Andrew Fletcher (o Saltoun)
Roedd Andrew Fletcher o Saltoun (1655 - Medi 1716) yn awdur a gwleidydd o'r Alban, sy'n cael ei gofio fel gwrthwynebydd i Ddeddf Uno 1707 rhwng yr Alban a Lloegr[1].
Andrew Fletcher | |
---|---|
Ganwyd | 1655 Saltoun |
Bu farw | 1716, Medi 1716 Llundain |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Member of the Parliament of Scotland |
Plaid Wleidyddol | Country Party |
Bywyd personol
golyguGanwyd Fletcher yn Saltoun, Dwyrain Lothian yn fab ac etifedd i Syr Robert Fletcher a Catherine Bruce ei wraig.
Cafodd ei addysgu gan Gilbert Burnet[2], gweinidog plwyf Saltun ar y pryd, ac Esgob Caersallog wedyn; cyn mynd i deithio Ewrop er mwyn cwblhau ei addysg
Gyrfa wleidyddol
golyguEtholwyd Fletcher i Senedd yr Alban fel Comisiynydd Swydd Haddington ym 1678. Ar y pryd, John Maitland, Dug cyntaf Lauderdale oedd cynrychiolydd Siarl II yn yr Alban. Roedd gan y Dug bwerau i godi trethi yn yr Alban, a chynhaliodd fyddin sefydlog yno yn enw'r Brenin. Bu Fletcher yn wrthwynebydd ffyrnig i'r Dug, i lywodraeth frenhinol yn yr Alban, ac i'r drefn o etifeddu grym gwleidyddol. Fel aelod o Blaid y Wlad, yr wrthblaid yn senedd yr Alban roedd Fletcher hefyd yn gwrthwynebu unrhyw gamau mympwyol ar ran yr Eglwys neu'r wladwriaeth.
Alltudiaeth
golyguO herwydd ei farn wleidyddol cafodd Fletcher ei gyhuddo o gynllwynio yn erbyn y Brenin ym 1683, a bu'n rhaid iddo ffoi o'r Alban[3]. Ymunodd â grŵp o wrthwynebwyr Seisnig y Brenin Siarl yn yr Iseldiroedd, o dan arweiniad James Scott, Dug 1af Mynwy. Cafodd ei benodi'n bennaeth ar gatrawd o wŷr meirch, fel rhan o luoedd Gwrthryfel Dug Trefynwy (ymgais aflwyddiannus i ddisodli'r Brenin Iago II & VII). Bwriad Fletcher oedd taro yn sydyn yn erbyn y catrodau milisia sirol wrth iddynt gael eu ffurfio. I ddilyn ei gynllun roedd angen ceffyl cyflym arno, a phenderfynodd atafaelu un gan Thomas Dare, un arall o gefnogwyr y Dug. Doedd Dare dim yn fodlon colli ei geffyl a bu ffrwgwd rhyngddo a Fletcher a arweiniodd at Dare yn cael ei saethu'n farw[4]. Gan nad oedd Trefynwy am greu rhwyg ymysg ei ddilynwyr penderfynodd y Dug i ddanfon Fletcher yn ôl i alltudiaeth.
Ymunodd Fletcher â'r Tywysog Wiliam o Orange, a dychwelodd i wledydd Prydain gyda'r tywysog wrth iddo oresgyn yr ynysoedd ym 1688. Adferwyd ei ystadau a'u statws iddo gan y tywysog wedi iddo gael ei ddyrchafu'n frenin[5] ond collodd Fletcher ymddiriedaeth yn y Brenin William III & II pan ddaeth yn amlwg bod William am ddefnyddio'i breniniaethau newydd er mwyn ei helpu i ymladd rhyfeloedd tramor.
Gwrthwynebu'r Ddeddf Uno
golyguAdferwyd ystadau Fletcher iddo ac ail ymunodd a bywyd cyhoeddus yr Alban gan bledio achos hawliadau ei wlad dros fuddiannau Lloegr yn ogystal â gwrthwynebu pŵer brenhinol. Ym 1703, mewn cyfnod allweddol yn hanes yr Alban, daeth Fletcher unwaith eto yn aelod o Senedd yr Alban fel yr aelod dros Swydd Haddington. Erbyn hyn roedd y Frenhines Anne ar yr orsedd ac roedd ymgyrch i uno Lloegr a'r Alban mewn undod seneddol yn ogystal ag undod brenhinol.
Bu Fletcher yn gefnogwr cynnar i Gynllun Darien, ymgais aflwyddiannus gan uchelwyr yn yr Alban i droi'r wlad yn wlad fasnachu byd eang trwy sefydlu gwladfa o'r enw "Caledonia" yn Panama ar ddiwedd y 1690au. Trodd y cynllun yn drychineb ariannol a chollwyd hyd at 50% o holl gyfoeth yr Alban trwy ei fethiant. Roedd Fletcher a Phlaid y Wlad yn beio methiant y cynllun ar ymyrraeth fwriadol Lloegr i sicrhau ei fethiant ac yn galw'r ymyrraeth yn weithred o elyniaeth gan Loegr; bu'n ymgyrch i ddod ag undod coronau'r Alban a Lloegr i ben ac i'r Alban cael ei godi'n wlad cyfan gwbl annibynnol eto[6].
Trwy ddifetha'r elit gwleidyddol yn arianol, roedd cynllun Darién wedi gwanhau gwrthwynebiad i gynlluniau Lloegr ar gyfer Undeb - trwy i Loegr gynnig digolledu rhywfaint o'r arian a gollwyd i Albanwyr a fyddai'n cefnogi undeb y seneddau. Parhaodd Fletcher i ddadlau yn erbyn 'undeb ymgorffori' ac ar gyfer undeb ffederal i ddiogelu cenedl yr Alban. Er nad lwyddodd i atal y Ddeddf Uno gael ei basio gan Senedd yr Alban trwy'r dadleuon hyn, enillodd Fletcher gydnabyddiaeth fel gwladgarwr annibynnol.
Marwolaeth
golyguYm 1707 cafodd y Ddeddf Uno ei gymeradwy gan Senedd yr Alban, gan uno'n swyddogol yr Alban â Lloegr i ffurfio Teyrnas Prydain Fawr. Ymneilltuodd Fletcher o wleidyddiaeth mewn anobaith ac ymroddodd weddill ei fywyd i ffermio a datblygu amaeth yr Alban. Bu farw yn ddibriod yn Llundain ym mis Medi 1716. Ei eiriau olaf oedd "Arglwydd rho drugaredd i fy ngwlad dlawd sydd wedi cael ei ormesi mewn modd mor farbaraidd". Rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell o dan Eglwys blwyf Saltun.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ANDREW FLETCHER OF SALTOUN adalwyd 30 Tachwedd 2017
- ↑ Andrew Fletcher of Saltoun – The Patriot (1655–1716) Archifwyd 2017-06-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Tachwedd 2017
- ↑ Lives of illustrious and distinguished Scotsmen: from the earliest period to the present time Chambers, Robert, Cyf 2, Tud 317
- ↑ Scotland Back in the Day: Andrew Fletcher, a popular, perplexing, proto-socialist patriot The National 29 Mawrth 2016 adalwyd 30 Tachwedd 2017
- ↑ R. A. Scott Macfie, A bibliography of Andrew Fletcher of Saltoun, Proceedings of the Edinburgh Bibliographical Society, 4/2 (1901), 117–48
- ↑ Oxford Dictionary of national Biography: Fletcher, Andrew, of Saltoun(1653?–1716) awdur John Robertson adalwyd 30 Tachwedd 2017