Amilorid
Mae amilorid, sy’n cael ei werthu dan yr enw masnachol Midamor ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy’n cael ei defnyddio ar y cyd â meddyginiaethau eraill fel arfer i drin pwysedd gwaed uchel neu chwyddo sy’n ganlyniad i fethiant y calon neu sirosis yr afu.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₆H₈ClN₇O.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 229.048 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₆h₈cln₇o |
Enw WHO | Amiloride |
Clefydau i'w trin | Gordroethi, ffibrosis systig, gordensiwn, anasarca, hypokalemia, gordensiwn, diffyg gorlenwad y galon, nephrogenic diabetes insipidus |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Rhan o | amiloride transmembrane transporter activity, amiloride transport, amiloride:proton antiporter activity, response to amiloride, cellular response to amiloride |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 229.048 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₆h₈cln₇o |
Enw WHO | Amiloride |
Clefydau i'w trin | Gordroethi, ffibrosis systig, gordensiwn, anasarca, hypokalemia, gordensiwn, diffyg gorlenwad y galon, nephrogenic diabetes insipidus |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Rhan o | amiloride transmembrane transporter activity, amiloride transport, amiloride:proton antiporter activity, response to amiloride, cellular response to amiloride |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae amiloride yn feddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf fel diwretig (cyffur dŵr). Mae'n gweithio ar yr arennau i gynyddu faint o wrin sy'n pasio trwy'r corff. Yn y DU mae'n cael ei ddosbarthu gan gwmni Rosemont o dan yr enw Amilamont. Mae hefyd ar gael fel cyffur generig[2]. Datblygwyd amiloride ym 1967. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]. Yn y Deyrnas Unedig, mae mis o feddyginiaeth yn costio'r GIG tua £24 [4].
Defnydd
golyguMae amiloride yn cael ei ddefnyddio i drin oedema (dargadwedd dŵr yn y corff) sy'n gallu codi o fethiant y galon neu haint ar yr afu. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin pwysedd gwaed uchel. Gall effaith amiloride ar lif yr wrin para am oriau, gan hynny dylid ei gymryd yn y bore. Mae amiloride yn achosi i'r arennau i gadw potasiwm.
Dos
golyguMae amiloride ar gael fel tabledi neu fel hylif (ffisig). Y dos arferol yw rhwng 5 i 20 mg y dydd. Mae'n dechrau gweithio o fewn 2 awr ac yn parhau i weithio hyd at 12 awr. Weithiau bydd amiloride yn cael ei weini ar yr un pryd a furosemide (co-amilofruse) a hydrochlorothazide (co-amilozide). Mae ar gael yn y DU trwy ragnodyn yn unig[5].
Sgil effeithiau
golyguPrin yw sgil effeithiau amiloride. Ymysg y sgil effeithiau anarferol yw aflonyddwch treuliol, dryswch, gwendid yn y cyhyrau, cramp, ceg sych, pendro a brechod[6].
Beichiogrwydd
golyguGall achosi lleihad yng nghyflenwad gwaed y baban yn y groth gan hynny nid yw'n cael ei ragnodi i ferched beichiog gan amlaf.
Bwydo ar y bron
golyguGall cael ei drosglwyddo i'r baban gan hynny nid yw'n cael ei gymeradwyo ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.
Gyrru
golyguDim problemau gwybyddus.
Alcohol
golyguMae'n iawn yfed yn gymedrol
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amilorid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pubchem. "Amilorid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Amiloride Rosemont Patient Information Leaflet[dolen farw] adalwyd 15 chwefror 2018
- ↑ Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol 2015 (Rhif 19) adalwyd 15 Chwefror 2018
- ↑ British national formulary : BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. t. 90. ISBN 9780857111562.
- ↑ Boots WEb MD Amiloride Archifwyd 2015-09-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 15 chwefror 2018
- ↑ Drugs.com Amiloride adalwyd 15 chwefror 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |