Awdures gweithiau erotig o Ffrainc oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.

Anaïs Nin
GanwydÁngela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin Culmell Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1903 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1977 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethllenor, hunangofiannydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, nofelydd, dawnsiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDelta of Venus Edit this on Wikidata
TadJoaquín Nin Edit this on Wikidata
MamRosa Culmell Vaurigaud Edit this on Wikidata
PriodHugh Parker Guiler, Rupert Pole Edit this on Wikidata
Gwobr/audoctor honoris causa, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times Edit this on Wikidata
llofnod

Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr. [1][2][3][4][5][6]

Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.

Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. [7]

Magwraeth

golygu

O Ciwba y daeth ei rhieni i Ffrainc; roedd Nin yn ferch i'r cyfansoddwr Joaquín Nin a Rosa Culmell, canwr clasurol o Gatalwnia.[8] Treuliodd Nin ei blynyddoedd cynnar yn Barcelona (Catalwnia) a Ciwba, tua 16 mlynedd ym Mharis (1924–1940), a hanner arall ei bywyd yn Unol Daleithiau America, lle daeth yn awdur cydnabyddiedig.[9] Roedd tad-cu ei thad wedi ffoi o Ffrainc yn ystod y Chwyldro, gan fynd yn gyntaf i Saint-Domingue, yna New Orleans, ac yn olaf i Ciwba lle helpodd i adeiladu rheilffordd gyntaf y wlad honno.[10]

Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi'n ddwy oed; yna symudodd ei mam Anaïs a'i dau frawd, Thorvald Nin a Joaquín Nin-Culmell, i Barcelona, ​​ac yna i Ddinas Efrog Newydd, lle mynychodd yr ysgol uwchradd. Gadawodd Nin yr ysgol uwchradd ym 1919 pan oedd yn un-deg-chwech oed, ac ar yr un pryd, gadawodd yr Eglwys Gatholig am byth. Yn ôl ei dyddiaduron (Cyfrol Un, 1931–1934), dechreuodd weithio fel model i artist ychydig yn ddiweddarach.[11][12]

 
Anaïs Nin; 1920

Ar 3 Mawrth 1923, yn Havana, Ciwba, priododd Nin ei gŵr cyntaf, Hugh Parker Guiler (1898–1985), bancwr ac artist, a adwaenid yn ddiweddarach fel "Ian Hugo" pan ddaeth yn wneuthurwr ffilmiau arbrofol ar ddiwedd y 1940au. Symudodd y cwpl i Baris y flwyddyn ganlynol, lle dilynodd Guiler yrfa mewn bancio a dechreuodd Nin ddilyn ei diddordeb mewn ysgrifennu ac fel dawnsiwr fflamenco. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn werthusiad beirniadol o D. H. Lawrence o'r enw D. H. Lawrence: Astudiaeth Amhroffesiynol, a sgwennodd mewn un-deg-chwe diwrnod diwrnod.[8]

Y llenor

golygu

Cyhoeddwyd llawer o'i gwaith, gan gynnwys y casgliadau erotig Delta o Venus a Little Birds, ar ôl iddi farw, pan ailgododd diddordeb yn ei gwaith.

Mae Nin yn cael ei chanmol gan lawer o feirniaid fel un o ysgrifenwyr gorau erotica benywaidd. Roedd yn un o'r merched cyntaf y gwyddys i wneud hynny, ac yn sicr y fenyw flaenllaw gyntaf yn y Gorllewin modern y gwyddys ei bod yn ysgrifennu erotica. Cyn hynny, roedd erotica wedi'i ysgrifennu gan fenywod yn brin, gydag ychydig o eithriadau nodedig, fel gwaith Kate Chopin. Yn aml, soniai Nin am awduron fel Djuna Barnes a D. H. Lawrence fel ysbrydoliaeth, ac mae'n dweud yng Nghyfrol Un o'i dyddiaduron iddi gael ei hysbrydoli gan Marcel Proust, André Gide, Jean Cocteau, Paul Valéry, ac Arthur Rimbaud.[13][14]

Llyfryddiaeth

golygu

Dyddiaduron a llythyrau

golygu

Ffuglen

golygu

Nofelau

golygu
  • House of Incest (1936)
  • Winter of Artifice (1939)
  • Cities of the Interior (1959), mewn pump cyfrol:
    • Ladders to Fire
    • Children of the Albatross
    • The Four-Chambered Heart
    • A Spy in the House of Love
    • Seduction of the Minotaur, a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel Solar Barque (1958).
  • Collages (1964)

Storiau byrion

golygu
  • Waste of Timelessness: And Other Early Stories
  • Under a Glass Bell (1944)
  • Delta of Venus (1977)
  • Little Birds (1979)
  • Auletris (2016)

Ffeithiol

golygu
  • D. H. Lawrence: An Unprofessional Study (1932)
  • The Novel of the Future (1968)
  • In Favor of the Sensitive Man (1976)
  • The Restless Spirit: Journal of a Gemini gan Barbara Kraft (1976) (rhagarweiniad gan Nin)
  • Aphrodisiac: Erotic Drawings gan John Boyce ar gyfer gwaith gan Anaïs Nin

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: doctor honoris causa, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 11 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anaïs Nin". "Anais Nin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 tystysgrif geni, Wikidata Q83900
  6. Enw genedigol: tystysgrif geni, Wikidata Q83900
  7. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 17 Ebrill 2015
  8. 8.0 8.1 Liukkonen, Petri. "Anaïs Nin profile". kirjasto.sci.fi (yn Ffinneg). Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2012. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  9. Fenner, Andrew. "The Unique Anaïs Nin". Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2016.
  10. Nin 1966, t. 125.
  11. Nin & DuBow 1994, t. xxi.
  12. Nin 1966, t. 183.
  13. Nin 1966, t. 60.
  14. Nin 1966, t. 29, 40.