An Taibhdhearc
Theatr iaith Wyddeleg genedlaethol Iwerddon yw An Taibhdhearc. Fe'i sefydlwyd ym 1928. Gelwir hefyd yn Taibhdhearc na Gaillimhe ac yn Amharclann Náisiúnta na Gaeilge.
Enghraifft o'r canlynol | theatr, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1928 |
Rhanbarth | Gaillimh |
Gwefan | http://www.antaibhdhearc.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair taibhdhearc yn ymddangos fel glòs ar gyfer y teatrum Lladin (theatr) mewn hen ddogfen Wyddeleg, sy'n deillio o wreiddiau sy'n golygu "breuddwyd" a "cipolwg", er, ceir amrywiaeth ar y cyfieithied fel 'ysbrydlyd/rhith' a 'golwg'.[1] Y Wyddeleg fodern ar gyfer theatr yw 'amharclann'.
Hanes
golyguAr 27 Awst 1928, agorwyd y "Galway Gaelic Theatre", ac yn ddiweddarach "An Taibhdhearc", gyda drama "Diarmuid agus Gráinne", a berfformiwyd gan Micheál Mac Liammóir, drama a ysgrifenwyd yn wreiddiol yn y Saesneg ac yna ei chyfieithu i'r Wyddeleg.[2]
Fe'i sefydlwyd yn llawn yn Gaillimh yn 1929, ac mae wedi'i leoli ar Sráid Láir (Middle Street) yng nghanol y ddinas ers hynny. Roedd Earnán de Blaghd, y Gweinidog Cyllid yn 1927 yn fodlon rhoi grant i sefydlu’r theatr.
Micheál Mac Liammóir oedd cyfarwyddwr cyntaf y theatr a dechreuodd nifer o gynhyrchwyr ac actorion enwog weithio ym myd drama yn y Taibhdhearc, megis Siobhán McKenna, Michael Lally, Frank Dermody, Walter Macken, Caitlín Maude. Ymhlith y dramodwyr y perfformiwyd eu dramâu yn y theatr mae Eoghan Ó Tuairisc, Mairéad Ní Gráda, Crisostóir O’Flynn, Breandán Ó Beacháin, ac Antaine Ó Flatartha.
Gwnaed cyfraniad sylweddol hefyd gan academyddion a myfyrwyr Coleg Prifysgol Galway a chefnogaeth milwyr bataliwn iaith Wyddelig Lluoedd Arfog Iwerddon (byddin y Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ac yna Gweriniaeth Iwerddon).[3]
Lleoliad
golyguLleolir y Taibhdhearc yn 19 Middle Street, o fewn dinas ganoloesol Gaillimh (Galway). Mae wedi'i adeiladu ar adfeilion brodordy Urdd yr Awstiniaid gwreiddiol y ddinas. Mae'r wal gefn yn cynnwys wal o'r brodordy hwn, gan gynnwys rhai fframiau ffenestri carreg cerfiedig.
Lleoliad mewn gwyliau
golyguDefnyddir y theatr ar gyfer cynyrchiadau drama a cherddoriaeth, ac weithiau mae'n dangos ffilmiau rhyngwladol. Y cyfnod prysuraf i’r celfyddydau yn ninas Gaillimh bob blwyddyn yw pythefnos Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol flynyddol y ddinas.
Defnyddir yr adeilad hefyd fel lleoliad yng Ngŵyl Gomedi Gaillimh a gynhelir yn flynyddol ym mis Hydref.[4] Bu hefyd yn leoliad ar gyfer digwyddiad 'Music at the Crossroads' a arferid ei chynnal ym misoedd Awst a Medi ac oedd yn dathlu dawns a cherddoriaeth Wyddelig.[5]
Cau dro dro
golyguAr ôl dioddef difrod mwg helaeth yn ystod tân yn 2007, ceuodd y Taibhdhearc ei drysau am gyfnod estynedig o waith adnewyddu ac adeiladu.[6] Tra bod y theatr ar gau, parhaodd y Taibhdhearc i gynhyrchu sioeau mewn lleoliadau eraill o amgylch dinas a Swydd Gaillihm. Ail-agorwyd y theatr gan Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins ym mis Medi 2012.[7]
Adnewyddu
golyguYn dilyn y tân adnewyddwyd yr adeilad iddo fod yn theatr newydd o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer cynyrchiadau bychain, cynadleddau, seminarau, gweithdai a lansiadau. Mae gan yr awditoriwm 148 o seddi, ac mae’r bar/caffi Art Deco ar ei newydd wedd yn lle i werthfawrgori hanes hir y theatr. Mae'r adeilaf yn ganolfan i artistiaid theatr, y gymuned gelfyddydol, cymunedau Gwyddeleg ac mae’r caffi-bar ar agor 6 diwrnod yr wythnos, yn ogystal â chyn ac ar ôl sioeau.[8]
Cyfoes
golyguYn 2004 gwobrwywyd An Taibhdhearc sgript sgrîn Gradam Bhaitéir Uí Mhaicín ar gyfer cynhyrchiad Coinneáil Orainn ('Cadw Ni') gan Darach Ó Scolái, a lwyfanwyd gan An Taibhdhearc y flwyddyn ganlynol. Mae hanes y theatr wedi ei nodi gan llanw a thrai o ran llwyddiant ac heriau.[3]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol An Taibhdhearc
- @An.Taibhdhearc Tudalen Facebook y theatr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "An Taibhdhearc". Galway International Arts Centre. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
- ↑ Seán Stafford (2002). Journal of the Galway Archaeological and Historical Society, Vol. 54 pp. 183-214 (gol.). "Taibhdhearc na Gaillimhe: Galway's Gaelic Theatre". Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
- ↑ 3.0 3.1 John T. Koch (2006), Celtic Culture – A Historical Encyclopedia, ABC-CLIO, pp. 1645-1646
- ↑ "Venues". Galway Comedi Festival. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
- ↑ "Celtic Crossroads". Celtic Crossroads. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-11. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Kernan Andrews (16 Mehefin 2011). "An Taibhdhearc could re-open next year". Galway Advertiser.
- ↑ Niamh O'Sullivan (24 Medi 2012). "President Michael D Higgins to reopen An Taibhdhearc theatre". Gaelport.[dolen farw]
- ↑ "Venues". Galway Comedi Festival. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.