André Rieu
Cyfansoddwr, arweinydd cerddorfa a ffidler o'r Iseldiroedd ydy André Léon Marie Nicolas Rieu (ganed 1 Hydref 1949). Mae'n fwyaf adnabyddus am greu Cerddorfa Johann Strauss sy'n chwarae cerddoraeth waltz.
André Rieu | |
---|---|
Ganwyd | André Léon Marie Nicolas Rieu 1 Hydref 1949 Maastricht |
Man preswyl | Maastricht |
Label recordio | Denon, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, fiolinydd, cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerdd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, waltz |
Tad | André Rieu sr. |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, Charlemagne Medal for European Media, Anrhydeddu Aur am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Goldene Stimmgabel, Goldene Stimmgabel, Goldene Stimmgabel, Marchog Urdd y Llew Iseldiraidd, Classic Brit Awards, Gorchymyn Teilyngdod Artistig a Diwylliannol Pablo Neruda |
Gwefan | http://www.andrerieu.com/ |
Ei fywyd cynnar a'i astudiaethau
golyguDaw'r enw Rieu o darddiad Huguenot Ffrengig. Dechreuodd astudio'r ffidl pan oedd yn bum mlwydd oed. Ei dad, o'r un enw, oedd arweinydd Cerddorfa Simffoni Maastricht. Ers yn ifanc iawn, roedd gan Rieu ddiddordeb byw mewn cerddorfeydd. Astudiodd y feiolin yn y Conservatoire Brenhinol yn Liège ac yn Conservatorium Maastricht, (1968–1973). Roedd ei athrawon yn cynnwys Jo Juda a Herman Krebbers. Rhwng 1974 a 1977, mynychodd yr Academi Gerddorol ym Mrwsel, yn astudio gyda André Gertler, a chan dderbyn ei radd "Premier Prix" o'r Brwsel Brenhinol.[1]
Cerddorfa Johann Strauss
golyguDechreuodd y gerddorfa yn 1987 gyda 12 aelod a chynhaliwyd y gyngerdd gyntaf ar 1 Ionawr 1988. Bellach mae'n cynnwys rhwng 80 a 150 o gerddorion. Pan aeth y gerddorfa ar daith Ewropeaidd am y tro cyntaf, sbardunodd ddiddordeb newydd mewn cerddoriaeth glasurol ar hyd y cyfandir.
Ei fywyd personol
golyguMae'n briod â Marjorie, sy'n gweithio llawn amser gydag ef fel rheolwr cynhyrchiadau, ac mae ganddynt ddau fab, Marc a Pierre. Mae'n medru siarad (yn nhrefn rhuglder) Iseldireg, Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.
Disgograffiaeth ddethol
golygu
|
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ André Rieu. classicfm.co.uk.