Wythnosolyn gwleidyddol Gwyddelig yw An Phoblacht ("Y Weriniaeth"), a gyhoeddir gan Sinn Féin. Gwerthir tua 15,000 copi yr wythnos, sy'n ei wneud y papur newydd gwleidyddol gyda'r cylchrediad uchaf yn Iwerddon. Ceir fersiwn ar-lein hefyd. Prif amcan y papur yw hyrwyddo'r Broses Heddwch a chreu Iwerddon Unedig.[1]

An Phoblacht
Delwedd:Martin McGuinness reading a copy of An Phoblacht.jpg, AnPhoblachtHQ.JPG
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
IdiolegIrish republicanism Edit this on Wikidata
CyhoeddwrSinn Féin Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Gwyddeleg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu13 Rhagfyr 1906 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiDulyn, Belffast Edit this on Wikidata
PerchennogSinn Féin Edit this on Wikidata
PencadlysParnell Square Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anphoblacht.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y papur yn 1970 gyda enw dwyieithog, An Phoblacht / Republican News ond nid dyma'r papur gweriniaethol cyntaf yn Iwerddon. Cyhoeddwyd The Republic ym Melffast yn 1906 ac mae'r papur presennol yn ystyried ei hun fel y diweddaraf mewn olyniaeth o bapurau a chylchgronau gwerinaethol.[1]

Mae cynnwys y papur yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Iwerddon, yn y de a'r gogledd, ond ceir ystod o erthyglau a straeon newyddion am leoedd tramor hefyd.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato