Altocumulus lenticularis

Perthynas agos i'r cymylau traeth awyr yw yr hyn a elwir yn gymylau gwynt (Altocumulus lenticularis).

Altocumulus lenticularis
Enghraifft o'r canlynolcloud species Edit this on Wikidata
MathAltocumulus, lenticular Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cwmwl Altocumulus lenticularis dros Harold's Cross Dulyn, Iwerddon 30-6-15

Disgrifiad

golygu

Maent yn hawdd i'w hadnabod am eu bod ar ffurf lens, cneuen almon neu bysgodyn – sy'n cyfri am eu henw llafar 'pysgod awyr'. Ffurfir cymylau lenticularis pan gaiff yr aer ei godi i'r entrychion gan wynt cryf dros fryn neu fynydd.

Bydd y pysgod lenticularis yn ffurfio ar frig ton o aer yn uchel yn yr awyr a pheth pellter yng nghysgod neu y tu ôl i'r mynydd. Maent yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan ac i'w gweld yn weddol gyffredin mewn ardaloedd mynyddig fel Cymru. Am y gallant fod yn berffaith grwn, weithiau'n unigol ac weithiau'n glwstwr fel nifer o grempogau neu blatiau ar bennau ei gilydd, fe'u camgymerwyd, o bryd i'w gilydd, gan rai am soseri ehedog o'r gofod.

Dywediadau

golygu
  • Cymylau pysgod awyr – storm ar ei ffordd (cyffredin)
  • Samons uwchben Bae Caernarfon – tywydd garw (Waunfawr)
  • Gleisiaid awyr – storm (Ceredigion). Gleisiad yw eog blwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).