Alice Hooker-Stroud
Gwleidydd Cymreig yw Alice Hooker-Stroud (ganwyd Ebrill 1984).[1] Fe'i etholwyd yn arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn 2015,[2] ac mae'n ymgeisydd ar gyfer y Blaid Werdd ar restr y Canolbarth a'r Gorllewin ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016.
Alice Hooker-Stroud | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1984 Llanfyllin |
Man preswyl | Machynlleth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Werdd Cymru a Lloegr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Fe'i ganwyd yn y Canolbarth a aeth i Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Mae'n ddwyieithog ac mae'n byw ym Machynlleth.[3] Mae'n Gyfarwyddwr i'r elusen ymgyrchol 'This is Rubbish'.
Mae ganddi gradd Meistr mewn Ffiseg a Gwyddorau Systemau'r Byd[4], a chyfranodd at adroddiad Zero Carbon Britain: Rethinking the Future[4].
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Cofnod cyfarwyddwyr Ty'r cwmniau. Ty'r Cwmniau.
- ↑ BBC - "Wales Green Party names new leader at Cardiff office". Accessed 2 January 2015
- ↑ http://alicegreenparty.cymru/about/[dolen farw] Adalwyd 2/1/16
- ↑ 4.0 4.1 Zero Carbon Britain: Rethinking the Future[dolen farw]