Offeryn morwriaeth yw angor sy'n sowndio'r llong i waelod y môr i'w hatal rhag symud â'r gwynt neu'r cerrynt. Ei ddiben yw atal y llong rhag cael ei gyrru i lennydd creigiog a pheryglus mewn storm.

Angor
Angor yng Nghaernarfon.
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathship element, weight, docking & anchoring product Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ50182669, hook Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwneir yr angor modern o fetel a chanddo baladr, neu goes. Ar un pen i'r goes mae trawst a elwir bôn, troed, neu said, sydd yn terfynu mewn dwy fraich, a elwir gafael-fachau, sy'n dal yr angor yng ngwely'r môr. Ar y pen arall i'r paladr, mae dolen, ac wrth yr hon y sicrheir y rhaff neu'r gadwen.

Benthyciwyd yr enw Cymraeg, sy'n dyddio'n ôl i'r 12g, o'r gair Lladin anchora.[1]

Hanes golygu

Dywedir y byddai yr hen angorau yn cael eu gwneud o gerrig mawrion, neu goed ceimion wedi eu llwytho â phlwm. Defnyddir y cyfryw angorau hyd heddiw mewn rhai gwledydd. Defnyddia eraill gewyll wedi eu llenwi â cherrig, neu sachau wedi eu llenwi â thywod, i'r un diben. Gollyngid y rhai hyn i'r môr wrth raffau, a chan eu pwysau atalient y llong.

Y Groegiaid o'r diwedd a ddechreuasant wneud eu hangorau o haearn, ac ar y dechrau, nid oedd ganddynt ond un gafael-fach, neu ddant. O'r diwedd, ychwanegwyd dant arall, naill ai gan Eupalamus, neu yn ôl eraill gan yr athronydd Anacharsis. Nid oeddynt eto yn meddu'r trawst, ac felly yr oeddynt yn dra amherffaith.

Byddai amryw angorau yn perthyn i bob llong, ond yr oedd un, yr hwn a dra ragorai mewn maintioli a nerth ar y lleill, ac a ystyrid gynt yn gysegredig, fel nad arferid ef un amser oddi eithr pan fyddai'r perygl yn fawr.

Symbolaeth Gristnogol golygu

Arwydd o obaith ydy'r angor mewn symbolaeth Gristnogol, mewn cyfeiriad at Hebreaid 6:19, "Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel."[2] Mewn celf Gristnogol, gallai'r angor ddynodi naill ai'r Sant Clemens o Rufain (Pab Clemens I, 88–99 OC), a ddywed iddo gael ei rwymo at angor a'i fwrw i'r Môr Du, neu Sant Nicolas, nawddsant y morwyr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  angor. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Mai 2017.
  2. "Hebreaid 6", beibl.net. Adalwyd ar 21 Chwefror 2019.
  3. The Wordsworth Dictionary of Phrase and Fable (Ware, Swydd Hertford: Wordsworth Editions, 2001), t. 44.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.