An Excellent Mystery
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw An Excellent Mystery ("Dirgelwch Ardderchog") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1985. Dyma'r unfed nofel ar ddeg yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1985 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | The Pilgrim of Hate |
Olynwyd gan | The Raven in the Foregate |
Cymeriadau | Cadfael |
Lleoliad y gwaith | Amwythig |
Ym mis Awst 1141, ar ôl i abaty Benedictaidd yng Nghaerwynt gael ei ysbeilio gan dân yn ystod gwarchae yn y ddinas honno mae'r mynachod yn ffoi ar draws Lloegr i geisio lloches. Dau frawd o'r urdd yn cyrraedd Abaty Amwythig, lle mae Cadfael yn fynach. Roedd y Brawd Humilis yn farchog croesgadwr enwog cyn i glwyf bron yn angheuol arwain at ei ymddeoliad o'r byd seciwlar. Mae ei gydymaith, Brawd Fidelis, sy'n gofalu amdano, yn fud, ac yn geidwad llawer o gyfrinachau. Yn y diwedd mae Cadfael yn darganfod y gwir.
Yn wahanol i lyfrau eraill yn y gyfres, ni chafodd y llyfr hwn ei addasu ar gyfer teledu.
Y teitl
golyguMae'r geiriau "an excellent mystery" yn y teitl yn dod o'r gwasanaeth priodasol yn Llyfr Gweddi Gyffredin: "Oh God, who hast consecrated the state of matrimony to such an excellent mystery … Look mercifully on these Thy servants." ("O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystâd prïodas i gyfryw ragorol ddirgeledigaethau, … Edrych yn drugarog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion.")