Alloa
Tref yn Swydd Clackmannan, yr Alban, yw Alloa[1] (Gaeleg: Alamhagh;[2] Sgoteg: Allowae). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 18,989. Mae Caerdydd 516.8 km i ffwrdd o Alloa ac mae Llundain yn 565.8 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 9 km i ffwrdd.
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 14,440 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Clackmannan |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3.52 mi² |
Cyfesurynnau | 56.1155°N 3.7912°W |
Cod SYG | S20000091, S19000106 |
Cod OS | NS900920 |
Cod post | FK10 |
Saif Alloa ar lan ogleddol Afon Forth, 7 milltir i'r dwyrain o Stirling. Datblygodd cryn dipyn o ddiwydiant yma yn y 18g a'r 19g, yn rhannol oherwydd y porthladd ar yr afon. Y diwydiant glo oedd y pwysicaf o ddiwydiannau'r cylch hyd y 1950au.
Credir mai'r ardal yma oedd Manaw Gododdin yng nghyfnod yr Hen Ogledd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 10 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-10 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 10 Hydref 2019