Allan o'r Cysgodion
Hunangofiant Julian Lewis Jones ganddo ef ei hun ac Alun Gibbard yw Allan o'r Cysgodion a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Julian Lewis Jones ac Alun Gibbard |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 23/07/2014 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781847717269 |
Genre | Cofiannau Cymraeg |
Cofiant Julian Lewis Jones, yr actor a'r cyflwynydd teledu. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel actor yn Hollywood mewn ffilmiau fel Invictus gyda'r cyfarwyddwr Clint Eastwood, a Zero Dark Thirty, ffilm Kathryn Bigelow. Mae’n gymeriad adnabyddus yn Stella, cyfres gomedi Ruth Jones ar Sky 1 a chyfresi Cymraeg a Phrydeinig fel Caerdydd a Where the Heart Is. Mae’n gyflwynydd y rhaglen ’Sgota ar S4C.
Actor a chyflwynydd o Ynys Môn yn wreiddiol.
Y gyfrol
golyguYn y gyfrol mae Julian Lewis Jones yn siarad am y rhwystredigaethau mae wedi eu canfod ar hyd ei fywyd a’i yrfa actio. Mae ei yrfa wedi blodeuo eleni ac mae wedi cael y cyfle i weithio gyda mawrion y byd ffilm yn America. Mae’n gyflwynydd ei raglen ei hun ar S4C ac yn wyneb cyfarwydd i ffans y comedi Stella – prosiect mawr cyntaf Ruth Jones ar ôl Gavin & Stacey.
Mae’n siarad yn onest am y salwch fel plentyn (asthma) oedd yn golygu iddo golli llawer o’r ysgol a wynebu unigedd ac anallu i ymuno mewn gemau gyda’i gyfoedion fel bachgen ifanc.