facing Addiction in America: The Surgeon General's Report on Alcohol, Drugs, and Health" (PDF). Office of the Surgeon General. US Department of Health and Human Services. November 2016. tt. 35–37, 45, 63, 155, 317, 338. Cyrchwyd 28 January 2017.
  23. Butler SF, Budman SH, Goldman RJ, Newman FL, Beckley KE, Trottier D. Initial Validation of a Computer-Administered Addiction Severity Index: The ASI-MV Psychology of Addictive Behaviors 2001 March
  24. "DARA Thailand". Cyrchwyd 4 June 2017.
  25. "Evidence-Based Practice in Psychology and Behavior Analysis". The Behavior Analyst Today 7 (3): 335–350. 2006. doi:10.1037/h0100155. http://www.baojournal.com. Adalwyd 24 March 2008.
  26. "An update on empirically validated therapies". Clinical Psychology (American Psychological Association) 49: 5–14. 1998. http://www.apa.org/divisions/div12/est/newrpt.pdf. Adalwyd 24 March 2008.
  27. "Opioid addiction and abuse in primary care practice: a comparison of methadone and buprenorphine as treatment options". Journal of the National Medical Association 104 (7–8): 342–50. July 2012. doi:10.1016/s0027-9684(15)30175-9. PMC 4039205. PMID 23092049. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4039205.
  28. 28.0 28.1 American Psychiatric Association. (2002). American Psychiatric Association practice guidelines for the treatment of psychiatric disorders. The Association. ISBN 0-89042-320-2. OCLC 48656105.
  29. Massachusetts. Center for Health Information and Analysis, issuing body. Access to substance use disorder treatment in Massachusetts. OCLC 911187572.
  30. Holt, Dr. Harry (2019-07-15). Stigma Associated with Opioid Use Disorder and Medication Assisted Treatment. doi:10.31124/advance.8866331.
  31. "Opioid agonist treatments and heroin overdose deaths in Baltimore, Maryland, 1995-2009". American Journal of Public Health 103 (5): 917–22. May 2013. doi:10.2105/ajph.2012.301049. PMC 3670653. PMID 23488511. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3670653.
  32. Administration (US), Substance Abuse and Mental Health Services; General (US), Office of the Surgeon (November 2016). EARLY INTERVENTION, TREATMENT, AND MANAGEMENT OF SUBSTANCE USE DISORDERS. US Department of Health and Human Services.
  33. 33.0 33.1 33.2 33.3 Galanter, Marc; Kleber, Herbert D.; Brady, Kathleen T. (17 December 2014). The American Psychiatric Publishing Textbook of Substance Abuse Treatment. doi:10.1176/appi.books.9781615370030. ISBN 978-1-58562-472-0.
  34. GIG Cymru; Treatment Data - Substance Misuse in Wales 2018-19
  35. Data mining Wales: The annual profile for substance misuse 2019-20
  36. "wales.nhs.uk; Gwefan GIG Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-10. Cyrchwyd 2022-02-19.
  37. 37.0 37.1 37.2 "Reports and Detailed Tables From the 2020 National Survey on Drug Use and Health (NSDUH) | CBHSQ". www.samhsa.gov. 11 September 2020. Cyrchwyd 11 February 2022.
  38. 38.0 38.1 38.2 38.3 38.4 38.5 38.6 Abuse, National Institute on Drug (9 August 2018). "Overdose Death Rates". www.drugabuse.gov. Cyrchwyd 6 December 2018.
  39. Centers for Disease Control and Prevention, National Center for Health Statistics. Substance-induced cause, 2017, percent total, with standard error from the Underlying Cause of Death 1999-2018 CDC WONDER Online Database. Accessed at http://wonder.cdc.gov/ucd-icd10.html on 18 March 2020 at 18:06 UTC.
  40. "Alcohol and Public Health: Alcohol-Related Disease Impact (ARDI)". Centers for Disease Control and Prevention (CDC). 2013. Cyrchwyd 6 December 2018.
  41. "Smoking and Tobacco Use; Fact Sheet; Fast Facts". Centers for Disease Control and Prevention (CDC). 9 May 2018. Cyrchwyd 6 December 2018.
  42. "2010 National and State Costs of Excessive Alcohol Consumption". American Journal of Preventive Medicine 49 (5): e73–e79. November 2015. doi:10.1016/j.amepre.2015.05.031. PMID 26477807.
  43. Canada, Health (2018-09-05). "Strengthening Canada's Approach to Substance Use Issues". gcnws. Cyrchwyd 2019-11-01.
  44. "Opening Eyes, Opening Minds: The Ontario Burden of Mental Illness and Addictions Report". Public Health Ontario. Cyrchwyd 2019-11-01.
  45. "Indigenous and non-Indigenous people experiencing homelessness and mental illness in two Canadian cities: A retrospective analysis and implications for culturally informed action". BMJ Open 9 (4): e024748. April 2019. doi:10.1136/bmjopen-2018-024748. PMC 6500294. PMID 30962229. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6500294.