Amilorid

cyfansoddyn cemegol

Mae amilorid, sy’n cael ei werthu dan yr enw masnachol Midamor ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy’n cael ei defnyddio ar y cyd â meddyginiaethau eraill fel arfer i drin pwysedd gwaed uchel neu chwyddo sy’n ganlyniad i fethiant y calon neu sirosis yr afu.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₆H₈ClN₇O.

Amilorid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs229.048 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₆h₈cln₇o edit this on wikidata
Enw WHOAmiloride edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGordroethi, ffibrosis systig, gordensiwn, anasarca, hypokalemia, gordensiwn, diffyg gorlenwad y galon edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Rhan oamiloride transmembrane transporter activity, amiloride transport, amiloride:proton antiporter activity, response to amiloride, cellular response to amiloride Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amilorid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs229.048 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₆h₈cln₇o edit this on wikidata
Enw WHOAmiloride edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGordroethi, ffibrosis systig, gordensiwn, anasarca, hypokalemia, gordensiwn, diffyg gorlenwad y galon edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
Rhan oamiloride transmembrane transporter activity, amiloride transport, amiloride:proton antiporter activity, response to amiloride, cellular response to amiloride Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Mae amiloride yn feddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf fel diwretig (cyffur dŵr). Mae'n gweithio ar yr arennau i gynyddu faint o wrin sy'n pasio trwy'r corff. Yn y DU mae'n cael ei ddosbarthu gan gwmni Rosemont  o dan yr enw Amilamont. Mae hefyd ar gael fel cyffur generig[2]. Datblygwyd amiloride ym 1967.  Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]. Yn y Deyrnas Unedig, mae mis o feddyginiaeth yn costio'r GIG tua £24 [4].

Defnydd golygu

Mae amiloride yn cael ei ddefnyddio i drin oedema (dargadwedd dŵr yn y corff) sy'n gallu codi o fethiant y galon neu haint ar yr afu. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin pwysedd gwaed uchel. Gall effaith amiloride ar lif yr wrin para am oriau, gan hynny dylid ei gymryd yn y bore. Mae amiloride yn achosi i'r arennau i gadw potasiwm.

Dos golygu

Mae amiloride ar gael fel tabledi neu fel hylif (ffisig). Y dos arferol yw rhwng 5 i 20 mg y dydd. Mae'n dechrau gweithio o fewn 2 awr ac yn parhau i weithio hyd at 12 awr. Weithiau bydd amiloride yn cael ei weini ar yr un pryd a furosemide (co-amilofruse) a hydrochlorothazide (co-amilozide). Mae ar gael yn y DU trwy ragnodyn yn unig[5].

Sgil effeithiau golygu

Prin yw sgil effeithiau amiloride. Ymysg y sgil effeithiau anarferol yw aflonyddwch treuliol, dryswch, gwendid yn y cyhyrau, cramp, ceg sych, pendro a brechod[6].

Beichiogrwydd golygu

Gall achosi lleihad yng nghyflenwad gwaed y baban yn y groth gan hynny nid yw'n cael ei ragnodi i ferched beichiog gan amlaf.

Bwydo ar y bron golygu

Gall cael ei drosglwyddo i'r baban gan hynny nid yw'n cael ei gymeradwyo ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.

Gyrru golygu

Dim problemau gwybyddus.

Alcohol golygu

Mae'n iawn yfed yn gymedrol

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • gordroethi
  • ffibrosis systig
  • gordensiwn
  • anasarca
  • gordensiwn
  • diffyg gorlenwad y galon
  • Enwau golygu

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amilorid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • N-Amidino-3,5-diamino-6-chloropyrazinecarboxamide
  • Midamor®
  • amiloride HCl
  • 3,5-diamino-N-carbamimidoyl-6-chloropyrazine-2-carboxamide
  • Cyfeiriadau golygu

    1. Pubchem. "Amilorid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Amiloride Rosemont Patient Information Leaflet[dolen marw] adalwyd 15 chwefror 2018
    3. Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol 2015 (Rhif 19) adalwyd 15 Chwefror 2018
    4. British national formulary : BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. t. 90. ISBN 9780857111562.
    5. Boots WEb MD Amiloride Archifwyd 2015-09-06 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 15 chwefror 2018
    6. Drugs.com Amiloride adalwyd 15 chwefror 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!