Rhaglen gylchgrawn ar y sianel Gymraeg S4C oedd Wedi 7. Cyn i'r amser darlledu gael ei newid yn 2003, darlledwyd hi o dan yr enw Wedi 6. Enw'r rhaglen flaenorol yn yr un slot oedd Heno. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni Tinopolis.

Wedi 7

Logo Wedi 7
Genre Rhaglen gylchgrawn
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 7 Ionawr 200228 Mawrth 2012
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Darlledwyd y rhaglen yn gyntaf ar nos Lun, 7 Ionawr, 2002 gyda Angharad Mair yn cyflwyno a Catrin Evans yn cyfweld y gwleidydd Rod Richards a Gwyn Llywelyn yn holi Brif Gwnstabl Gogledd Cymru ar y pryd, Richard Brunstrom, yn ei gyfweliad Cymraeg cyntaf. Mewn adolygiad, dywedodd Ffion Emlyn mai dechrau digon nerfus oedd i'r rhaglen a nododd mai "Heno mewn clogyn newydd" oedd y rhaglen.[1]

Darlledwyd y rhifyn olaf ar nos Fercher, 28 Mawrth, 2012 wrth i S4C ail-drefnu'r amserlen, yn dilyn toriadau enbyd i gyllid y sianel. Ar y 1af o Fawrth fe lansiwyd rhaglen newydd yn yr un slot am 7 o'r gloch a fe ddychwelyd i'r enw gwreiddiol Heno.

Cynnwys y Rhaglen

golygu

Angharad Mair oedd prif gyflwynydd a golygydd y rhaglen, gyda Branwen Gwyn, Heledd Cynwal a John Hardy yn cyflwyno o bryd i'w gilydd. Roedd y rhaglen hanner awr yn cynnwys straeon ysgafn o Gymru gyda phwyslais ar hamdden, adloniant, diwylliant a digwyddiadau led led Cymru a thu hwnt. Roedd y rhaglen yn rhoi sylw hefyd i Gymry sydd wedi cael llwyddiant y tu allan i ffiniau'r wlad. Pob nos, roedd gwestai adnabyddus yn ymuno â'r cyflwynydd yn y stiwdio. Roedd yna dîm o ohebyddion o Lanelli a Chaernarfon yn dod ag adroddiadau byw i'r rhaglen bob nos. Ers mis Hydref 2008, darlledwyd y rhaglen 5 gwaith yr wythnos yn hytrach na 4 noson fel y gwnaed cyn hynny.

Roedd hefyd chwaer-raglen o'r enw Wedi 3 a ddarlledwyd am awr bob pnawn ar S4C Digidol yn unig. Prif gyflwynwyr y rhaglen honno oedd John Hardy ac Elinor Davies. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio'n bennaf ar sgyrsiau yn y stiwdio gyda gwestai rheolaidd yn dod i siarad am bynciau fel coginio a ffasiwn ac adolygu'r papurau newydd ac adolygiadau o'r llyfrau diweddaraf.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Ffion Emlyn yn trafod rhaglenni teledu. BBC Cymru'r Byd (16 Ionawr 2002). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato