Amddiffynnydd tir

Mae amddiffynnwr tir, neu amddiffynnwr amgylcheddol yn ymgyrchydd sy'n gweithio i amddiffyn ecosystemau a'r hawl ddynol i amgylchedd diogel, iach.[1][2][3] Yn aml, mae amddiffynwyr yn aelodau o gymunedau brodorol sy'n amddiffyn hawliau eiddo tiroedd hynafol yn wyneb gwladoli, llygru, disbyddu mwynau neu ddinistrio.[4]

Amddiffynnydd tir
Gorymdaith "Stand with Standing Rock" 2016. Roedd sloganau'r brotest yn cynnwys y geiriau "Rydym yma i warchod" ac "Amddiffynnwn ein tir."
Enghraifft o'r canlynolavocation Edit this on Wikidata
Mathamgylcheddwr, ymgyrchydd, amddiffynnwr yr amgylchedd Edit this on Wikidata

Gall tir a'i adnoddau gael eu hystyried yn gysegredig gan bobloedd brodorol, ac mae gofalu am dir yn cael ei ystyried yn ddyletswydd sy'n anrhydeddu'r hynafiaid, y bobloedd presennol, a chenedlaethau'r dyfodol.[5]

Mewn rhai mannau, mae amddiffynwyr tir yn wynebu erledigaeth ddifrifol gan gynghreiriau gwleidyddol a chorfforaethol pwerus sy'n elwa'n ariannol o echdynnu adnoddau. Mae echdynnu adnoddau, fel rheol, yn achosi llygredd. Penderfynodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig fod amddiffynwyr tir "ymhlith yr amddiffynwyr hawliau dynol sydd fwyaf agored i'w herlid, a'u niweidio."[1]

Geirdarddiad

golygu
Amddiffynwyr tir a dwr yn Neilldir Indiaidd Standing Rock yn 2016.

Yn ystod protestiadau yn erbyn Piblinell Dakota yn 2016, rhwystrodd aelodau o'r Neilldir Indiaidd Standing Rock y gwaith o adeiladu'r biblinell er mwyn amddiffyn cyflenwad tir a dŵr eu pobl. Arweiniodd yr ymdrech hon ar lawr gwlad at gannoedd o bobl yn cael eu harestio a gwrthdaro gyda'r heddlu a milwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol. Disgrifiodd erthyglau negyddol yr amddiffynwyr tir brodorol fel “protestwyr,” term a wadwyd gan lawer o weithredwyr amgylcheddol.

Beirniadodd yr actifydd amgylcheddol a'r actor Dallas Goldtooth o'r Rhwydwaith Amgylcheddol Cynhenid y term "protestiwr," gan nodi bod y gair yn negyddol ac yn awgrymu bod pobl Brodorol yn ddig, yn dreisgar, neu'n oramddiffynnol o'u hadnoddau.[6]

Yn lle hynny, mae aelodau'r mudiad yn cyfeirio at eu hunain fel "amddiffynwyr tir", term sy'n pwysleisio heddychiaeth a chyfrifoldeb i ofalu am diroedd hynafol a all fod yn rhan o dreftadaeth yr amddiffynnwr.[7]

Datganodd y gwarchodwr tiroedd Labrador (yr Inuit) Denise Cole, "Yr hyn mae cyfraith trefedigaethol yn ei alw'n brotestio, yw'r hyn rwyf yn ei alw'n seremoni."[8]

Mae amddiffynwyr tir yn chwarae rhan weithredol a chynyddol amlwg mewn gweithredoedd i ddiogelu, anrhydeddu a dod a'r ymgyrch dros diroedd yn weladwy. Ceir cysylltiadau cryf rhwng y mudiad amddiffyn dŵr, y mudiad amddiffyn tir a'r mudiad amgylcheddol gynhenid.[9][10] Mae amddiffynwyr tir yn gwrthsefyll gosod piblinellau, diwydiannau tanwydd ffosil,[11] dinistrio tiriogaeth naturiol fel amaethyddiaeth yn enw datblygiad neu godi tai, a gweithgareddau echdynnu adnoddau fel ffracio oherwydd gall y gweithredoedd hyn arwain at ddiraddio tir, dinistrio coedwigoedd, ac aflonyddu ar gynefinoedd naturiol.[12][13] Mae amddiffynwyr tir yn gwrthsefyll gweithgareddau sy'n niweidio tir, yn enwedig ar draws tiriogaethau brodorol ac mae eu gwaith yn gysylltiedig â hawliau dynol.[14]

Gall actifiaeth ddod ar ffurf codi gwarchau ar diroedd y brodorion, neu diriogaethau traddodiadol y brodorion i rwystro corfforaethau cyfalafol rhag echdynnu adnoddau.[15][16][17] Mae amddiffynwyr dŵr a thir hefyd yn codi gwersylloedd fel ffordd o feddiannu tiriogaethau traddodiadol a chryfhau cysylltiadau diwylliannol. Gweithredant hefyd trwy fframweithiau cyfreithiol fel systemau llysoedd y llywodraeth mewn ymdrech i gadw rheolaeth ar diriogaethau traddodiadol.[5][18] Mae anufudd-dod sifil yr amddiffynwyr tir yn aml yn cael eu troseddoli a phlismona a thrais trymach yn eu herbyn.[19][20]

Mae merched yn rhan annatod o lwyddiant y mudiad, gan eu bod yn aml yn amddiffynwyr tir i'w gweld o flaen y gwarchaeau ac mewn protestiadau.[21]

Peryglon yn wynebu amddiffynwyr tir

golygu

Adroddodd Global Witness y cafwyd 1,922 o lofruddiaethau amddiffynwyr tir mewn 57 o wledydd rhwng 2002 a 2019.[1] Roedd 40% o'r dioddefwyr yn frodorol,[22] er eu bod yn cyfrif am 6% o'r boblogaeth fyd-eang.[23] Mae dogfennaeth y trais hwn hefyd yn anghyflawn, ymgais i guddio'r trais yn eu herbyn.

Yn 2020, fe gododd y nifer o amddiffynwyr tir a laddwyd i'w lefel uchaf erioed o 227.[24]

Gofynodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig, David R. Boyd, "Sut allwn ni amddiffyn cyfoeth rhyfeddol amrywiaeth bywyd ar y Ddaear os na allwn amddiffyn amddiffynwyr amgylcheddol?"[25] Datgan ymhellach bod cymaint â chant o amddiffynwyr tir yn cael eu drwg-dychryn, eu harestio neu eu haflonyddu am bob un sy'n cael ei ladd.[1]

Roedd heddlu cenedlaethol Canada, yr RCMP, yn barod i ladd amddiffynwyr tir mewn protest yn 2019 yn British Columbia.[26]

Adroddodd Yale Environment 360 fod o leiaf 212 o ymgyrchwyr amgylcheddol ac amddiffynwyr tir wedi’u llofruddio yn 2019.[27] Digwyddodd dros hanner y llofruddiaethau yng Ngholombia a Philippines.[27][28]

Rhai amddiffynwyr tir sydd wedi cael eu lladd

golygu
  • Berta Isabel Cáceres Flores (4 Mawrth 1971 - 2 Mawrth 2016) ymgyrchydd amgylcheddol Honduraidd, arweinydd brodorol
  • Lladdwyd Paulo Paulino Guajajara, Brasil, yn 2019 mewn cudd-ymosod gan dorrwyr coed anghyfreithlon rhanbarth Amazon.[29][30]
  • Chico Mendes, Brasil, Amgylcheddwr ac actifydd.
  • Hernán Bedoya, gweithredwr hawliau tir Affro-Colombiaidd.
  • Lladdwyd Julián Carrillo, arweinydd brodorol Rarámuri, Mecsico ar 24 Hydref 2018.[31][32][33]
  • Lladdwyd Datu Kaylo Bontolan, pennaeth llwythol Manobo, aelod o Gyngor Cenedlaethol Arweinwyr Katribu, Gogledd Mindanao, Philippines ar 7 Ebrill 2019.[28][34]
  • Lladdwyd Omar Guasiruma, arweinydd Cynhenid, Colombia ym Mawrth 2020.[28]
  • Lladdwyd Ernesto Guasiruma, arweinydd Cynhenid, Colombia ym Mawrth 2020.[28]
  • Lladdwyd Simón Pedro Pérez, arweinydd brodorol ar 6 Gorffennaf 2021, Chiapas, Mecsico.[35][36]
  • Cafwyd hyd i Javiera Rojas, amgylcheddwr ac actifydd o Chile, yn farw yn Nhachwedd 2021.[37]

Darllen pellach

golygu
  • Amnest Rhyngwladol (2016). "They Will Not Stop Us. Ecuador: Justice and Protection for Amazonian Women, Defenders of the Land, Territory, and Environment" (PDF).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Larsen, Billon, Menton, Aylwin, Balsiger, Boyd, Forst, Lambrick, Santos, Storey, Wilding (2021). "Understanding and responding to the environmental human rights defenders crisis: The case for conservation action". Conservation Letters 14 (3). doi:10.1111/conl.12777. https://conbio.onlinelibrary.wiley.com/doi/pdf/10.1111/conl.12777.
  2. Ducklow, Zoë (10 Ionawr 2019). "Judy Wilson's Message for Canadians: 'The Land Defenders Are Doing This for Everybody'". The Tyee (yn English). Cyrchwyd 20 Ionawr 2020.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Protesters? Or land protectors?". The Indy (yn Saesneg). 28 October 2016. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  4. "Land defence and defenders". iwgia.org.
  5. 5.0 5.1 "Illegal protest or protecting the land? An Indigenous woman gets ready to face a Canadian court - APTN News". aptnnews.ca (yn Saesneg). 18 September 2018. Cyrchwyd 12 Ionawr 2019.
  6. "Standing Rock activists: Don't call us protesters. We're water protectors". The World from PRX (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-13.
  7. "We Are Land Protectors, Not Protesters". YouTube.
  8. Moore, Angel (2018-09-18). "Illegal protest or protecting the land? An Indigenous woman gets ready to face a Canadian court". APTN News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-13.
  9. "Meet Josephine Mandamin (Anishinaabekwe), The "Water Walker"". Indigenous Rising (yn Saesneg). 25 September 2014. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
  10. Maial Panhpunu Paiakan Kaiapó (October 24, 2020). "Opinion: The devastation of my Amazon homeland has accelerated during the pandemic". The Globe and Mail. Cyrchwyd 2021-02-11.
  11. "Mi'kmaq water protectors blocking fossil fuel infrastructure in Nova Scotia | rabble.ca". rabble.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-07. Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
  12. McKenzie-Sutter, Holly (November 27, 2020). "Indigenous land occupants in Caledonia appeal injunction". Toronto Sun (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
  13. Kestler-D'Amours, Jillian. "'RCMP off Wet'suwet'en land': Solidarity grows for land defenders". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
  14. "Beatings, Imprisonment, Murder: The World's Environmental Defenders Are Being Terrorized". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  15. "Standing Rock activists: Don't call us protesters. We're water protectors". Public Radio International (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Ionawr 2019.
  16. "Barricades up in Caledonia after attempted arrest of land defender". The Hamilton Spectator (yn Saesneg). 2020-10-05. ISSN 1189-9417. Cyrchwyd 2021-02-11.
  17. "Caledonia land occupation criminal cases move through courts". The Hamilton Spectator (yn Saesneg). 2020-11-25. ISSN 1189-9417. Cyrchwyd 2021-02-11.
  18. "Beatings, Imprisonment, Murder: The World's Environmental Defenders Are Being Terrorized". Global Citizen (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  19. Simpson, Michael; Le Billon, Philippe (2021-02-01). "Reconciling violence: Policing the politics of recognition" (yn en-ca). Geoforum 119: 111–121. doi:10.1016/j.geoforum.2020.12.023. ISSN 0016-7185.
  20. Spiegel, Samuel J. (2021-01-01). "Climate injustice, criminalisation of land protection and anti-colonial solidarity: Courtroom ethnography in an age of fossil fuel violence" (yn en-ca). Political Geography 84: 102298. doi:10.1016/j.polgeo.2020.102298. ISSN 0962-6298. PMC 7544477. PMID 33052177. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7544477.
  21. Lange, Shauna M. (2020), "Saving Species, Healthy Humanity: The Key Role of Women in Ecological Integrity" (yn en-ca), Ecological Integrity in Science and Law (Cham: Springer International Publishing): 85–96, doi:10.1007/978-3-030-46259-8_8, ISBN 978-3-030-46258-1
  22. "5 deadly countries for environmental defenders". Deutsche Welle (yn Saesneg). 2020-07-28. Cyrchwyd 2022-04-14.
  23. "Indigenous Peoples". World Bank (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-14.
  24. "Murders of environment and land defenders hit record high". the Guardian (yn Saesneg). 2021-09-12. Cyrchwyd 2022-04-13.
  25. Menton, Mary; Le Billon, Philippe (2021-06-24). Environmental Defenders: Deadly Struggles for Life and Territory (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-000-40221-6.
  26. Parrish, Jaskiran Dhillon Will (20 December 2019). "Exclusive: Canada police prepared to shoot Indigenous activists, documents show". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  27. 27.0 27.1 "More Than 200 Environmental Activists and Land Defenders Murdered in 2019". Yale E360 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-10.
  28. 28.0 28.1 28.2 28.3 "Record 212 land and environment activists killed last year". the Guardian (yn Saesneg). 2020-07-29. Cyrchwyd 2021-07-10.
  29. Cowie, Sam (2 November 2019). "Brazilian 'forest guardian' killed by illegal loggers in ambush". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  30. "Brazil Amazon forest defender shot dead by illegal loggers". www.aljazeera.com. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  31. "Julián Carrillo defended the forest with his life". www.amnesty.org (yn Saesneg). 28 November 2018. Cyrchwyd 15 Ionawr 2020.
  32. "Mexico's environmental defenders need justice and protection". www.amnesty.org (yn Saesneg). 24 October 2019. Cyrchwyd 2021-07-10.
  33. "Indigenous rights leader reported slain in northern Mexico". AP News (yn Saesneg). 2018-10-25. Cyrchwyd 2021-07-10.
  34. "Datu Kaylo Bontolan". HRD Memorial: Celebrating Those Who Were Killed Defending Human Rights (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-10.
  35. "Indigenous Land Defender Assassinated in Chiapas". Democracy Now! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-08.
  36. "Mexico rights organizer killed, 3rd activist to die in month". AP News (yn Saesneg). 2021-07-06. Cyrchwyd 2021-07-10.
  37. "Chilean Activist Javiera Rojas, Who Helped Shut Down Dam Projects, Has Been Killed". Democracy Now! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-12-06.