Andrew Marr
Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, a sylwebydd gwleidyddol o Albanwr yw Andrew William Stevenson Marr (ganwyd 31 Gorffennaf 1959). Roedd yn olygydd The Independent am ddwy flynedd hyd at fis Mai 1998 ac yn olygydd gwleidyddol BBC News o 2000 i 2005.
Andrew Marr | |
---|---|
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1959 Glasgow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Swydd | Political Editor of the BBC |
Cyflogwr | |
Priod | Jackie Ashley |
Plant | Harry Cameron Marr, Isabel Marr, Emily Marr |
Gwefan | http://www.primeperformersagency.co.uk/profile/andrew-marr/ |
Dechreuodd cyflwyno'r rhaglen wleidyddol fore Sul Sunday AM, a elwir bellach yn The Andrew Marr Show, ar BBC One ym mis Medi 2005. Cyflwyna Marr hefyd y rhaglen Start the Week ar BBC Radio 4. Yn 2007 cyflwynodd hanes gwleidyddol o Brydain ers 1945 ar BBC Two, Andrew Marr's History of Modern Britain, a ddilynwyd gan raghanes o'r cyfnod 1901–45 yn 2009 o'r enw Andrew Marr's The Making of Modern Britain. Ysgrifennodd dau lyfr i fynd efo'r cyfresi teledu.