Craf y geifr
Craf y geifr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Amaryllidaceae |
Is-deulu: | Allioideae |
Genws: | Allium |
Rhywogaeth: | A. ursinum |
Enw deuenwol | |
Allium ursinum L. |
Planhigyn blodeuol yw Craf y geifr (Lladin: Allium ursinum; Saesneg: Wild Garlic neu Ransoms; Ffrangeg: Ail des vignes) sy'n tyfu'n wyllt ar ochr ffyrdd. Mae ganddo sawl enw Cymraeg gan gynnwys: Garlleg gwyllt, Craf gwyllt, Craf y meysydd, Garlleg y brain, Garlleg Mair, Winwnsyn gwyllt, Winwnsyn y cŵn a Thriagl y tlawd.
Mae gan bob rhan ohono arogl garlleg cryf iawn. Maint y bwlb tanddaearol ydy rhwng 1 a 2 cm o ran diamedr. Mae'r prif goesyn rhwng 30 – 120 cm o daldra gyda 2 - 4 deilen hir rhwng 15 – 60 cm o ran hyd a'r rheiny yn drwchus gyda theimlad cŵyr cannwyll iddyn nhw. Pethau cymharol fychan ydy'r blodau: 2 – 5 mm yn unig o liw gwyn ysgafn, ysgafn a chwe phetal i bob un. Maen nhw'n blodeuo rhwng Mehefin ag Awst.
Oherwydd natur 'olewog' y dail, nid yw chwynladdwyr yn effeithiol iawn ar y planhigyn a gall fynd yn rhemp mewn gardd.
Coginio
golyguGellir defnyddio'r gwreiddyn yn lle garlleg yn y gegin i roi blas ar fwyd. Mae cig oen neu gig eidionnau sydd wedi pori ar arlleg gwyllt yn blasu o arlleg. Trosglwyddir y blas mewn modd derbyniol ond mae'n cael ei gyfrif yn chwynyn pan fo'n tyfu mewn cae o weiriau megis gwenith neu ŷd. Mae'r dail yn fwytadwy yn yr haf a'r hydref.
Ffeithiau difyr
golyguDyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[1]:
- Mae'r planhigyn yma yn perthyn i'r teulu nionod gwyllt.
- Hefyd mae’n blanhigyn sy’n luosflwydd.
- Mae pob rhan o’r planhigion yn cynnwys arogl garlleg.
- Fe all prif goes y planhigyn dyfu rhwng 30 cm i 120 cm o dal.
Rhinweddau meddygol
golyguDywedir y gall gynorthwyo'r claf sy'n dioddef o asma a chlefydau eraill sy'n ymwneud â'r ysgyfaint a bod yn y planhigyn elfennau sy'n clirio'r gwaed. Mae'n effeithiol i ladd llyngyr mewn plant hefyd.[2]
Gellir rhwbio'r sudd dros y corff i gadw gwybed a phryfaid eraill i ffwrdd.
Mae Craf y geifr wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd fel llysieuyn gwrthfacteria (gwrthfiotig), ac mae ymchwil gwyddonol diweddar yn profi ei fod yn effeithiol iawn.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwaith prosiect Menter Môn, Mehefin-Gorffennaf 2019
- ↑ 'Plants for a Future'
- ↑ Papur Saesneg o'r enw 'Antibacterial activities of Allium vineale'