Alison Louise Kennedy
Llenor o'r Alban yw Alison Louise Kennedy (ganwyd 22 Hydref 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd, awdur, academydd ac yn ddigrifwr.
Alison Louise Kennedy | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1965 Dundee |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, nofelydd, llenor, academydd |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Cyflogwr |
|
Mudiad | realaeth |
Gwobr/au | Gwobr John Llewellyn Rhys, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Heinrich Heine Prize, Gwobr anrhydeddus o'r fasnach lyfrau Awstria ar gyfer goddefgarwch wrth feddwl a gweithredu, Gwobr Somerset Maugham |
Gwefan | http://www.a-l-kennedy.co.uk/, https://www.a-l-kennedy.co.uk/ |
Fe'i ganed yn Dundee ar 22 Hydref 1965.
Mae hi'n ysgrifennu nofelau, straeon byrion a ffeithiol ac yn adnabyddus am ei naws dywyll, yn cyfuno realaeth a'i ffantasi, ac am ei hagwedd ddifrifol at ei gwaith. Mae'n sgwennu colofnau ac adolygiadau i bapurau newydd Ewropeaidd.[1][2][3][4]
Magwraeth
golyguGanwyd Kennedy 22 Hydref 1965 yn Dùn Dèagh (Dundee) i Edwardene Mildred, athro, a Robert Alan Kennedy, darlithydd mewn seicoleg. Ysgarodd ei rhieni pan oedd yn 13 oed. Aeth i Ysgol Uwchradd Dundee, ysgol breifat, ac aeth ymlaen i astudio am radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Theatr a Chelfyddydau Dramatig ym Mhrifysgol Warwick.[5][6][7]
Coleg
golyguO 1980 i 1989 roedd Kennedy yn weithiwr celfyddydau cymunedol i Gyngor Dosbarth Clydebank. Yna aeth ymlaen i fod yn Awdur Preswyl ar gyfer Adran Gwaith Cymdeithasol Hamilton a Dwyrain Kilbride o 1989 i 1991. Rhwng 1989 a 1995 gweithiodd ar Broject Ability, sefydliad celfyddydau gweledol yn Glasgow. Yn 1995 roedd yn ddarlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Copenhagen.[7][8]
Awdur
golyguYn 2009, trosglwyddodd berchnogaeth ei stori fer Vanish i brosiect Ox-Tales Oxfam, fel rhan o bedwar casgliad o straeon a ysgrifennwyd gan 38 o awduron. Cyhoeddwyd ei stori yn y casgliad 'Air'. Yn 2016, roedd ei nofel Serious Sweet wedi'i hen restru ar gyfer Gwobr Man Booker.[9]
Ar hyn o bryd mae Kennedy yn byw yn Wivenhoe, Essex, ac mae wedi bod yn Athro Cyswllt mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Warwick ers 2007, ar ôl dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol St Andrews o 2003 i 2007.[10] Mae wedi perfformio fel digrifwr stand-yp yng Ngwyl Ymylol Caeredin ac mewn gwyliau llenyddol. Ei phrif glwb comedi lle mae'n perfformio fynychaf yw The Stand Comedy Club yng Nghaeredin.[11]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [12][13][14]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr John Llewellyn Rhys, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd (2007), Heinrich Heine Prize (2016), Gwobr anrhydeddus o'r fasnach lyfrau Awstria ar gyfer goddefgarwch wrth feddwl a gweithredu (2020), Gwobr Somerset Maugham (1994)[15][16] .[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2009. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. https://thebookerprizes.com/the-booker-library/authors/al-kennedy.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://thebookerprizes.com/the-booker-library/authors/al-kennedy.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2015. "A. L. Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "A.L. Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "A. L. Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "A. L. Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "A. L. (Alison Louise) Kennedy". "A. L. Kennedy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://thebookerprizes.com/the-booker-library/authors/al-kennedy.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ Fox, Genevieve (5 Awst 2011). "AL Kennedy: interview". The Daily Telegraph.
- ↑ "BBC Two – Writing Scotland – AL Kennedy". BBC. September 2004. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ 7.0 7.1 Who's Who 2016. London: A&C Black. 2015. tt. 1266. ISBN 978-1-472-90470-6.
- ↑ 8.0 8.1 International Who's Who of Women 2014 (arg. 9th). Abingdon: Routledge. 2014. t. 545. ISBN 9781857436945.
- ↑ The Spectator 1 Gorffennaf 2009 , "Telling Tales"
- ↑ [1], 3 Gorffennaf 2016
- ↑ "AL Kennedy" Archifwyd 17 Gorffennaf 2013 yn y Peiriant Wayback, Courses, Creative Writing, Staff, University of Warwick
- ↑ Galwedigaeth: https://thebookerprizes.com/the-booker-library/authors/al-kennedy.
- ↑ Swydd: https://thebookerprizes.com/the-booker-library/authors/al-kennedy.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009. http://www.buchmarkt.de/content/67372-heine-preis-der-stadt-duesseldorf-geht-an-a-l-kennedy.htm.
- ↑ https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009.
- ↑ http://www.buchmarkt.de/content/67372-heine-preis-der-stadt-duesseldorf-geht-an-a-l-kennedy.htm.