Alvin Stardust
Canwr Seisnig oedd Alvin Stardust (ganwyd Bernard William Jewry; 27 Medi 1942 – 23 Hydref 2014), a elwir hefyd yn Shane Fenton.
Alvin Stardust | |
---|---|
Ffugenw | Shane Fenton, Alvin Stardust |
Ganwyd | Bernard William Jewry 27 Medi 1942 Llundain |
Bu farw | 23 Hydref 2014 Ifold |
Label recordio | Parlophone Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, canwr, actor teledu, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc glam, roc a rôl |
Priod | Liza Goddard |
Plant | Adam F |
Gwefan | https://www.alvinstardust.com/ |
Bywyd personol
golyguPriododd Stardust deirgwaith yn ei fywyd. Yn 1964, yn Lerpwl, fel Bernard W. Jewry priododd Iris Caldwell,[1] chwaer Rory Storm a cyn-gariad i George Harrison a Paul McCartney, cyfoedion iddi yn Lerpwl.[2] Yn 1981, priododd Stardust yr actores Liza Goddard,[3] eto dan yr enw Bernard W. Jewry.[4] Cafodd ei merch, Sophie Jewry, niwed difrifol yn 2 mis oed wedi syrthio lawr y grisiau a thorri ei phenglog; fe wellodd o'i anafiadau yn ddiweddarach.[3]
Roedd ganddo ddau fab a ddau ferch,[5] ac un o rhieni bedydd yr ieuengaf oedd Cliff Richard.[6]
Ganwyd ei fab hynaf, Shaun Fenton, yn 1969.[7] Cofnodwyd ei enedigaeth yn Rhagfyr 1969 o dan yr enw Fenton.[8] Ei fab arall yw'r cynhyrchydd drum a bas, Adam F.
Ei drydedd gwraig oedd yr actores a choreograffydd o Abertawe, Julie Paton.[9] Prynodd y cwpl dŷ yn Abertawe, lle byddai Stardust yn byw pan ddim yn teithio. Dywedodd ei wraig ei fod yn teimlo fel hanner-Cymro wedi ei phriodi.[10]
Marwolaeth
golyguDaeth ei farwolaeth wythnosau cyn yr oedd yn bwriadu rhyddhau ei albwm cyntaf ers 30 mlynedd, a chwe diwrnod ar ôl sioe yn Regal Cinema, Evesham.[11] Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad 18 mis ynghynt.[12] Bu farw Stardust gartref wedi cyfnod o waeledd byr; cadarnhawyd hyn gan ei reolwr ar 23 Hydref 2014. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys St. Thomas, Abertawe, lle yr oedd wedi priodi Julie. Cafodd yr emyn Calon Lân ei ganu yn yr angladd gan Gantorion Gwalia.[11] Fe'i amlosgwyd yn Amlosgfa Treforys a gwasgarwyd ei lwch yn y gerddi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Register of Marriages for Liverpool North Registration District, Vol. 10D (1964), p. 338: CALDWELL, IRIS D, and JEWRY, BERNARD W
- ↑ Bletchly, Rachael (5 Hydref 2012). "'He saw her standing there and a pop classic was born': Teenager who inspired famous song and dated TWO Beatles". Daily Mirror (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Hydref 2018.
- ↑ 3.0 3.1 "Singer's baby recovers after fall down stairs". The Glasgow Herald (yn Saesneg). 22 Rhagfyr 1981. Cyrchwyd 25 Hydref 2014.
- ↑ Register of Marriages for Haringey Registration District, Vol. 12 (1981), p. 1181: GODDARD, LOUISE E, and JEWRY, BERNARD W.
- ↑ Savill, Richard (8 Medi 2006). "Alvin Stardust's son swaps glam for grammar". The Daily Telegraph (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-22. Cyrchwyd 28 Medi 2013.
- ↑ OK! – Issue 261, 27 Ebrill 2001, p.46
- ↑ Wilby, Peter (13 Mehefin 2017). "Elite private headteacher: 'The children we educate will create a fairer society'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2017.
- ↑ Register of Births for Liverpool Registration District, Vol. 10D (1969), p. 1313: FENTON, Shaun Alan, mother CALDWELL
- ↑ Turner, Robin (1 November 2014). "Alvin Stardust's Welsh wedding picture as he's laid to rest in church he got married in". walesonline. Cyrchwyd 29 October 2018.
- ↑ Alvin Stardust laid to rest in his "adopted" Wales , ITV Wales, 5 Tachwedd 2014. Cyrchwyd ar 23 Ebrill 2021.
- ↑ 11.0 11.1 Singh, Anita (23 Hydref 2014). "Alvin Stardust dies after short illness". The Daily Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 29 Hydref 2018.
- ↑ "Alvin Stardust, glam rock singer, dies aged 72". BBC News (yn Saesneg). 23 Hydref 2014. Cyrchwyd 24 Hydref 2014.