The Pilgrim of Hate

Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Pilgrim of Hate ("Pererin Casineb") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984.[1] Dyma'r degfed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).

The Pilgrim of Hate
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEdith Pargeter Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMacmillan Publishers Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1984 Edit this on Wikidata
Genreffuglen dirgelwch, ffuglen drosedd Edit this on Wikidata
CyfresThe Cadfael Chronicles Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganDead Man's Ransom Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAn Excellent Mystery Edit this on Wikidata
CymeriadauCadfael Edit this on Wikidata

Yn 1141 mae Cadfael a mynachod eraill Abaty Amwythig yn paratoi i ddathlu pen-blwydd symud casged y Santes Gwenffrewi i Abaty Amwythig ar 22 Mehefin. (Dod ag esgyrn y santes i'r Amwythig oedd sail y nofel gyntaf yn y gyfres, A Morbid Taste for Bones.) Yn anffodus, mae cysgod llofruddiaeth yn hongian dros yr ŵyl. Rai wythnosau ynghynt yng Nghaerwynt, lladdwyd marchog. Gallai hyn fod wedi cael ei wneud naill ai am resymau gwleidyddol neu bersonol, ac efallai bod y llofrudd yn ymguddio ymhlith pererinion sydd wedi dod i'r abaty. Rhaid i Cadfael ddarganfod y llofrudd.

Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1998.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anne K. Kaler, gol. (1998). Cordially Yours, Brother Cadfael (yn Saesneg). Bowling Green State University Popular Press. t. 3. ISBN 9780879727741.