Bilidowcar (rhaglen deledu)

Rhaglen gylchgrawn i blant oedd Bilidowcar a ddarlledwyd ar BBC Cymru yn wreiddiol. Cafodd ei greu yn 1975 fel ymateb BBC Cymru i raglen blant Blue Peter. Fe drosglwyddodd y rhaglen i S4C ar ôl lansio'r sianel yn 1982 ac fe barhaodd hyd 1988. Roedd y rhaglen yn cyflwyno nifer o bynciau amrywiol gydag eitemau yn y stiwdio ac ar ffilm. Roedd y cyflwynwyr hefyd yn teithio i nifer o wledydd o gwmpas y byd i ddangos hanesion o lefydd fel America, Indonesia, Bangkok ymysg eraill.

Bilidowcar
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru, S4C
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1975 – 1988

Fe'i cyflwynwyd gan nifer o unigolion dros y blynyddoedd. Y cyflwynwyr cyntaf oedd Hywel Gwynfryn a Marged Esli a roedd nifer o gyflwynwyr eraill yn cynnwys, Naomi Jones, a Caryl Parry Jones a ymunodd yn 1979 ar ôl graddio.

Wedi symud i S4C cafwyd cyflwynwyr newydd Emyr Davies, Dewi Williams, Angharad Mair ac Ynyr Williams. Ar ôl i Angharad adael i fynd i ddarllen y newyddion fe ymunodd Liz Scourfield a'r criw.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bilidowcar yn dathlu'r 40 , BBC Cymru Fyw, 22 Ebrill 2015. Cyrchwyd ar 22 Mawrth 2016.

Dolenni allanol

golygu