Alfred Brice
Roedd Alfred Bailey Brice (21 Medi 1871 - 28 Mai 1938) [1] yn flaenwr rygbi rhyngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Aberafan a Chaerdydd. Enillodd y Goron Driphlyg deirgwaith, roedd Brice yn adnabyddus am ei daclo caled ac ymosodol. [2]
Alfred Brice | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1871 Weare |
Bu farw | 28 Mai 1938 Port Talbot |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, heddwas |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Aberafan, Glamorgan Police RFC |
Roedd Brice yn un o nifer o 'flaenwr y cymoedd' a ddewiswyd i gynrychioli ei wlad ar droad y ganrif. Er iddo ddechrau ei yrfa ryngwladol gydag Aberafan, clwb y byddai'n gapten arno rhwng 1901 a 1903; [2] bu'n chwarae i Gaerdydd yn ddiweddarach.
Bywyd personol
golyguGanwyd Alfred Bailey Brice yn Weare, Gwlad yr Haf, yn blentyn i George Brice, ac Ann ei wraig. Bu George Brice yn gweithio fel gwas ffarm yng Ngwlad yr Haf ond erbyn 1874 roedd y teulu wedi symud i Langeinwyr lle fu George yn gweithio yn y pwll glo. Cafodd e'i addysg mewn ysgol yn Nyffryn Ogwr. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel heddwas yng Ngwasanaeth Heddlu Morgannwg.[3] Bu'n gwasanaethu fel Cwnstabl yn y Bont-faen, Llandaf a Pharc y Rhath, Caerdydd cyn cael ei godi'n Sarsiant yn Nhai-bach, lle arhosodd am 17 mlynedd hyd ei ymddeoliad. Ym 1919 derbyniodd Brice a'i frawd yng Nghyfraith, Charles Nicholls wobr gan Y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol am beryglu eu bywyd eu hunain wrth geisio achub nyrs rhag boddi ym Mhorthcawl.[4] Ym 1903 priododd Jane Lewis Nicholls, merch y capten Henry Nicholls.[5] Bu iddynt fab a merch.
Bu farw wedi salwch byr yn ei gartref ar Ffordd Margam, Port Talbot yn 66 mlwydd oed. Wedi gwasanaeth yn Eglwys St Theodore, Port Talbot claddwyd ei weddillion ym mynwent y Groes Sanctaidd yn yr un dref.
Gyrfa rygbi
golyguDechreuodd Brice i chware rygbi yn laslanc i dîm ieuenctid Dyffryn Ogwr. Wedi gwneud yn dda yn y tîm ieuenctid cafodd gynnig chware i dîm Tondu. Ar yr adeg honno roedd Tondu a Phen-y-bont yn elynion pennaf ar y maes chware. Gyda gêm i chware ar ddydd Nadolig yn erbyn Pen-y-bont roedd Tondu yn chwilio am chwaraewr galliasai marcio trichwarterwr peryglus Pen-y-Bont, Sarsiant Smith. Roedd Brice wedi gwneud gymaint o argraff ar y Sarsiant fel iddo awgrymu i'w gwrthwynebydd ifanc y byddai'n caffaeliad i'r heddlu. Felly deilliodd gyrfa Brice fel chwaraewr rygbi hŷn ac fel heddgeidwad o'r un gêm.[6]
Cafodd Brice ei gapio gyntaf i Gymru mewn gêm gartref yn St Helen ym 1899 yn erbyn Lloegr; er mai yng ngêm olaf y twrnamaint yn erbyn Iwerddon dangosodd Brice ei werth i garfan Cymru. Ar ôl i Billy Bancroft gael ei anafu ar ôl cael ei daflu i'r dorf, roedd y Cymry yn ddyn i lawr i dîm Gwyddelig uchel ei gymhelliant. Taclodd Brice yn dda gan orchuddio'r bêl rydd mewn gêm a aflonyddwyd gan oresgyniadau cyson o'r maes gan y dorf. [2] Er i Gymru golli o un cais i ddim dangosodd Brice sgiliau amddiffynnol cryf a fyddai’n gwasanaethu Cymru’n dda wrth iddi fynd mewn i’w ‘Oes Aur’ gyntaf. Chwaraeodd Brice bob gêm yn chwe thwrnamaint y Pedair Gwlad yn olynol.
Er bod Brice fel arfer yn adnabyddus am 'gadw ei ben', o dan bwysau, yng ngêm 1904 yn erbyn Iwerddon cafodd ei gosbi am alw'r dyfarnwr yn thundering idiot, [2] er y credir bod yr hyn a ddywedodd mewn gwirionedd yn llawer gwaeth na'r iaith a adroddwyd. Mynnodd Undeb Rygbi Cymru bod Brice ymddiheuro i Findaly, y dyfarnwr, ond gwrthododd Brice gan hawlio na ddefnyddiodd y fath iaith. [7] Cafodd Brice ei atal o’r gêm am wyth mis a ni fu'n chwarae i Gymru eto. [8]
Ym 1909 chwaraeodd ddwy gêm i Glwb Rygbi Caerlŷr, yn erbyn Headingley a Hartlepool Rovers ar 1 a 2 Ionawr. [9]
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [10]
Llyfryddiaeth
golygu- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alfred Brice player profile Scrum.com
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Thomas (1979), tud 25.
- ↑ "POLICEMAN KEPT AT THE DOOR - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-08-14. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ "Hyn ar Llall - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1919-08-30. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ "WELSH INTERNATIONAL FOOTBALLER MARRIED - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-09-23. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ "FINEST FORWARD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-09-22. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ Smith (1980), tud 122.
- ↑ "PENNY PEEP SHOW - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-03-14. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ Farmer, Stuart; Hands, David (2014-10-01). Tigers - Official history of Leicester Football Club. The Rugby DevelopmentFoundation. t. 65. ISBN 978-0-9930213-0-5.
- ↑ Smith (1980), tud 464.