Cenedlaethau'r Dyfodol

Cenedlaethau'r dyfodol yw'r carfanau o bobl ddamcaniaethol sydd heb eto eu geni. Mae cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu cyferbynnu â chenedlaethau'r presennol a'r gorffennol, ac er mwyn annog pobl i feddwl am degwch rhwng cenedlaethau a chwestiynu eu ffordd o fyw heddiw.[1] Defnyddir y term yn aml wrth ddisgrifio cadwraeth neu warchod treftadaeth ddiwylliannol neu dreftadaeth naturiol. Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu er budd cenedlaethau'r dyfodol gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015.

Mae'r mudiadau sy'n ymgyrchu dros gynaliadwyedd a'r hinsawdd wedi mabwysiadu'r cysyniad fel arf ar gyfer ymgorffori egwyddorion hirdymor yn gyfraith.[2] Mae'r cysyniad yn aml yn gysylltiedig â meddylfryd brodoroion dan fygythiad, fel egwyddor ar gyfer gweithredu ecolegol, megis y cysyniad o 'saith cenhedlaeth' a briodolir i draddodiad yr Iroquois.[3]

Mae'r term yn cyfeirio at yr effaith y mae'r genhedlaeth bresennol yn ei chael ar y byd y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn byw ynddo, y byd y byddant yn ei etifeddu gan fodau dynol sy'n byw heddiw. Cyfeirir at y cysyniad hwn yn y diffiniad a ddyfynnir yn fwyaf eang o gynaliadwyedd fel rhan o'r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy, mewn gwaith a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Brundtland y Cenhedloedd Unedig ar 20 Mawrth 1987: "datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.”[4][5]

Mae'r defnydd o 'genedlaethau'r dyfodol' mewn cyfraith ryngwladol yn cael ei gydnabod yn rhannol gan Siarter y Cenhedloedd Unedig sy'n canolbwyntio ar atal "gwallgofrwydd rhyfel" ("the scourge of war") ar genedlaethau'r dyfodol.[3] Gyda chyhoeddi adroddiad carreg filltir Ein Hagenda Cyffredin Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Medi 2021,[6] bu diddordeb o'r newydd mewn deall y system amlochrog, gweithredu ar ei chyfer a chynrychioli cenedlaethau'r dyfodol o fewn y system honno. [7]

Datganiad UNESCO

golygu

Datganiad UNESCO ar Gyfrifoldebau'r Cenedlaethau Presennol Tuag at Genedlaethau'r Dyfodol:

Mae gan y cenedlaethau presennol gyfrifoldeb i drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol Ddaear na fydd yn cael ei niweidio'n ddi-dro-nol gan weithgarwch dynol ryw ddydd. Dylai pob cenhedlaeth sy'n etifeddu'r Ddaear dros dro gymryd gofal i ddefnyddio adnoddau naturiol yn rhesymol a sicrhau nad yw bywyd yn cael ei niweidio gan addasiadau niweidiol i'r ecosystemau ac nad yw cynnydd gwyddonol a thechnolegol ym mhob maes yn niweidio bywyd ar y Ddaear.[8]

Hawliau cyfreithiol cenedlaethau'r dyfodol

golygu

Mae'r rhan fwyaf o waith ymgyrchwyr dros genedlaethau'r dyfodol yn canolbwyntio ar ymgorffori hawliau ac anghenion cenedlaethau'r dyfodol mewn cyfraith gwlad, er mwyn cynrychioli'r rhai na allant leisio'u hanghenion.[9][10]

Mae sawl gwlad wedi ceisio ymgorffori rhwymedigaethau i genedlaethau'r dyfodol yn y gyfraith. Yng Nghymru, mae'r rhwymedigaeth foesol hon wedi'i hamgodio fel dyletswydd gyfreithiol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.[11] Roedd gwaith y Comisiynydd cyntaf, Sophie Howe, yn torri tir newydd, a chrewyd nifer o bolisïau newydd sydd wedi'u cynllunio ar gyfer polisi meddwl yn y dyfodol yng Nghymru, gan gynnwys Maniffesto 2020 ar gyfer y Dyfodol.

Yn 2020, mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru, nododd Howe rhai o'r meysydd y dylid mynd i'r afael â nhw:

  • Cyfraddau tlodi cynyddol yn wyneb yr argyfwng costau byw
  • Dirywiad mewn bioamrywiaeth ac argyfwng hinsawdd
  • Disgwyliad oes anghyfartal ac anghydraddoldeb cynyddol
  • Llesiant ac unigrwydd pobl ifanc[12] Fe'i holynwyd gan Derek Walker yng ngwanwyn 2023.[13]

Yn Hwngari sefydlwyd swydd 'Comisiynydd Seneddol Hwngari ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol' yn 2008.[14]

Cyfreitha hinsawdd

golygu

Mae hawliau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hamddiffyn fwyfwy mewn cynseiliau cyfreithiol fel rhan o'r tueddiadau byd-eang mewn ymgyfreitha hinsawdd.[15] Cenedlaethau'r dyfodol oedd y diffynnydd mewn achos yn 2018 Cenedlaethau'r Dyfodol v. Gweinidogaeth yr Amgylchedd ac Eraill yng Ngholombia a warchododd fasn o fforest law yr Amason ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.[15]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Carmody, Christine. "Considering future generations - sustainability in theory and practice". treasury.gov.au. Cyrchwyd 2021-03-21.
  2. Kobayashi, Keiichiro (2018-05-05). "How to represent the interests of future generations now". VoxEU.org. Cyrchwyd 2021-03-21.
  3. 3.0 3.1 "Should we legislate on the right of future generations?". Equal Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-21.
  4. United Nations General Assembly (1987) Report of the World Commission on Environment and Development: Our Common Future. Transmitted to the General Assembly as an Annex to document A/42/427 - Development and International Co-operation: Environment. Retrieved on: 2009-02-15.
  5. United Nations General Assembly (March 20, 1987). "Report of the World Commission on Environment and Development: Our Common Future; Transmitted to the General Assembly as an Annex to document A/42/427 - Development and International Co-operation: Environment; Our Common Future, Chapter 2: Towards Sustainable Development; Paragraph 1". United Nations General Assembly. Cyrchwyd 1 March 2010.
  6. Nations, United. "Our Common Agenda". United Nations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-13.
  7. "Future Thinking and Future Generations: Towards A Global Agenda to Understand, Act for, and Represent Future Generations in the Multilateral System". unfoundation.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-13.
  8. Cyfieithwyd o'r canlynol: The present generations have the responsibility to bequeath to future generations an Earth which will not one day be irreversibly damaged by human activity. Each generation inheriting the Earth temporarily should take care to use natural resources reasonably and ensure that life is not prejudiced by harmful modifi cations of the ecosystems and that scientific and technological progress in all fields does not harm life on Earth. Gw. UNESCO Declaration on the Responsibilities of the Present Generations Towards Future Generations.
  9. Beckerman, Wilfred; Pasek, Joanna (2001-05-03). "The Rights of Future Generation". Justice, Posterity, and the Environment. Oxford University Press. doi:10.1093/0199245088.001.0001. ISBN 978-0-19-924508-6.
  10. Abate, Randall S., ed. (2019), "Protection of Future Generations: Prior to and during the Anthropocene Era", Climate Change and the Voiceless: Protecting Future Generations, Wildlife, and Natural Resources (Cambridge: Cambridge University Press): 43–96, doi:10.1017/9781108647076.004, ISBN 978-1-108-70322-2, https://www.cambridge.org/core/books/climate-change-and-the-voiceless/protection-of-future-generations/38EABEB7839D6410599E3028AB470ACE, adalwyd 2021-03-21
  11. "Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015" (PDF). 17 June 2015. Cyrchwyd 31 May 2019.
  12. www.futuregenerations.wales; gw. yr adroddiad Ymateb i Adroddiad Llesiant Cymru 2022 Llywodraeth Cymru gan Sophie Howe. Adalwyd 17 Tachwedd 2022.
  13. futuregenerations.wales; adalwyd 24 Ebrill 2023.
  14. Futurepolicy.org, Hungarian Parliamentary Commissioner for Future Generations Archifwyd 2020-12-11 yn y Peiriant Wayback, accessed 21 Medi 2019
  15. 15.0 15.1 "Climate Change and Future Generations Lawsuit in Colombia: Key Excerpts from the Supreme Court's Decision". Dejusticia (yn Saesneg). 2018-04-13. Cyrchwyd 2021-03-21.