Anna Wintour
Awdures Eingl-Americanaidd yw Anna Wintour (ganwyd 3 Tachwedd 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a golygydd ffasiwn, ac sy'n olygydd Vogue ers 1988. Ers 2013 mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig y cwmni Condé Nast, sef y cwmni sydd berchen Vogue.[1] Yn 2019 roedd ei chyflog honedig yn agos i $2 y flwyddyn.[2][3]) is a British-American[4]
Anna Wintour | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1949 Hampstead |
Man preswyl | Llundain, Greenwich Village |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd ffasiwn, llenor, golygydd, media executive |
Swydd | prif olygydd, cyfarwyddwr artistig, prif olygydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Fashion Fund |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Charles Wintour |
Mam | Eleanor Trego Baker |
Priod | David Shaffer, Shelby Bryan |
Partner | Piers Paul Read, Nigel Dempster, Richard Neville, Michel Esteban, Shelby Bryan, Bill Nighy |
Plant | Charles Shaffer, Katherine Shaffer |
Perthnasau | Elizabeth Cavendish |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, OBE, CFDA Lifetime Achievement Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Great Immigrants Award |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Llundain ar 3 Tachwedd 1949 yn Hampstead, Llundain i Charles Wintour (1917–1999), ac Eleanor "Nonie" Trego Baker (1917–1995), Americanes a merch athro prifysgol o Havard.[5] Priododd ei rhieni yn 1940 ac ysgarodd y ddau yn 1979.[6] Enwyd Wintour ar ôl ei nain ar ochr ei mam, Anna Baker (née Gilkyson), merch i fasnachwr o Pennsylvania.[7]
Mae ei steil-gwallt pageboy a'i sbectol haul yn nodweddiadol ohoni. Daeth yn un o gymeriadau mwyaf dylanwadol y byd ffasiwn, yn rhyngwladol. Caiff ei hadnabod am ei llygad craff am y trend ddiweddaraf ac am gefnogi cynllunwyr newydd, ifanc. Oherwydd ei chymeriad unigryw, ar wahân, pendant, penstiff, honedig, rhoddwyd iddi'r llysenw "Nuclear Wintour".[8][9][10][11]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Fashion Fund (2014), ac yn y flwyddyn honno, fe'i henwyd gan y cylchgrawn Forbes fel y 39fed ferch mwyaf dylanwadol a phwerus y byd.
Yn yr Unol Daleithiau, mae'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.
Dylanwad cynnar
golyguRoedd ei thad, Charles Wintour yn golygydd y London Evening Standard (1959–76), ac ymgynghori â hi ar sut i wneud y papur newydd yn berthnasol i ieuenctid y cyfnod. Roedd gan Anna ddiddordeb mewn ffasiwn pan oedd yn ei harddegau a rhoddodd gyngor i'w thad. Dechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth ffasiwn mewn dau gylchgrawn Prydeinig ac yna symudodd i'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i Lundain ac roedd yn olygydd British Vogue rhwng 1985 a 1987. Flwyddyn yn ddiweddarach, cymerodd reolaeth ar y cylchgrawn (dan fasnachfraint / franchise) yn Efrog Newydd, gan adfywio'r ffasiwn yno, a oedd yn tin-ymdroi yn ei unfan. Defnydd y cylchgrawn i siapio'r diwydiant ffasiwna llwyddodd i raddau helaeth iawn.
Mae gweithredwyr hawliau anifeiliaid wedi ymosod arni am hyrwyddo ffwr, tra bod beirniaid eraill wedi ei chyhuddo o ddefnyddio'r cylchgrawn i hyrwyddo golygfeydd elitaidd o fenywod a harddwch.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o'r Amgueddfa Gelf Fetropolitan am rai blynyddoedd. [12]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Chevalier de la Légion d'Honneur, OBE, CFDA Lifetime Achievement Award (2003), Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (2017), Great Immigrants Award (2010)[13][14] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chris Rovzar, "Anna Wintour, Rest of City Turn Out to Vote", New York, Tachwedd 2008. Adalwyd 10 Awst 2016.
- ↑ 26 Medi 2005; Who Makes How Much – New York's Salary Guide; New York. Retrieved 3 Mawrth 2007.
- ↑ "Anna Wintour". Vogue (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-13. Cyrchwyd 2018-11-01.
- ↑ "Obama supporter Anna Wintour reportedly considered for ambassadorial post by administration", The Hollywood Reporter. Adalwyd 10 Awst 2016.
- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
- ↑ Oppenheimer, 2. "Eleanor Baker, an American, met Wintour at Cambridge University in England in the fall of 1939 ... [Her mother], Anna Gilkyson Baker, for whom Anna Wintour was named, was a charming, matronly, somewhat ditzy society girl from Philadelphia's Main Line ..."
- ↑ Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Dyddiad geni: https://www.biography.com/people/anna-wintour-214147. "Anna Wintour". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Wintour". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Wintour". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Anrhydeddau: https://geoffreybeenefoundation.com/geoffrey-beene-lifetime-achievement-award-cfda-geoffrey-beene-design-scholar-award/. dyddiad cyrchiad: 20 Medi 2019. https://www.carnegie.org/awards/great-immigrants/2010-great-immigrants/.
- ↑ https://geoffreybeenefoundation.com/geoffrey-beene-lifetime-achievement-award-cfda-geoffrey-beene-design-scholar-award/. dyddiad cyrchiad: 20 Medi 2019.
- ↑ https://www.carnegie.org/awards/great-immigrants/2010-great-immigrants/.