Annabel Giles

actores

Model, cyflwynydd radio a theledu ac actores oedd Annabel Claire Giles (20 Mai 195920 Tachwedd 2023).[1]

Annabel Giles
Ganwyd20 Mai 1959 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl, Griffithstown Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2023 Edit this on Wikidata
o glioblastoma Edit this on Wikidata
Hove Edit this on Wikidata
Man preswylBrighton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd, model, actor, ysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
PriodMidge Ure Edit this on Wikidata
PlantMolly McQueen Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe'i ganed yn Griffithstown, ger Pontypwl, Sir Fynwy, yr hynaf o dair chwaer. Roedd ei thad yn beilot gyda Changen Awyr y Fflyd ac roedd ei mam yn nyrs. Symudodd y teulu yn aml gan fyw yn yr Alban, Malta a Wimbledon, Llundain. Aeth i ysgol breswyl yn 8 mlwydd oed.[2] Cafodd ei diarddel o'i hysgol pan oedd yn16 oed.

Gyrfa golygu

Rhwng 1977 a 1982 hyfforddodd a gweithiodd fel ysgrifenyddes; nes y cafodd swydd fel wyneb poblogaidd cosmetics Max Factor.

Cafodd yrfa amrywiol ym myd teledu a radio. Cychwynodd efo Razzmatazz a Night Network yn y 1990au yn cyflwyno Posh Frocks and New Trousers efo Sarah Greene ar ITV. Ymddangosodd hefyd ar raglennu teledu House Party guda Noel Edmonds, Have I Got News for You, Shooting Stars, ar banel Through the Keyhole yn ogystal â Just a Minute (BBC Radio 4).

Bywyd personol golygu

Priododd Midge Ure, prif ganwr Ultravox ac un o hoelion wyth Band Aid a Live Aid. Ganwyd merch iddynt, Molly Lorenne, yn 1987 ond gwahanodd y cwpl yn 1989.

Cafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd yng Ngorffennaf 2023. Bu farw ar 20 Tachwedd 2023 yn Hosbis Martlets, Hove, yn 64 mlwydd oed.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Smith, Steven (2023-11-21). "TV presenter Annabel Giles has died after brain tumour diagnosis". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-21.
  2. Giles, Annabel (2006-07-04). "Love etc". The Times. Cyrchwyd 2023-11-21.
  3. "Y cyflwynydd Annabel Giles o Bont-y-pŵl wedi marw yn dilyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd". newyddion.s4c.cymru. 2023-11-21. Cyrchwyd 2023-11-21.

Dolenni allanol golygu